Twll Rhent y Brenin: Traddodiad Gwerin o Sir Faesyfed

Mae Rhestri cynnar y Comisiwn Brenhinol yn cynnig cipolwg hynod ddifyr ar amgylchedd adeiledig hanesyddol Cymru ar ddechrau’r ugeinfed ganrif ac ar ddealltwriaeth ymchwilwyr y cyfnod ohono. Mae pwyslais y Rhestri hyn ar adeiladweithiau canoloesol a chyn-ganoloesol yn ymddangos braidd yn gul i ni heddiw, ond roedd trysorau annisgwyl yn eu plith. Un o’r rhain yn Rhestr Sir Faesyfed (1913) yw enghraifft arbennig iawn o ddiwylliant gwerin ar ddechrau’r ugeinfed ganrif: Twll Rhent y Brenin.

 

Trigolion lleol wedi ymgynnull wrth Dwll Rhent y Brenin ym 1913.

Trigolion lleol wedi ymgynnull wrth Dwll Rhent y Brenin ym 1913.

 

Roedd y tywydd yn stormus ar 20 Ionawr 1913. Roedd haen o eira ar y bryniau pan ymwelodd Edward Owen, Ysgrifennydd cyntaf Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, â safle ger Tyn-yr-ynn (NPRN: 423735) ym mhlwyf Llanbister. Roedd ymchwilwyr y Comisiwn eisoes wedi cynnal arolwg yn y plwyf ym misoedd Mehefin a Gorffennaf 1911, ond, fel y dywed y Rhestr, roedd gan Owen ddiddordeb ‘not so much in the place as the quaint ceremony annually performed thereat’. Disgrifiodd Owen bwysigrwydd y seremoni hon yn ei adroddiad am y diwrnod, sydd wedi’i gadw ymhlith ei bapurau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, fel ‘a survival of Welsh tribal custom into the English manorial period’. Gellir cwestiynu a oedd hyn yn enghraifft o hen ddefod a oedd wedi goroesi, ond mae’r digwyddiad a gofnododd yn sicr yn enghraifft bwysig o lên gwerin Gymreig.

 

Pant hirgrwn oedd y twll, 2m mewn diamedr yn ei fan lletaf a thuag 1.2m o ddyfnder. Eid ato ar hyd ffos a oedd tua 2.75m o hyd a 0.6m o led.

Pant hirgrwn oedd y twll, 2m mewn diamedr yn ei fan lletaf a thuag 1.2m o ddyfnder. Eid ato ar hyd ffos a oedd tua 2.75m o hyd a 0.6m o led.

 

Bob Dydd Llun Ilar (y Dydd Llun ar ôl 13 Ionawr) byddai trigolion maenor y Goron, Swydd Ugre, yn ymgynnull i ddewis pwy o’u plith a fyddai’n casglu’r arian a gâi ei alw’n ‘rhenti’r Brenin’ ar gyfer y flwyddyn i ddod. Dechreuai’r seremoni am 11.30 y bore pryd y byddai casglwr y flwyddyn gynt yn datgan bod yr holl renti wedi’u casglu o dan ei ddaliadaeth ef. Yna, os oedd yn ceisio cael ei ailethol, byddai’n cerdded i lawr y ffos yn bennoeth yn adrodd araith fformwläig yn manylu ar y swm y byddai’n ei godi gan bob teulu. Wrth gyrraedd diwedd ei araith a phen y ffos, âi i mewn i dwll wedi’i gloddio yn ochr y bryn ac arhosai yn y man hwnnw wrth i ymgeiswyr eraill geisio cynnig yn is nag ef. Byddai’r rhain yn dilyn yr un seremoni nes darganfod y cynigiwr isaf. Deuai’r seremoni i ben am hanner dydd, pryd y byddai pedwar tyst a ‘Thyst y Brenin’ yn ymuno â’r ymgeisydd llwyddiannus yn y twll. Yna byddai’r dynion hyn yn rhoi eu dwylo y naill ar ben y llall, gyda dwylo Tyst y Brenin ar ben ac ar waelod y pentwr, ac yn tyngu y byddai’r casglwr newydd yn gwneud ei ddyletswydd. Roedd ffurf a litwrgi’r seremoni yn gyson. Wrth roi tystiolaeth i Owen, cadarnhaodd Thomas Williams, dyn lleol yn ei wyth degau a fu’n mynychu’r seremoni ers yn ddeg oed, na fuasai unrhyw wyro erioed oddi ar y fformwla.

 

Yr ymgeisydd llwyddiannus ar gyfer 1913, gyda’i dystion a Thyst y Brenin, yn tyngu y bydd yn casglu Rhent y Brenin.

Yr ymgeisydd llwyddiannus ar gyfer 1913, gyda’i dystion a Thyst y Brenin, yn tyngu y bydd yn casglu Rhent y Brenin.

 

Daeth yr arfer i ben yn y 1920au, a llenwyd y twll. Roedd seremonïau tebyg wedi darfod cyn yr ugeinfed ganrif. Mae Rhestr Sir Faesyfed yn nodi bod defod gyffelyb yn arfer cael ei chynnal mewn lle o’r enw ‘The Holey Piece’ ym mhlwyf Llangynllo. Ond tra parhaodd roedd Twll Rhent y Brenin yn rhan hyfryd iawn o arferion gwerin Blwyddyn Newydd cyfoethog Cymru, yn rhan annatod o’r flwyddyn ddefodol i’r cymunedau hynny a oedd yn cymryd rhan ynddo, fel yr oedd y Fari Lwyd neu galennig mewn ardaloedd eraill.

 

Mae’r ffilm hon o 1958 o Seremoni Rhent y Brenin i’w chael yn Archif ITV Cymru/Wales yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
https://www.youtube.com/watch?v=-xZa3lnk2fM 

 

Gweithiau a Astudiwyd a Darllen Pellach:

‘Edward Owen Papers: Rough transcripts of miscellaneous documents relating to the counties of Pembrokeshire and Radnorshire (St Davids etc.),’ Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Llsgr. 18065E.

Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire. III. County of Radnor (London: HMSO, 1913), yn enwedig t. 68.

H. Howse, Radnorshire (Hereford: E. J. Thurston, 1949), tt. 214–15.

J. Moseley, ‘Parish of Llanbister’, Radnorshire Transactions, III (1933), 41–45 (yn enwedig 43–44).

Roy Palmer, The Folklore of Radnorshire (Little Logaston: Logaston Press, 2001), yn enwedig tt. 235–36.

Ar gyfer arferion Blwyddyn Newydd eraill yng Nghymru, gweler Trefor M. Owen, Welsh Folk Customs (Llandysul: Gomer Press, 1987 (cyhoeddwyd yn gyntaf 1959), yn enwedig tt. 41–69.

Daw’r lluniau o ‘Fig 30 – Llanbister: The King’s Rent Hole (no. 267)’ yn yr Inventory of the Ancient Monuments in … County of Radnor, CBHC, rhwng tt. 68 a 69.

 

Adam N. Coward

14/01/2019

Subscribe
Notify of
guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x