
Trawsnewidiadau yn Ewrop
Sut y gallwn ni sicrhau ein bod ni’n cyflwyno hanes mewn ffordd ddiduedd? Beth os yw hanes diweddar ein gwlad yn rhy boenus i rai pobl ei drafod? A oes tyndra gwleidyddol neu grefyddol o hyd sy’n ei gwneud hi’n anodd i ni drafod ein hanes diweddar yn wrthrychol? Dyma rai o’r pynciau a drafodwyd gan drefnwyr cystadlaethau hanes o bob rhan o Ewrop yng nghyfarfod rhwydwaith EUSTORY 2020 a gynhaliwyd ym Málaga, Sbaen yn ddiweddar.

Llun: Juan Jesús Pan Aguilera
Mae prosiectau EUSTORY yn galluogi pobl ifanc o fwy nag 20 gwlad – gan gynnwys Cymru – i ymgymryd â gwaith ymchwil ar amryfal bynciau. Wrth ddysgu am y pwnc o’u dewis, bydd llawer ohonynt yn meithrin amrywiaeth o sgiliau, e.e. sut i gyrchu, astudio a dehongli gwahanol ffynonellau a data. Cânt gyfle i gywain atgofion hanesyddol eu teuluoedd a’u cymunedau eu hunain a hyd yn oed i ddarganfod lleisiau coll arwyr anhysbys a dioddefwyr y gorffennol. Bydd yr enillwyr o’r holl wledydd yn cael cyfle wedyn i rannu eu storïau â chynulleidfa ehangach drwy fynychu Uwchgynhadledd Ieuenctid EUSTORY a gynhelir yn Iwerddon eleni, a thrwy gyfrannu at wefan Campws Hanes EUSTORY. Ariennir y ddwy gan Sefydliad Körber.
Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig (MYDG) sy’n trefnu’r gystadleuaeth hanes/treftadaeth flynyddol yma yng Nghymru ac mae’r Comisiwn Brenhinol yn falch o’i ymwneud â’r fenter hon fel rhan o’i raglen ymgysylltu â phobl ifanc. Gwaith arall rydym yn ymgymryd ag ef ar hyn o bryd gyda phobl ifanc yw ein prosiect Treftadaeth Ddisylw: Ceredigion Gyfyngedig? a chreu adnoddau addysgol ar gyfer HWB.
‘Trawsnewidiadau yn Ewrop a Gwaddol La Transición yn Sbaen a Thu Hwnt’ oedd thema cyfarfod EUSTORY eleni. Cyflwynodd enillwyr gwobrau’r gystadleuaeth yn Sbaen ffrwyth eu hymchwil ar ‘Drawsnewidiadau Gwleidyddol’, a oedd yn cynnwys pynciau megis gwelliannau mewn amodau gwaith a’r newid mewn agweddau at fenywod a’u rôl mewn gwleidyddiaeth – sy’n bwnc hynod berthnasol wrth i ni ddathlu Mis Hanes Menywod 2020. Roedd yn ddiddorol clywed am y llwybr i ddemocratiaeth a’r newidiadau yn Sbaen o safbwynt y bobl ifanc, a sut yr oeddynt yn gwerthfawrogi’r cyfleoedd yr oedd cymryd rhan yn y gystadleuaeth EUSTORY yn eu cynnig iddynt.

Bu panel o arbenigwyr (yn cynnwys haneswyr a newyddiadurwr) yn trafod pwysigrwydd dysgu am hanes drwy ymchwil diduedd a meithrin sgiliau meddwl beirniadol, yn enwedig gan fod trawsnewidiadau gwleidyddol a chymdeithasol yn cymryd amser ac y bydd agweddau’n parhau i newid. Mae’r sgiliau hyn yn arbennig o bwysig heddiw yn sgil dylanwad cynyddol a pheryglon posibl cyfryngau cymdeithasol a newyddion ffug.
‘Deall gwahaniaethau a goresgyn rhaniadau’ yw arwyddair EUSTORY gan fod y rhwydwaith yn gweithio i roi cyfleoedd i bobl ifanc wrando a dysgu oddi wrth ei gilydd. Cafodd un enghraifft o hyn ei chyflwyno gan ein haelod o Israel. Prosiect peilot wedi’i seilio ar fodel o Ogledd Iwerddon yw ‘Ymdopi â Hanesion Gwrthdrawiadol yn yr Ystafell Ddosbarth yn Israel a Phalesteina’: gweithir gydag athrawon Iddewig ac Arabaidd a’u myfyrwyr i’w galluogi i rannu sgiliau, datblygu cynlluniau gwersi ar y cyd, a dysgu rhai topigau gyda’i gilydd, gan gynnwys cyfnodau hanesyddol penodol.
Rhoddodd y trafodaethau yn ystod y gynhadledd hwb i ni feddwl sut y gallwn helpu pobl ifanc i ddysgu oddi wrth y gorffennol er mwyn rhannu gwell dyfodol.
Dymunwn bob lwc i’r holl ysgolion yng Nghymru sy’n cystadlu yng nghystadleuaeth eleni ac edrychwn ymlaen at glywed pwy fydd yr enillwyr ar 3 Gorffennaf yn seremoni wobrwyo flynyddol MYDG, a gynhelir yng Nghaerdydd, pan fydd y fenter yn dathlu ei phen-blwydd yn 30 oed!
Dolenni:
03/12/2020