Adam Clarke - Digital Past 2020

Treftadaeth Ddigidol yn y gynhadledd Gorffennol Digidol 2020: Sesiwn 1

Mae dwy o’n sesiynau digidol yn y gynhadledd Gorffennol Digidol yn ymdrin â Threftadaeth Ddigidol – edrych ar sut y gall technolegau a systemau digidol gefnogi a hybu dehongli, ymgysylltu, gweithio â’r gymuned, ac addysg ymhlith pethau eraill.

Mae’r sesiwn gyntaf, a gynhelir ar 12 Chwefror yn y prynhawn, yn dwyn ynghyd wahanol ffyrdd o gysylltu ag amrywiaeth o gynulleidfaoedd, gan ddefnyddio treftadaeth ddigidol i gyffwrdd â bywydau’r cynulleidfaoedd hynny, a rhoddwn gip ar gyllido hefyd.

Treftadaeth Ddisylw? - Gorffennol Digidol 2020
Treftadaeth Ddisylw? – Gorffennol Digidol 2020

Prosiect Cymru-eang wedi’i arwain gan bobl ifanc a’i ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yw Treftadaeth Ddisylw?. Amcan y prosiect yw tynnu sylw at elfennau o dreftadaeth Cymru sydd wedi’u hesgeuluso a’u hanwybyddu. Mae dehongli treftadaeth yn cael ei gymryd allan o ddwylo’r lleisiau a ffynonellau traddodiadol a’i roi yng ngofal pobl ifanc. Bydd Penelope Foreman, archaeolegydd cymunedol gydag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys, ar y cyd â chynrychiolwyr y bobl ifanc sydd yn y grŵp, yn trafod gofynion digidol y prosiect. Er mai’r bobl ifanc eu hunain sy’n rheoli’r prosiect i raddau helaeth, mae gofynion allweddol yn cynnwys archifo a chyhoeddi digidol, ac yn y cyflwyniad hwn fe ystyrir perthnasedd hyn i genhedlaeth iau. Crynodeb llawn: https://rcahmw.gov.uk/wp-content/uploads/2019/11/4.-Unloved-Heritage-Cy.pdf

Adam Clarke - Gorffennol Digidol 2020
Victoria Bennett & Adam Clarke – Gorffennol Digidol 2020

Rydym yn croesawu Adam Clarke yn ôl i’r gynhadledd. Rhoddodd sgwrs i ni yn 2015 ar Minecraft a threftadaeth, ac eleni bydd Victoria Bennett, bardd a chydweithiwr yn The Common People, yn ymuno ag ef i drafod eu prosiect Mapio’r Gwagle. Mae Mapio’r Gwagle yn ymateb i effaith newid hinsawdd ar archaeoleg Ynysoedd Erch, yn enwedig yr ymateb emosiynol dynol i newid hinsawdd a cholli treftadaeth. Gan ddefnyddio Realiti Rhithwir-Realiti Estynedig ac ysgrifennu creadigol, mae Adam a Victoria wedi ystyried sut y gallwn ymateb mewn ffordd gadarnhaol i ddiflaniad ein gorffennol ac i’n naratifau posibl yn y dyfodol. Crynodeb llawn: https://rcahmw.gov.uk/wp-content/uploads/2019/11/4.-Mapping-the-Void-Victoria-Bennett-and-Adam-Clarke-Cy.pdf

Hanesion Bywyd Caerwrangon - Gorffennol Digidol 2020
Hanesion Bywyd Caerwrangon – Gorffennol Digidol 2020

Mae Hanesion Bywyd Caerwrangon yn edrych ar sut y gall technolegau digidol helpu pobl i ddefnyddio treftadaeth i ymateb i ddiflaniad eu gorffennol unigol hwy eu hunain. Bydd Sheena Payne-Lunn, Swyddog Cofnod Amgylchedd Hanesyddol Cyngor Dinas Caerwrangon, yn siarad am y prosiect cydweithredol rhwng y Cyngor, y Seicolegydd Oedolion Hŷn yn Ymddiriedolaeth GIG Iechyd a Gofal Swydd Gaerwrangon, a thîm prosiect Esiamplau Digidol Byd-eang y GIG. Nod y prosiect yw defnyddio adnoddau treftadaeth, drwy gyfrwng app, i gefnogi oedolion hŷn sy’n byw gyda dementia, ynghyd ag oedolion eraill sydd mewn perygl o ddioddef o unigrwydd, gofalwyr, a staff iechyd meddwl proffesiynol. Crynodeb llawn: https://rcahmw.gov.uk/wp-content/uploads/2019/11/4.-Worcester-Life-Stories-Cy.pdf

I gloi’r sesiwn, byddwn yn croesawu Jamie Davies, Rheolwr Partneriaethau Rhyngwladol ac Ymgysylltu gyda Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC). Mae’r Cyngor yn rhan o Ymchwil ac Arloesedd y DU, corff newydd sy’n gweithio mewn partneriaeth â phrifysgolion, sefydliadau ymchwil, busnesau, elusennau a’r llywodraeth i greu’r amgylchedd gorau posibl ar gyfer ymchwil ac arloesedd. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf bu’r Cyngor yn adeiladu ar ei fuddsoddiadau blaenorol ac yn cryfhau ei waith ym maes treftadaeth drwy ffurfio partneriaethau ag asiantaethau eraill, targedu cyllid, a sefydlu mentrau cydweithredol yn y DU ac yn rhyngwladol. Yn y cyflwyniad byr hwn, eglurir y cyfleoedd cyllid treftadaeth sydd ar gael ar hyn o bryd ac amlinellir rhaglenni a gweithgareddau allweddol. Crynodeb llawn: https://rcahmw.gov.uk/wp-content/uploads/2020/01/4.-AHRC-Jamie-Davies-Cy.pdf

Gorffennol Digidol: Technolegau newydd ym meysydd treftadaeth, dehongli ac estyn-allan

12 & 13 o Chwefror 2020, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Aberystwyth.

Cynhadledd Gorffennol Digidol | Gwybodaeth Defnyddiol | Cofrestru | Sylwadau | Blog | Stondinau Arddangosfa | Nawdd

24/01/2020

Subscribe
Notify of
guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x