Youth panel members erecting the project group’s exhibition at the Youth Voice Conference 2018 at St Fagans National Museum of History.

Treftadaeth Ddisylw – Darganfod Hanes Anghofiedig Cymru Wrth Ymgysylltu â’r Genhedlaeth Nesaf

Fe ddes i ar draws ‘Ceredigion Gyfyngedig’, un o’r grwpiau ‘Treftadaeth Ddisylw’, pan oeddwn i hanner ffordd drwy fy ail flwyddyn yn astudio Celfyddyd Gain ym Mhrifysgol Aberystwyth. Roeddynt yn cynnal digwyddiad cymunedol yng Nghanolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth a dechreuais gymryd rhan yng ngweithgareddau’r grŵp ychydig o fisoedd wedyn. Rydw i’n aelod o’r panel ieuenctid byth ers hynny. Mae’r prosiect wedi bod o fudd aruthrol i mi ac mae hyd yn oed wedi dylanwadu ar fy ngwaith gradd, gan fy helpu i ddatblygu’n broffesiynol a phersonol. Mae hefyd wedi cynnig cyfleoedd gwych, er enghraifft, cymryd rhan mewn arddangosfa yn Sain Ffagan yn ystod y gynhadledd ‘Llais Ieuenctid’ a chyfarfod â phobl flaenllaw sy’n gweithio ym maes treftadaeth yng Nghymru.

Rwy’n caru Hanes

Rydw i wedi gallu gwireddu llawer o’r breuddwydion oedd gen i’n blentyn, megis mynd i weld cloddiad archaeolegol go iawn, rhywbeth roeddwn i eisiau ei wneud ers erioed a minnau wedi cael fy magu’n gwylio rhaglenni ‘Time Team’ Tony Robinson. Yn sicr, mae’r prosiect wedi aildanio fy niddordeb mewn hanes. O ganlyniad i’m profiadau ar y prosiect ‘Treftadaeth Ddisylw’ a chyfarfod â chymaint o bobl o gyffelyb bryd sy’n angerddol dros astudio a gofalu am y gorffennol, rydw i wedi ailgydio yn fy uchelgais cynnar i ddilyn gyrfa ym maes treftadaeth.

Buddsoddi mewn Pobl Ifanc

Mae buddsoddi mewn pobl ifanc yn gosod y sylfeini ar gyfer diwydiant treftadaeth y dyfodol. Mae prosiectau newydd fel ‘Treftadaeth Ddisylw’ yn awr yn meithrin y genhedlaeth nesaf o haneswyr, cadwraethwyr, curaduron amgueddfeydd, archifyddion ac archaeolegwyr. Mae’r ymgysylltu hwn yn hollol angenrheidiol er mwyn diogelu dyfodol y diwydiant treftadaeth. Sefydlwyd y prosiect ‘Treftadaeth Ddisylw’ i ddenu, annog ac ysbrydoli pobl ifanc ar hyd a lled Cymru i gymryd diddordeb yn eu treftadaeth leol. Fe fyddwn i’n dadlau ei fod wedi gwneud llawer mwy na hynny.

Treftadaeth Ddisylw

Yr hyn sy’n gwneud y prosiect yn wirioneddol unigryw yw ei fod cymaint yn fwy na’r gwaith curadurol a wneir gan y grwpiau sy’n gysylltiedig ag ef. Dydyn ni ddim yn rhoi hen gasgliadau mewn blychau newydd fel y gwnes i unwaith pan oeddwn yn wirfoddolwr ifanc mewn amgueddfa – mae pobl ifanc rhwng 11 a 25 oed yn arwain prosiectau mawr, yn ymchwilio i hanes llai cyfarwydd eu cymunedau, ac yn gweithio ochr yn ochr ag arbenigwyr Cadw, eu partneriaid yn y Comisiwn Brenhinol, yr Ymddiriedolaethau Archaeolegol, sefydliadau treftadaeth eraill ac amgueddfeydd lleol. Yn bwysicaf oll, rydym wedi gallu pennu cyfeiriad y prosiectau hyn.

Aelodau panel ieuenctid y grŵp prosiect yn archwilio a churaduro’r cyfoeth o ddeunydd diddorol a ddarganfuwyd ar un o’u safleoedd, Llawrcwmbach.
Aelodau panel ieuenctid y grŵp prosiect yn archwilio a churaduro’r cyfoeth o ddeunydd diddorol a ddarganfuwyd ar un o’u safleoedd, Llawrcwmbach.

Un o’r gwahaniaethau allweddol rhwng prosiectau fel y rhain a phrosiectau mwy traddodiadol mewn sefydliadau diwylliannol ar gyfer pobl ifanc yw bod llawer mwy o rym yn ein dwylo. Fel y dywedodd un o arweinwyr y grŵp wrth siarad am ei phrofiad o gynnal gweithdai i blant llawer ifancach: mae’n bwysig prynu’r defnyddiau gorau o fewn y gyllideb; ni fydd rhoi ychydig o bennau blaen ffelt a phapur argraffu i blant yn eu hysbrydoli. Mae’r un peth yn wir am bobl yn eu harddegau ac oedolion ifanc – nid ydynt am gael eu trin yn nawddoglyd na’u diflasu; maen nhw eisiau bod yn rhan o bethau a theimlo eu bod yn cael eu parchu a’u gwerthfawrogi.

