Tîm CHERISH yn dechrau astudiaeth gyffrous newydd o Gaer Arfordirol Dinas Dinlle yng Ngwynedd

Mae prosiect archaeolegol cyffrous newydd wedi dechrau i astudio caer arfordirol drawiadol Dinas Dinlle ger Caernarfon yng ngogledd Cymru. Mae mapiau cynnar a siâp yr amddiffynfeydd yn awgrymu bod y gaer wedi’i hamgáu’n llwyr ar un adeg, ond erbyn heddiw mae rhannau o’r amddiffynfeydd gorllewinol wedi’u colli i’r môr ar ôl miloedd o flynyddoedd o erydu arfordirol.

Ychydig sy’n hysbys am y gaer. Credir ei bod yn perthyn i’r cyfnod cynhanesyddol diweddar ac mae ambell ddarganfyddiad yn awgrymu iddi gael ei meddiannu gan y Rhufeinwyr hefyd. Ar ddechrau’r 20fed ganrif roedd yn rhan o gwrs golff, ac yn ystod yr Ail Ryfel Byd cafodd amddiffynfa danddaearol, ffos ‘wylan’ a gwylfa eu hadeiladu ar y llethrau gogleddol i amddiffyn RAF Llandwrog – sydd bellach yn Faes Awyr Caernarfon.

Mae caer arfordirol Dinas Dinlle yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae wedi’i gosod ar fryn o waddodion drifft rhewlifol sy’n edrych dros y môr a gwastadedd arfordirol sir Gaernarfon. Mae’r gaer wedi’i diogelu fel Heneb Gofrestredig ac mae wyneb y clogwyn ei hun yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, wedi’i ddynodi oherwydd pwysigrwydd daearegol y gwaddodion rhewlifol sydd wedi’u dinoethi (Hawlfraint y Goron: CBHC AP_2014_0877)

Mae caer arfordirol Dinas Dinlle yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae wedi’i gosod ar fryn o waddodion drifft rhewlifol sy’n edrych dros y môr a gwastadedd arfordirol sir Gaernarfon. Mae’r gaer wedi’i diogelu fel Heneb Gofrestredig ac mae wyneb y clogwyn ei hun yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, wedi’i ddynodi oherwydd pwysigrwydd daearegol y gwaddodion rhewlifol sydd wedi’u dinoethi (Hawlfraint y Goron: CBHC AP_2014_0877)

 

Mae’r gwaith ymchwil newydd yn cael ei arwain gan dîm o archaeolegwyr, syrfëwyr, daearyddwyr a gwyddonwyr o’r prosiect CHERISH (prosiect ar newid hinsawdd a threftadaeth ddiwylliannol) sy’n cael ei ariannu gan yr UE. Yn ystod y 4 blynedd nesaf bydd y tîm CHERISH yn ymgymryd â nifer o astudiaethau i gofnodi a monitro effaith erydiad arfordirol a gwella dealltwriaeth o’r gaer a’r tir o’i chwmpas.

Meddai Louise Barker, uwch archaeolegydd ar y prosiect CHERISH: ‘Dyma un o’r safleoedd arfordirol gwychaf yng ngogledd Cymru, ond mae erydiad cyson yn fygythiad mawr iddo. Drwy ein gwaith rydym ni’n gobeithio dysgu pryd y cafodd Dinas Dinlle ei hadeiladu a’i meddiannu a faint sydd wedi’i golli i’r môr.’

Arolwg newydd ar y gweill. Gwaith arolygu manwl gan ddefnyddio system llywio lloeren byd-eang ac arolwg gradiomedr geoffisegol sy’n gallu canfod nodweddion archaeolegol megis ffosydd ac aelwydydd i ddyfnder o ryw 1 metr o dan yr wyneb.

Arolwg newydd ar y gweill. Gwaith arolygu manwl gan ddefnyddio system llywio lloeren byd-eang ac arolwg gradiomedr geoffisegol sy’n gallu canfod nodweddion archaeolegol megis ffosydd ac aelwydydd i ddyfnder o ryw 1 metr o dan yr wyneb.

