Tirweddau Cudd Ffin Rufeinig

Fel rhan o’r sesiwn Gorffennol Digidol 2017 ar Arolygu Digidol byddwn yn croesawu Nick Hannon, ymgeisydd PhD sy’n gweithio ar y prosiect ymchwil ‘Hidden Landscape of a Roman Frontier’.

Nod y prosiect hwn, sy’n fenter gydweithredol rhwng Prifysgol Canterbury Christ Church a Historic Environment Scotland, yw datblygu map archaeolegol cynhwysfawr o Fur Antwn gan ddefnyddio cyfuniad o LiDAR, sganio laser daearol a thechnegau pell-synhwyro eraill. Pwrpas yr adnodd deongliadol hwn wedyn fydd llywio a chyfrannu at ymchwil pellach i’r heneb a dulliau o’i rheoli.

Bydd Nick yn dadlau bod setiau data LiDAR, a’r wybodaeth fanwl a geir ynddynt, yn gallu cael eu defnyddio i daflu goleuni newydd ar gwestiynau archaeolegol y bu dadlau brwd yn eu cylch ers blynyddoedd maith, gan gynnwys cwestiynau’n ymwneud â sut y codwyd y mur.

Archebwch eich tocyn Gorffennol Digidol yn awr

 

 

Cynhadledd Gorffennol Digidol | Lleoliad | Cofrestru | Sylwadau | Blogs | Arddangosfeydd | Ein Noddwyr

01/13/2017

guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x