Derbynneb am borthiant da byw, dyddiedig Gorffennaf 1952, o archif bapurau Llawrcwmbach.
Derbynneb am borthiant da byw, dyddiedig Gorffennaf 1952, o archif bapurau Llawrcwmbach.

Etifeddiaeth i Gymru

Mae llawer o’r prosiectau eisoes yn cyfrannu at dreftadaeth Cymru, wrth i gofnodion manwl gael eu huwchlwytho i wefannau fel Coflein a Chasgliad y Werin Cymru. Mewn rhai achosion, mae safleoedd na chawsant eu cofnodi o’r blaen yn awr yn cael eu cofnodi gan bobl ifanc, er enghraifft, fferm fynyddig ac adfeilion mwyngloddiau yr oeddem yn ddigon ffodus i gael cyfle i’w hastudio. Cawsom ganmoliaeth uchel am y gwaith hwn yng Ngwobrau Angel Treftadaeth Cymru 2018 yn y categori ‘Cyfraniad Gorau i Brosiect Treftadaeth gan Bobl Ifanc’.

Ymgysylltu â Threftadaeth

Maes allweddol arall lle bu datblygiadau pwysig yw’r ffyrdd newydd o ystyried a churaduro treftadaeth. Mae un grŵp ym Mlaenrhondda yn defnyddio Minecraft, meddalwedd chwarae gemau, i ailgreu adeiladau coll eu cymuned, gan ganiatáu i bobl ymgysylltu â’u treftadaeth mewn sefyllfa anhraddodiadol. Mae grŵp arall yn Ne Cymru wrthi’n cofnodi treftadaeth sgrialu eu hardal. Mae’n edrych ar sgrialu a thirwedd drefol y gorffennol a’r presennol, ac yna’n gofyn “fel beth y bydd tirwedd sgrialu trefol y dyfodol yn edrych?” Mae dulliau newydd fel y rhain yn cael eu defnyddio ochr yn ochr â dysgu am brosesau traddodiadol ac arfer proffesiynol wrth weithio gyda gwrthrychau, dogfennau a lleoliadau hanesyddol.

Aelodau’r panel ieuenctid wrthi’n gosod arddangosfa’r grŵp prosiect yng Nghynhadledd Llais Ieuenctid 2018 yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan.
Aelodau’r panel ieuenctid wrthi’n gosod arddangosfa’r grŵp prosiect yng Nghynhadledd Llais Ieuenctid 2018 yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan.

Ymgysylltiad dan arweiniad ieuenctid

Mae’n anodd gweld unrhyw anfanteision i’r prosiectau hyn. Pa un a ydynt yn edrych o’r newydd ar agweddau anghofiedig ar hanes diwydiannol cyfoethog Cymru, yn dod â threftadaeth i’r byd chwarae gemau, neu’n edrych ar hanes Abertawe drwy lygaid sgrialwyr trefol, mae ‘Treftadaeth Ddisylw’ yn gysyniad gwirioneddol anhygoel sydd wedi gosod cynsail newydd ar gyfer sector diwylliannol Cymru – mae’n arfer da sy’n dangos i sefydliadau ar draws y Deyrnas Unedig mor bwysig yw ymgysylltu sy’n cael ei arwain gan bobl ifanc. Rydw i’n gobeithio y bydd yn dal i fynd am flynyddoedd i ddod. Yr unig beth rydw i’n edifar amdano yw na ddes i’n aelod o Banel Ieuenctid Treftadaeth Ceredigion yn gynt. Rydw i’n eiddigeddus iawn o rai o aelodau ifancach y panel ac mae’n bechod nad oedd prosiect o’r fath yn bodoli yn Ne Llundain pan oeddwn i yn yr ysgol. Fe fu’n brofiad arbennig ac rydw i wedi gwneud ffrindiau da ac wedi cyfarfod â phobl wirioneddol ysbrydoledig, boed yn weithwyr treftadaeth proffesiynol neu’n gyd aelodau o’r panel ieuenctid.

Dr Ywain Tomos, o’r Comisiwn Brenhinol, yn nôl deunydd o’r storfeydd gydag aelodau o’r grŵp prosiect ‘Ceredigion Gyfyngedig’.
Dr Ywain Tomos, o’r Comisiwn Brenhinol, yn nôl deunydd o’r storfeydd gydag aelodau o’r grŵp prosiect ‘Ceredigion Gyfyngedig’.

Gan Chris Corish (Panel Ieuenctid Treftadaeth Ceredigion)

06/13/2019

Leave a Reply

avatar

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets