The Story of Wales: The Making of Wales

Tre'r Ceiri hillfort, Sir Gaernarfon, AP_2007_0226 NPRN 95292

Tre’r Ceiri hillfort, Sir Gaernarfon, AP_2007_0226 NPRN 95292

 

Bydd “The Story of Wales”, cyfres boblogaidd y BBC sy’n cael ei chyflwyno gan Huw Edwards, yn dychwelyd heno. Caiff ei dangos ar BBC2 am 7pm a bydd y rhaglen 1af, “The Making of Wales”, yn edrych ar Gymru yn y cyfnod cynhanesyddol, gan roi sylw i bynciau megis y gladdfa ddynol gynharaf y gwyddom amdani yng Ngorllewin Ewrop yn Ogof Pen-y-fai, y mwynglawdd copr mwyaf yn y byd ar Benygogarth yn Llandudno, y beddrod siambr Neolithig ym Marclodiad y Gawres, a’r fryngaer o’r Oes Haearn yn Nhre’r Ceiri. Bydd yn rhoi sylw hefyd i’r safleoedd Rhufeinig yng Nghaerllion, y cerrig arysgrifedig yn eglwys Sant Illtud, Llanilltud Fawr ac, yn olaf, yr eglwys gadeiriol yn Nhyddewi.

Cysylltau i’r safleoedd sy’n cael sylw yn y rhaglen 1af:

Os bydd gwylwyr yn dymuno dysgu mwy am hanes Cymru, efallai y bydd ganddynt ddiddordeb yng nghyhoeddiad canmlwyddiant y Comisiwn Brenhinol, Trysorau Cudd, sydd hefyd ar gael yn y Saesneg o dan y teitl Hidden Histories. Ceir rhagair gan Huw Edwards yn y llyfr. Mae ar gael gan y Comisiwn Brenhinol am £19.95 yn unig gan gynnwys cludiant yn y DU a gall Cyfeillion hawlio disgownt o 10%. Mae gan y cyhoeddiad gwych hwn draethodau sy’n ymdrin â’r rhan fwyaf o’r pynciau yn y gyfres, ynghyd ag astudiaethau achos â chyfoeth o luniau a llyfryddiaeth lawn ar gyfer darllen pellach. Mae rhan gyntaf y llyfr yn cynnwys adrannau ar Gynhanes, Cymru’r Oes Haearn a Chymru Rufeinig, a Chymru’r Oesoedd Canol Cynnar. Yn ogystal, mae’n siŵr y bydd gwylwyr sydd â diddordeb yng Nghymru Rufeinig yn cael eu cyfareddu gan gyhoeddiad cynhwysfawr y Comisiwn Brenhinol, Roman Frontiers in Wales and the Marches, sydd ar gael drwy ein siop lyfrau, eto gyda disgownt arbennig o 10% i Gyfeillion. I gael mwy o wybodaeth, ewch i wefan y Comisiwn Brenhinol neu ffoniwch 01970 621200.

10/03/2012

Leave a Reply

avatar

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets