
Thomas Telford, L.T.C. Rolt. London: Longmans, 1958
Roeddwn i’n gyfarwydd â gwaith Thomas Telford o oedran cynnar gan y byddai fy Nhad yn sôn am ei fywyd, ei ffordd o Lundain i Gaergybi, a Phont y Borth pan fyddem yn mynd i Gaergybi ar ein gwyliau.
Fe welais gofiant L.T.C. Rolt pan oeddwn yn fy ugeiniau ac mewn llyfrgell yng ngogledd Cymru yn chwilio am lyfrau i’w darllen yn ystod y shifft nos yn y gwaith cemegion.

Gyrfa Telford ym maes peirianneg
Mae cofiant Rolt yn ymdrin â gyrfa gyfan Telford ym maes peirianneg, o’i flynyddoedd cynnar yng ngororau’r Alban, drwy’r blynyddoedd o weledigaeth feiddgar a welodd godi Pont y Borth a Dyfrbont Pontcysyllte, hyd at ei gyfnod mwy ceidwadol yn ddiweddarach yn ei fywyd pan ddaeth gweledigaeth peirianwyr eraill fel Brunel i’r amlwg.
Wrth ddarllen am gampweithiau Telford yn y nos, ac yna eu gweld ar y ffordd adref y diwrnod wedyn, ysgogwyd ynof awch am ddysgu am beirianneg hanesyddol sy’n parhau hyd heddiw.
Stephen Bailey-John
Er bod y Llyfrgell ar gau ar hyn o bryd, gallwch fynd ar daith rithiol a phori’r silffoedd neu chwilio catalog ein Llyfrgell.


10/08/2020