 

Fel rhan o’i waith cychwynnol, bu’r tîm CHERISH yn tynnu awyrluniau newydd er mwyn creu model 3D o’r heneb ac yn gwneud arolwg manwl newydd i helpu i ddehongli’r safle drwy wella dealltwriaeth o ddatblygiad, ffurf a chyflwr y gaer. Hefyd ariannwyd arolwg geoffisegol newydd, a wnaed gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd, i weld o dan y pridd.

Model cyfrifiadurol 3D o’r gaer yn dangos yr erydiad ar yr arfordir. Cafodd ei gynhyrchu o awyrluniau a bydd yn galluogi archaeolegwyr i fesur cyfradd yr erydu.

Model cyfrifiadurol 3D o’r gaer yn dangos yr erydiad ar yr arfordir. Cafodd ei gynhyrchu o awyrluniau a bydd yn galluogi archaeolegwyr i fesur cyfradd yr erydu.

 

Bydd gwaith yn y dyfodol yn cynnwys casglu data 3D hynod fanwl (centimetr ac is-gentimetr) i fonitro ymyl y clogwyn sy’n erydu, gan ddefnyddio technolegau fel sganio laser daearol ac arolygu gan ddrôn. Bydd hyn yn darparu man cychwyn manwl gywir ar gyfer monitro yn y dyfodol, a thrwy ddadansoddi dogfennau hanesyddol megis awyrluniau a mapiau mae’r tîm yn gobeithio ailgreu mor fanwl â phosibl gyfraddau erydu yn ystod y 150 o flynyddoedd diwethaf. Drwy wneud gwaith creiddio a samplu yn y cyffiniau i geisio data palaeoamgylcheddol, ac astudio hen bapurau newydd a chofnodion stad, bydd hefyd yn ailgreu amgylchedd y gorffennol a hanes tywydd yr ardal.

Bydd y tîm CHERISH yn gweithio’n agos â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy’n berchen ar y safle. Meddai Andy Godber, Rheolwr Gweithrediadau Llŷn yr Ymddiriedolaeth: ‘Rydym wrth ein bodd i fod yn rhan o’r prosiect cyffrous yma. Mae Dinas Dinlle yn enghraifft berffaith o’r modd y mae newid hinsawdd yn bygwth ein harfordir. Ein polisi addasu arfordirol ar gyfer Dinas Dinlle yw derbyn y bydd y safle pwysig yma yn cael ei golli. Drwy fod yn rhan o’r prosiect CHERISH byddwn yn dysgu mwy am weithgareddau dyn yma ar hyd y canrifoedd, tra bo hynny’n dal yn bosibl.’

Ynghylch CHERISH

Prosiect Iwerddon-Cymru pum mlynedd o hyd yw CHERISH (Hinsawdd, Treftadaeth ac Amgylcheddau Riffiau, Ynysoedd a Phentiroedd). Y partneriaid yw Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, y Rhaglen Ddarganfod: Canolfan Archaeoleg ac Arloesedd Iwerddon, Prifysgol Aberystwyth: Yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, ac Arolwg Daearegol Iwerddon. Bydd y prosiect yn derbyn €4.1 miliwn drwy Raglen Iwerddon Cymru 2014-2020. Dechreuodd ym mis Ionawr 2017.

Nod CHERISH yw codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o effeithiau newid hinsawdd, stormydd a thywydd garw ar dreftadaeth ddiwylliannol gyfoethog moroedd rhanbarthol ac arfordiroedd Iwerddon a Chymru yn y gorffennol, y presennol a’r dyfodol agos. Bydd yn defnyddio technegau arloesol – sganio laser ar y ddaear ac o’r awyr, arolygon geoffisegol, mapio gwely’r môr, samplu palaeoamgylcheddol, cloddiadau a monitro llongddrylliadau – i astudio rhai o’r lleoliadau arfordirol mwyaf eiconig yn Iwerddon a Chymru.

Darganfyddwch fwy am y prosiect CHERISH yma http://www.cherishproject.eu/en/ a dilynwch y prosiect ar Facebook @CherishProject a Twitter @CHERISHproj er mwyn cael y newyddion diweddaraf a gwybodaeth am weithgareddau.

I gael mwy o wybodaeth am brosiect Dinas Dinlle cysylltwch â cherish@rcahmw.gov.uk
Louise Barker (CBHC Uwch Ymchwilydd) 01970 621212

 

GROUP LOGOS

12/11/2017

guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x