Tyrfaoedd mawr yn Sioe Frenhinol Cymru yn Abergele, Gorffennaf 1950

Eleni, oherwydd cyfyngiadau Covid-19, fe fydd Sioe Frenhinol Cymru yn ddigwyddiad rhithiol yn hytrach na chael ei chynnal ar faes y sioe yn Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt. Yn y blog hwn fe edrychwn yn ôl ar Sioe Frenhinol gynharach y denwyd y tyrfaoedd mwyaf erioed iddi, yn rhannol o ganlyniad i ddiddymu cyfyngiadau a gyflwynwyd adeg rhyfel, gan gynnwys dogni petrol.

Ym mis Gorffennaf 1950 fe gynhaliwyd Sioe Frenhinol Cymru yn Abergele yng Ngogledd Cymru. Mae gennym gyfres o awyrluniau yn ein casgliadau a dynnwyd yn ystod y sioe ac maen nhw wedi ein hysgogi i ddarganfod mwy am y tri diwrnod heulog hynny ym mis Gorffennaf 1950 yn fuan ar ôl i bobl Prydain gael eu rhyddhau o’u cyfyngiadau ‘cyfnod clo’ nhw eu hunain a osodwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Sioe Frenhinol Cymru – y cefndir

Cafodd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ei sefydlu ym 1904 a’i henw bryd hynny oedd Cymdeithas Amaethyddol Genedlaethol Cymru. Ei hamcanion oedd gwella bridio da byw a hybu amaeth ar hyd a lled Cymru. Cynhaliwyd y sioe gyntaf ym mis Awst 1904 yn Aberystwyth ac wedi hynny mewn 37 lleoliad gwahanol, yn y de a’r gogledd bob yn ail.

Daeth Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, yn gartref parhaol i’r Sioe Frenhinol ym 1963 ac ers hynny mae wedi datblygu’n ddigwyddiad pedwar-diwrnod blynyddol ac yn sioe amaethyddol fwyaf poblogaidd Prydain. Bydd hefyd yn darparu cefnogaeth a chymorth ar hyd y flwyddyn ym meysydd busnes, lles cymdeithasol ac addysg.

Eleni, fel y llynedd, bydd y Sioe Frenhinol yn sioe rithiol. Darganfyddwch fwy am yr amrywiaeth o gystadlaethau a digwyddiadau drwy fynd i: https://cafc.cymru/sioe-frenhinol-cymru/

Sioe Frenhinol Cymru 1950 yn Abergele

Er bod Abergele yn dref glan môr, mae ganddi gysylltiadau cryf erioed â’r gymuned ffermio leol. Cynhelid marchnadoedd gwartheg a defaid wythnosol yno ac, oherwydd traddodiad bridio da byw cryf yr ardal, byddai arwerthiant ceffylau bob mis, a arbenigai mewn ceffylau gwedd.

Oherwydd y cysylltiadau amaethyddol hyn roedd yn sicr y byddai llawer o bobl leol yn dod i’r sioe, ond drwy ei chynnal mewn tref glan môr gellid denu hefyd y miloedd o ymwelwyr a oedd yn aros ar y safleoedd gwersylla a charafanio yn y cyffiniau. Roedd yn hawdd cyrraedd y safle ar fysiau o Gaer a Chaernarfon, ac roedd gan Abergele orsaf reilffordd gyda seidin mawr a allai ymdopi â threnau’n tynnu cerbydau ceffylau a gâi eu dadlwytho o fewn llathenni i faes y sioe. Hysbysebwyd y sioe mewn papurau rhanbarthol fel y Liverpool Echo ac fe deithiodd pobl o leoedd mor bell i ffwrdd â Hampshire i arddangos eu hanifeiliaid.

This image has an empty alt attribute; its file name is Picture1-770x1024.jpg
Gwyliau yn Abergele, 1950. Tynnwyd y llun gan Nancy Parting. O Gasgliad y Werin Cymru https://www.casgliadywerin.cymru/items/31451

Dogni petrol yn dod i ben

Roedd pum mlynedd wedi mynd heibio ers diwedd yr Ail Ryfel Byd ac roedd dogni petrol newydd ddod i ben. Roedd Sioe Frenhinol 1948 wedi cael ei chanslo oherwydd dogni petrol. Yn awr, ar ôl un mlynedd ar ddeg o ddogni llym yn ystod ac wedi’r rhyfel, gallai unrhyw un a oedd yn berchen ar gar o’r diwedd fynd ar daith. Mae’n debyg bod hyn wedi rhoi cryn hwb i nifer yr ymwelwyr yn ystod tri diwrnod y digwyddiad. Mynychwyd y sioe gan 61,000 o bobl, y nifer mwyaf yn hanes y Sioe Frenhinol ar y pryd, a bron ddwywaith y nifer a oedd wedi dod i’r sioe y tro diwethaf y daeth i’r dref, sef ym 1936.

