
Treftadaeth Llongddrylliadau gan Dr Hayley Roberts
Darlith Ar-Lein y Comisiwn Brenhinol
Treftadaeth Llongddrylliadau: Gwerthoedd, Bygythiadau a Thensiynau Cyfreithiol gan Dr Hayley Roberts
Dyddiad ac amser: 27 Hydref 2022, 18:30 BST
Lleoliad: Ar-lein
*Mi fydd y sgwrs hon yn Saesneg
Gwely’r môr yw amgueddfa fwyaf y byd. Mae lefelau llanw sy’n codi, llifogydd a thrychinebau naturiol wedi dinistrio a boddi dinasoedd a gwareiddiadau ar hyd y milenia, gan adael eu gweddillion ar wely’r môr. At hynny, mae’r môr ers amser wedi bod yn ffordd o gysylltu pobl â’i gilydd ac o hwyluso masnachu a mudo, a diolch i gyfuniad o dywydd garw, dylunio gwael a chamgymeriadau mordwyo, mae llongau drylliedig hefyd wedi dod yn rhan bwysig o’n treftadaeth ddiwylliannol dan y dŵr. Mae llongddrylliadau’n addysgiadol mewn ffordd unigryw oherwydd eu bod yn gapsiwlau amser, yn ddarlun sydyn o eiliad mewn amser cyn iddynt suddo. Yn gyffredinol, mae dŵr oer y môr yn tueddu i warchod llongddrylliadau, sy’n ein galluogi i ddarganfod gwybodaeth am fasnachu a mordeithio, cynnyrch, mudo, cydberthnasau cymdeithasol ac ymddygiad yr hen fyd – gwybodaeth na fyddai’n hysbys i ni fel arall, efallai.
Dim ond yn ystod yr ugeinfed ganrif y daeth llongddrylliadau’n fater rheoleiddiol, pan wnaeth datblygiadau technolegol hi’n bosibl i waith archwilio ddigwydd dan y dŵr, gan alluogi pobl i gyrraedd llongddrylliadau. Erbyn hyn mae siambrau tanddwr yn gallu teithio i ran ddyfnaf y môr y gwyddys amdani; mae modd cyrraedd rhai llongddrylliadau â snorcel; ac mae rhai hyd yn oed yn gorwedd mewn dyfroedd rhynglanwol. Mae pob llongddrylliad yn y byd, fwy neu lai, o fewn ein cyrraedd yn awr. Mae hynny’n golygu bod llywodraethu a gwarchod llongddrylliadau hanesyddol wedi dod yn her reoleiddiol o bwys yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae’r her honno wedi dwysáu’n benodol oherwydd bod gan longddrylliadau werthoedd amrywiol sy’n ymestyn y tu hwnt i’w statws fel gwrthrychau hanesyddol ac archaeolegol, a bod y gwerthoedd hynny’n gallu creu cymhlethdodau mawr os ydynt yn gwrthdaro â’i gilydd.
Bydd yr anerchiad hwn yn archwilio amryw werthoedd llongddrylliadau ac yn esbonio faint o’r gwerthoedd hynny allai fod dan fygythiad. Bydd hefyd yn bwrw cipolwg sydyn ar rai o’r tensiynau cyfreithiol a’r heriau sy’n codi pan fydd y gwerthoedd a bennir gennym i longddrylliadau hanesyddol yn gwrthdaro â’i gilydd.

Mae Dr Hayley Roberts yn Uwch-ddarlithydd mewn Cyfraith Ryngwladol Gyhoeddus ym Mhrifysgol Bangor ac yn Is-gadeirydd y Bwrdd Comisiynwyr yng Nghomisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Mae ei diddordebau o ran ymchwil yn ymwneud yn bennaf â chyfraith ryngwladol y môr, yn enwedig treftadaeth ddiwylliannol danddwr a’r newid yn yr hinsawdd. Bu ei phrosiect diweddaraf a ariannwyd gan grant yn archwilio treftadaeth ddiwylliannol forol fel blaenoriaeth o ran addasu i’r hinsawdd, ac ar hyn o bryd mae’n ysgrifennu monograff sy’n dwyn y teitl “State-owned Shipwrecks and International Law”, a gyhoeddir gan Wasg Prifysgol Cymru yn 2023. At hynny, mae Dr Roberts wedi’i phenodi i Bwyllgor Degawd Cenedlaethol y DU ar gyfer Degawd Gwyddorau Eigion ar gyfer Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig.
Treftadaeth Llongddrylliadau: Gwerthoedd, Bygythiadau a Thensiynau Cyfreithiol gan Dr Hayley Roberts
Dyddiad ac amser: 27 Hydref 2022, 18:30 BST
Lleoliad: Ar-lein
*Mi fydd y sgwrs hon yn Saesneg
Caiff y ddarlith ddi-dâl hon ei darparu drwy Zoom ac anfonir y gwahoddiad i chi ar ôl i chi archebu’ch lle. Peidiwch ag anghofio lawrlwytho Zoom os nad ydych wedi gwneud eisoes.
Mae nifer cyfyngedig o docynnau a rhaid bwcio ymlaen llaw.
Gofynnwch am un tocyn ar gyfer pob teulu.
17/10/2022