Treftadaeth Rithwir Cymru – Tref Rufeinig Caerwent

A hoffech chi ymweld â Chaerwent Rufeinig fel yr oedd yn y ganrif gyntaf OC? Gan ddefnyddio pensetiau Realiti Rhithwir ymgollol, mae Jane Ellis o First Campus a Craig Oates o Digichemistry Studios yn dod ag adeiladau a storïau’r dref bwysig hon yn fyw unwaith eto.

Gyda chymorth grant o £39,000 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, mae prosiect Treftadaeth Rithwir Cymru wedi dwyn ynghyd fyfyrwyr Effeithiau Gweledol o Brifysgol De Cymru a phobl ifanc 10-17 mlwydd oed o ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf ar draws de-ddwyrain Cymru i ddylunio a chreu platfform rhithwir sy’n galluogi defnyddwyr i ddysgu’n rhyngweithiol am hanes a threftadaeth Caerwent Rufeinig. Gan ddefnyddio modelu 3D, sgriniau gwyrdd, technegau gwneud ffilmiau a sgiliau ymchwil, mae’r rheiny a gymerodd ran wedi creu teithiau realiti estynedig drwy’r farchnad, y basilica a’r tŷ Rhufeinig.

Yng nghynhadledd Gorffennol Digidol 2017, bydd Jane a Craig yn trafod sut y cafodd y bobl ifanc eu cynnwys mewn amrywiaeth o weithgareddau ymchwil a digidol gan gynyddu eu brwdfrydedd a gwella eu sgiliau, a rhoddir sylw arbennig i’r ffilm ddogfen a wnaethant gan ymhelaethu ar y prosesau.

Archebwch eich tocyn Gorffennol Digidol yn awr

 

Cynhadledd Gorffennol Digidol | Lleoliad | Cofrestru | Sylwadau | Blogs | Arddangosfeydd | Ein Noddwyr

 

02/08/2017

guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x