
Treftadaeth Ddigidol yng nghynhadledd Gorffennol Digidol 2020: Sesiwn 2
Ar gyfer ein hail sesiwn Treftadaeth Ddigidol yn y gynhadledd Gorffennol Digidol mae’n bleser gennym groesawu amrywiaeth eang o siaradwyr.
Mae ein cyflwyniad cyntaf yn ymdrin â diogelu enwau lleoedd mewn ieithoedd llai, gan ddefnyddio’r Gymraeg yn astudiaeth achos. Bydd Gareth Morlais, arbenigwr technoleg iaith Gymraeg yn Llywodraeth Cymru sy’n gweithio i gyflwyno achos ieithoedd llai i gwmnïau technoleg mawr, yn edrych ar fentrau i fapio enwau, gan drafod yr heriau a’r effeithiau. Crynodeb llawn: https://rcahmw.gov.uk/wp-content/uploads/2019/11/4.-Why-we-need-more-mapping-projects-in-welsh-Cy.pdf
Fel Rheolwr Dysgu Gydol Oes Cadw, mae Tim Hill yn frwd dros ymgysylltu â chynulleidfaoedd newydd a gwneud safleoedd hanesyddol yn hygyrch mewn ffyrdd newydd a gwahanol, yn enwedig i gynulleidfaoedd y mae’n anodd eu cyrraedd. Bydd Tim yn siarad am app newydd Cadw, a luniwyd i annog pobl i ymgysylltu â safleoedd gwarcheidwaeth ar lefel ddyfnach a mwy ymgollol, a bydd yn trafod sut y gall ei haenau aml-synhwyraidd gynnig profiad mwy ystyrlon ac ysgogol i ymwelwyr ar y safle ac ar-lein. Crynodeb llawn: https://rcahmw.gov.uk/wp-content/uploads/2019/11/4.-Digital-Art-A-lens-onto-heritage-sites-Cy-1.pdf

Bydd ein trydydd siaradwr yn canolbwyntio yn fwy penodol ar un o safleoedd Cadw, sef beddrod siambr Bryn Celli Ddu, Môn. Mae gan y safle hanes maith a chymhleth, a chan ei bod hi’n anodd ei gyrchu, mae Bernard Tiddeman, Darllenydd mewn Cyfrifiadureg, Prifysgol Aberystwyth, a thîm o gydweithwyr wedi creu app Realiti Estynedig sy’n caniatáu i’r defnyddiwr brofi’r gwahanol gyfnodau yn natblygiad yr heneb, fel ychwanegiad at brofiad ymwelwyr ar y safle ei hun ac i’w ddefnyddio gartref. Crynodeb llawn: https://rcahmw.gov.uk/wp-content/uploads/2019/11/4.-An-Augmented-Reality-Case-Study-of-Bryn-Celli-Du-Cy.pdf
Yn olaf, ond yn sicr nid yn lleiaf, bydd Joe Vaughan o The Museum of English Rural Life yn ymuno â ni. Yn 2018 fe aeth yr Amgueddfa yn firaol gyda’i thrydariad ‘absolute unit’ ac mae ei defnydd o gyfryngau cymdeithasol i ymgysylltu â’r cyhoedd wedi mynd o nerth i nerth. Bydd Joe yn edrych ar y cyfleoedd y mae cyfryngau cymdeithasol yn eu cynnig i sefydliadau treftadaeth, lle gall ymgysylltu fod yn ddiamheuol anhraddodiadol a mynd i gyfeiriadau annisgwyl ond parhau i gydategu gwaith y sefydliadau eu hunain. Crynodeb llawn: https://rcahmw.gov.uk/wp-content/uploads/2020/01/4.-The-Museum-Has-Entered-the-Chat-Joe-Vaughan-Cy.pdf
Mae rhaglen lawn ar gyfer y gynhadledd ar gael a gellir Cofrestru nawr.
#GorffennolDigidol2020
Gorffennol Digidol: Technolegau newydd ym meysydd treftadaeth, dehongli ac estyn-allan
12 & 13 o Chwefror 2020, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Aberystwyth.
Cynhadledd Gorffennol Digidol | Gwybodaeth Defnyddiol | Cofrestru | Sylwadau | Blog | Stondinau Arddangosfa | Nawdd
03/02/2020