The Story of Wales: Wales and Britain

Awyrlun yn dangos y difrod yng nghanol Abertawe adeg y rhyfel. AFR10857  NPRN 33145

Awyrlun yn dangos y difrod yng nghanol Abertawe adeg y rhyfel. AFR10857 NPRN 33145

 

Bydd y chweched raglen yng nghyfres BBC Cymru, “The Story of Wales”, a’r olaf, yn cael ei dangos heno ar BBC2 am 7pm. Gan ddilyn y digwyddiadau a newidiadau yng Nghymru o’r Ail Ryfel Byd hyd heddiw, mae’n cwmpasu llu o bynciau megis bomio Abertawe yn yr Ail Ryfel Byd, dechrau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol o dan Aneurin Bevan, diwydiannau dur Port Talbot, Glynebwy a Shotton, ymgyrch yr Iaith, a’r camau tuag at lywodraeth annibynnol i Gymru. Mae’r gyfres boblogaidd a gwerthfawr hon wedi cynyddu ein dealltwriaeth o hanes Cymru ac wedi ysgogi dadl ar ystyr Cymreictod yn yr unfed ganrif ar hugain. Gellir gweld y rhaglenni ar BBC iPlayer yn ystod y dyddiau nesaf ac mae DVD bellach ar gael drwy’r Brifysgol Agored.

Cysylltau i’r safleoedd sy’n cael sylw yn y 6 raglen:

‘Cymru wedi’r Ail Ryfel Byd’ gan Richard Suggett ac ‘Ymlaen i’r Dyfodol’ gan Peter Wakelin yw’r penodau olaf yn Trysorau CuddHidden Histories, cyhoeddiad canmlwyddiant y Comisiwn Brenhinol sy’n ymdrin â phob cyfnod yn hanes Cymru ac sy’n gydymaith perffaith i bawb sydd â diddordeb yn hanes a threftadaeth ein gwlad. Gellir cael gwybodaeth awdurdodol am bob agwedd ar amgylchedd hanesyddol Cymru yn ein cyhoeddiadau niferus sydd, bob un, yn cynnwys llu o luniau trawiadol o adnoddau gweledol gwych Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru. Cynigir yr holl lyfrau am bris rhesymol ac mae gostyngiad arbennig o 10% ar gael i Gyfeillion. I gael mwy o wybodaeth, ewch i wefan y Comisiwn Brenhinol neu ffoniwch 01970 621200.

10/11/2012

guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x