
Treftadaeth Ddiwylliannol Arfordirol a Newid Hinsawdd – Cynhadledd Ar-lein y Prosiect CHERISH, Dydd Mercher 12 Mai 2021
Bydd y Prosiect CHERISH yn cynnal cynhadledd ar-lein undydd am ddim, Treftadaeth Ddiwylliannol Arfordirol a Newid Hinsawdd, ar Ddydd Mercher 12 Mai 2021.
Yn y gynhadledd ryngwladol hon fe drafodir ymchwil i’r bygythiad i amgylcheddau arfordirol bregus yn wyneb newid hinsawdd a sut y gall newidiadau yn y dyfodol effeithio arnynt. Bydd sgyrsiau byw gan siaradwyr o bedwar ban byd yn ymdrin ag amrywiaeth o dopigau’n ymwneud â deall a rheoli treftadaeth arfordirol sydd mewn perygl, ac fe fydd sesiynau ‘holi ac ateb’ a thrafodaethau panel drwy gydol y dydd.
Bydd y papurau’n rhoi sylw i nifer o dopigau, gan gynnwys Newid Hinsawdd a’r Arfordir: Colli Tir a Cholli’r Gorffennol gan John Sweeney, Prifysgol Maynooth, Iwerddon; Rhaglen Fonitro Gwyddoniaeth y Dinesydd ar gyfer Treftadaeth Ddiwylliannol Danddwr sy’n Canolbwyntio ar Gadwraeth a’r Amgylchedd – Deifwyr Gwyddonol GIRT gan Andrew Viduka, Treftadaeth y Môr a’r Gymanwlad, Awstralia; Effeithiau Stormusrwydd a Newid yn Lefel y Môr ar Arfordir Cymru – Persbectifau Hirdymor o’r Prosiect CHERISH gan Sarah Davies, CHERISH (Prifysgol Aberystwyth) a Monitro Newid a Gwella Dealltwriaeth o Dreftadaeth ar Ymyl yr Arfordir gan Louise Barker, Uwch Ymchwilydd yn y Comisiwn Brenhinol (CHERISH).
Darllenwch y rhaglen lawn yma.
Ynghylch CHERISH
Sefydlwyd y prosiect CHERISH i ymchwilio i safleoedd treftadaeth arfordirol yng Nghymru ac Iwerddon. Ariennir y prosiect chwe blynedd o hyd drwy raglen Iwerddon-Cymru yr Undeb Ewropeaidd.
Mae’r prosiect CHERISH (Hinsawdd, Treftadaeth ac Amgylcheddau Riffiau, Ynysoedd a Phentiroedd) yn helpu sefydliadau arbenigol yng Nghymru ac Iwerddon i ddefnyddio’r technolegau diweddaraf i ddadansoddi’r archaeoleg arfordirol ac ynysol a’r safleoedd treftadaeth arforol y mae newid hinsawdd, erydiad arfordirol, tywydd gerwin, a chodiadau yn lefel y môr yn effeithio arnynt fwyaf.
Pedwar prif nod y prosiect CHERISH yw:
- Targedu bylchau mewn data a gwybodaeth er mwyn codi ymwybyddiaeth o dreftadaeth y lleoliadau arfordirol anghysbell hyn.
- Darganfod, asesu, mapio a monitro treftadaeth ar y tir ac o dan y môr a sefydlu data man cychwyn a safonau cofnodi newydd.
- Cysylltu’r tir a’r môr.
- Ail-greu amgylcheddau a hanes tywydd y gorffennol.
Mae’r Comisiwn Brenhinol, mewn partneriaeth â’r Rhaglen Ddarganfod: Canolfan Archaeoleg ac Arloesedd Iwerddon, Prifysgol Aberystwyth: Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, ac Arolwg Daearegol Iwerddon, wedi bod yn arwain y prosiect cyffrous ac arloesol hwn ers ei sefydlu yn 2017.
Darganfyddwch fwy am y prosiect ar wefan CHERISH.
21/04/2021