
The Story of Wales: The Furnace of Change

RCAHMW 3D model of the engine house at Hafod Copperworks, HMC805, nprn:- 33710
Ar ôl dangos tair rhaglen gyntaf “The Story of Wales” yr wythnos ddiwethaf, bydd modd gweld gweddill y gyfres yr wythnos hon ar BBC2 am 7pm. Heno bydd rhaglen 4, “The Furnace of Change”, yn edrych ar sut y cafodd Cymru ei throi’n rym economaidd byd-eang yn ystod y Chwyldro Diwydiannol, gan roi sylw arbennig i gloddio am gopr ar Fynydd Parys, Ynys Môn, a’i fwyndoddi yn ‘Copperopolis’, Abertawe, a’i allforio oddi yno, a gweddnewid y diwydiant haearn gan deulu Crawshay ym Merthyr Tudful. Bydd hefyd yn ystyried y cynnwrf cymdeithasol a achoswyd gan y newidiadau hyn, megis y terfysgoedd a’r gwrthryfeloedd ym Merthyr Tudful a Chasnewydd a Therfysgoedd Beca yng nghefn gwlad.
Cysylltau i’r safleoedd sy’n cael sylw yn y 4edd raglen:
- Parys Mountain Copper Mines
- Hafod and Morfa Copperworks, Swansea
- Cyfarthfa Ironworks, Methyr Tydfil
- Cyfarthfa Castle, Merthyr Tydfil
- Chartist uprising monument and mural, John Frost Square, Newport
- Carmarthen Workhouse – stormed by Rebecca rioters in 1843
Yn olaf, ceir yn Trysorau Cudd: Hidden Histories, llyfr llawn lluniau gwych y Comisiwn Brenhinol, adran hynod ddiddorol ar ‘Y Genedl Ddiwydiannol Gyntaf’ gan Stephen Hughes a Dr Peter Wakelin, sy’n cyfrannu deg erthygl bwysig ar y pwnc hwn. Yn ogystal, bydd y rheiny sy’n ymddiddori yn y Gymru ddiwydiannol yn cael eu cyfareddu gan lyfr swmpus y Comisiwn Brenhinol ar y diwydiant copr: Copperopolis: Landscapes of the Early Industrial Period in Swansea. Gellir cael copïau o’n holl gyhoeddiadau drwy ein siop lyfrau, ac mae disgownt arbennig o 10% ar gael i Gyfeillion. I gael mwy o wybodaeth, ewch i wefan y Comisiwn Brenhinol neu ffoniwch 01970 621200.
10/10/2012