
Treftadaeth Ddigidol yn y gynhadledd Gorffennol Digidol: Rhan 1
Cynhelir dwy sesiwn Treftadaeth Ddigidol yng nghynhadledd Gorffennol Digidol 2018. Ar Ddydd Iau 8 Chwefror 2018 fe fydd amrywiaeth eang o sgyrsiau, o ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol a realiti rhithwir i ymgysylltu â chynulleidfaoedd newydd a gwerth atgofion digidol.
Catherine McKeag yw Rheolwr Prosiect Kids in Museums, elusen annibynnol sy’n ymdrechu i wneud amgueddfeydd yn agored a chroesawgar i bob teulu, yn enwedig teuluoedd nad ydynt wedi ymweld ag amgueddfeydd o’r blaen. Un o brosiectau mwyaf yr elusen fu eu Teen Twitter Takeover blynyddol. Fel rhan o brosiect 2017 fe drosglwyddodd rhyw 60 o sefydliadau diwylliannol a threftadaeth ledled y DU eu cyfrifon Twitter i fwy na 300 o bobl ifanc nad oedd llawer ohonynt wedi bod mewn amgueddfa o’r blaen. Rhoddwyd mynediad breintiedig iddynt i’r casgliadau a gofynnwyd iddynt rannu eu profiadau a’u meddyliau am dreftadaeth ddigidol. Rhannwyd cannoedd o drydariadau a gwelodd 321,000 o drydarwyr drydariadau gan ddefnyddio #takeoverday. Bydd Catherine yn rhannu ei phrofiadau o’r prosiect a chasgliadau’r gwerthusiad.
Mae’n bleser mawr gennym groesawu’r Athro Bob Stone yn ôl i’r gynhadledd. Yn gyn brif siaradwr, mae Bob yn dal Cadair mewn Systemau Amlgyfrwng Rhyngweithiol yng Ngholeg Peirianneg a Gwyddorau Ffisegol Prifysgol Birmingham, lle y mae hefyd yn Gyfarwyddwr y Tîm Technolegau Rhyngwyneb Dynol (HIT). Yn ei bapur, Datgelu Hanes Pell Dartmoor: Ailgreadau Realiti Rhithwir sy’n Manteisio ar Arolygon digidol Tanddwr ac o’r awyr, bydd yn asesu sut y gellir defnyddio arolygon digidol hynod o fanwl a chywir o leoliadau digroeso ac anhygyrch i greu profiadau deniadol ac addysgol sydd ar gael i bawb. Astudiaeth achos Bob fydd tirweddau anghysbell, safleoedd ac arteffactau Dartmoor, lle mae arolygon cynhwysfawr, gan ddefnyddio dronau a systemau morol awtonomaidd, wedi chwyldroi’r broses o ddatblygu modelau Realiti Rhithwir a Realiti Estynedig manwl a geo-gywir o leoliadau o’r fath.
Mae Marta Pilarska yn dal bwrsariaeth mewn Sganio Laser a Dogfennaeth Ddigidol yn Historic Environment Scotland. Nodwedd unigryw yn nhirwedd yr Alban yw’r Map Pwylaidd Mawr o’r Alban. Map tirwedd ffisegol mawr o’r wlad wedi’i gerfio mewn concrit ac yn mesur tua 40m wrth 50m ydyw. Syniad Jan Tomasik, a anwyd yn Krakow ac a oedd wedi ymgartrefu yn yr Alban ar ôl yr Ail Ryfel Byd, oedd y map, a chafodd ei greu ar dir Gwesty Black Barony rhwng 1974 a 1979 gan fyfyrwyr a mapwyr Pwylaidd fel teyrnged i letygarwch a charedigrwydd yr Albanwyr ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Er mwyn dathlu’r cysylltiadau diwylliannol a hanesyddol rhwng yr Alban a Gwlad Pwyl, gofynnwyd i HES ddogfennu’r map yn ddigidol a chynhyrchu animeiddiad byr yn adrodd ei hanes. Defnyddir yr animeiddiad fel rhan o ddathliadau annibyniaeth Gwlad Pwyl y flwyddyn nesaf, a defnyddir y set ddata yn gofnod ar gyfer diogelu a chynnal y tirnod rhestr-B hwn. Y Map Pwylaidd Mawr o’r Alban: Dathlu Cysylltiadau rhwng yr Alban a Gwlad Pwyl.
Hanesydd celf, diwylliant gweledol a chelf sain, ac ymarferwr celf sain a chelf weledol yw’r Athro John Harvey. Ei brif faes ymchwil yw diwylliant gweledol a sonig crefydd. Yn Cofio ac anghofio’r gorffennol: Trawsnewidiad sonig o bregethau, gan ddefnyddio technoleg ddigidol ac analog a diffygion dementia, bydd John yn trafod ei gelfwaith-sain, I.Nothing.Lack., sy’n ymdrin â themâu cofio ac anghofio. Wedi’i greu fel rhan o ddiwrnod Archwiliwch Eich Archif: Archif Cof Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, mae’r darn yn edrych ar ailffurfweddau archifau sain digidol, sef pregethau capel yn yr achos hwn, fel ‘cof’. Bydd John yn trafod y prosiect, rhinweddau neilltuol gweddillion-sain fel dogfennaeth hanesyddol, a sut y gellir eu dadansoddi a’u dehongli drwy arfer celf sain a hanes sonig. Bydd hefyd yn ystyried sut y gall cydweithio rhwng artist-academyddion a sefydliadau cyhoeddus arwain at fewnwelediadau a synergeddau newydd a fyddai’n anghaffaeladwy fel arall.
12/20/2017