
Thomas Pennant: Tours in Wales, gol. gan John Rhŷs. 3 cyfrol. Caernarvon: H. Humphreys. 1883. (cyhoeddwyd yn wreiddiol 1778–1781) (copi ffacsimili)

Tours in Wales gan Thomas Pennant (a gyhoeddwyd yn wreiddiol ym 1778–1781) yw un o’r gweithiau pwysicaf a mwyaf dylanwadol am Gymru a gyhoeddwyd erioed. Mae dylanwad y gwaith hwn ar deithiau yn y cyfnod Rhamantaidd wedi bod yn destun prosiect ymchwil o’r enw Teithwyr Chwilfrydig yr ymgymerwyd ag ef gan ein cymdogion drws nesaf yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd mewn partneriaeth â Phrifysgol Glasgow. Sut bynnag, roedd dylanwad Pennant ar ysgolheictod hynafiaethol Cymru yn fawr iawn hefyd, ac mae tudalennau cyhoeddiadau hynafiaethol ac archaeolegol, cylchgronau fel Archaeologia Cambrensis, a Rhestri’r Comisiwn Brenhinol yn cynnwys cyfeiriadau di-rif at hynafiaethau a ddisgrifiwyd gan Pennant. Nid yw’n syndod felly fod sawl copi ac argraffiad o’i lyfrau yn llyfrgell y Comisiwn Brenhinol. Mae’r rhain yn cynnwys argraffiad dwy-gyfrol 1783 ac argraffiad tair-cyfrol 1883, a gedwir yn y casgliad llyfrau prin yn archif y Comisiwn. Hefyd mae sawl argraffiad o’r gwaith ar gael ar-lein, yn fwyaf arbennig argraffiad wyth-cyfrol darluniedig, wedi’i gynhyrchu ar gyfer llyfrgell Pennant ei hun yn Downing Hall (NPRN 35791), sydd wedi cael ei ddigido gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Ffacsimili o argraffiad 1883 yw’r copi sydd ar silffoedd Llyfrgell ac Ystafell Ymchwil y Comisiwn. Cafodd yr argraffiad hwn ei olygu gan Syr John Rhŷs, Cadeirydd cyntaf y Comisiwn Brenhinol. Mae’r ffaith bod Rhŷs wedi golygu gwaith Pennant yn dangos ac yn atgyfnerthu ei bwysigrwydd o hyd i ysgolheigion amgylchedd adeiledig Cymru, ac i hanes cymdeithasol a diwylliannol Cymru’n gyffredinol. Mae’n amhrisiadwy ar gyfer deall tirwedd adeiledig a hynafiaethau Cymru ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif. Ond mae hefyd yn ffynhonnell werthfawr mewn perthynas â hanes gwerthfawrogi ac astudio hynafiaethau Cymru, a hanes y syniadaeth sydd wrth wraidd ein hastudiaeth ein hunain o henebion ac adeiladau hanesyddol. Drwy ddefnyddio ffynonellau o’r fath gallwn ddysgu mwy am amgylchedd adeiledig hanesyddol Cymru a mwy hefyd am ddatblygiad ein dealltwriaeth ein hunain o’r amgylchedd hwnnw.
Dr Adam Coward
Er bod y Llyfrgell ar gau ar hyn o bryd, gallwch fynd ar daith rithiol a phori’r silffoedd neu chwilio catalog ein Llyfrgell.


10/05/2020