Ceffylau gwedd, da byw poblogaidd a chystadleuwyr lleol

Mae’r siart ymgeiswyr ar gyfer sioe Abergele yn arbennig o ddiddorol gan fod y nifer a math o anifeiliaid yn y cystadlaethau yn adlewyrchu poblogrwydd y bridiau. Mae’r 128 o geffylau gwedd mewn dau ddosbarth yn dangos mor bwysig oedd bridio ceffylau gwedd yn ardal Abergele. Mae’n dangos hefyd nad oedd y niferoedd wedi gostwng ar ôl y Rhyfel, pan oedd 98 o geffylau gwedd wedi cystadlu, er gwaethaf y cynnydd mawr yn nifer y cerbydau fferm a redai ar betrol. Cynyddodd nifer yr ymgeiswyr yn y dosbarthiadau neidio ceffylau o 215 y flwyddyn gynt i 241, gan adlewyrchu, mae’n debyg, y ffaith mai Abergele oedd y ganolfan Gymreig ar gyfer y gamp hon.

Roedd hefyd ddosbarthiadau ar gyfer Ceffylau Hela, Merlod Mynydd Cymreig a Chobiau Cymreig; roedd y rhain yn un o atyniadau mawr y sioe. Pencampwr y stalwyni merlod mynydd Cymreig oedd ‘Eryri Gwyndaf’ Mr Norman Lewis, a phencampwr y stalwyni cobiau Cymreig oedd ‘Llwynog-y-Garth’ A. D. Thomas. Roedd y dosbarthiadau ar gyfer gwartheg yn cynnwys Gwartheg Duon Cymreig, ond roedd gostyngiad o ryw draean yn eu nifer, ac roedd Gwartheg Byrgorn, y brid mwyaf poblogaidd ar un adeg, ar drai a Gwartheg Ffrisia ac Ayrshire ar gynnydd gan eu bod yn cynhyrchu mwy o laeth. Cafodd Gwartheg Jersey a Guernsey eu cynnwys am y tro cyntaf ond cawsant eu rhoi yn y dosbarth ‘Gwartheg Eraill’. Roedd y dosbarthiadau Defaid Mynydd Cymreig yr un mor boblogaidd, ond roedd dwywaith yn fwy o ymgeiswyr yn y dosbarth Moch Cymreig ag yn y flwyddyn flaenorol.

Enillwyd gwobrau am geffylau gwedd gan bobl leol:  J.K. Jones (Bryn Elian, Dolwen), J. E. Williams (Tŷ Newydd, Morfa, Abergele), Trefor Lloyd Jones (Pant Idda, Abergele), Edward Parry (Manorafon, Betws), Edward Owen (Gwernigron, Llanelwy) a William Roberts (Tŷ Mawr, Llysfaen).

Mae’r rhestri o fuddugwyr lleol yn cynnwys rhai a oedd yn fyd-enwog. Y fwyaf adnabyddus oedd y ddiweddar Miss M. Brodrick o Goed Coch, enw cyfarwydd iawn ym myd y Merlod Mynydd Cymreig.

This image has an empty alt attribute; its file name is 6414309-Abergele-1-1024x704.jpg
Mae’r awyrlun Aerofilms uchod yn dangos mor fawr – 68 erw – oedd maes y Sioe Frenhinol 1950 yn Abergele.

The showground at Abergele

Mae’r awyrlun Aerofilms uchod yn dangos mor fawr – 68 erw – oedd maes y Sioe Frenhinol yn Abergele. Roedd hi’n gynnes a heulog yn ystod tri diwrnod y sioe ac, fel y gellir gweld, roedd tyrfaoedd mawr yno. Roedd yr arlwywyr yn brysur, a hefyd y nifer mwyaf erioed o fasnachwyr ar y 236 stondin, a oedd ar gael yn ddi-dâl y flwyddyn honno.

Roedd 3,400 o anifeiliaid yn y cystadlaethau, y nifer mwyaf erioed. Cawsant eu cadw ar y cae lle gellid eu gweld yn hwylus, a chafodd y gwahanol gystadlaethau eu beirniadu yn yr arenâu.

Cymerodd cystadleuwyr ifanc o bob sir yng Nghymru ran yng nghystadlaethau’r Clybiau Ffermwyr Ifanc; roedd bron 1,000 o gŵn yn y sioe gŵn. Roedd cystadlaethau dofednod, colomennod rasio, cwningod, a mêl. Roedd y treialon cŵn defaid a’r arddangosiadau crefft, fel pedoli ceffylau a thoi â gwellt, yn hynod boblogaidd. Cafwyd cerddoriaeth gan Fand Arian Y Rhyl ac roedd Sgowtiaid Llandudno ar ddyletswydd fel gwirfoddolwyr ar hyd a lled y maes.

Cynhaliodd y Gwasanaeth Ymgynghorol Amaethyddol Cenedlaethol arddangosiadau dyddiol ac yn ôl yr hanes fe ofynnodd y ffermwyr fwy o gwestiynau nag erioed o’r blaen. Roedd Sefydliad y Merched yno hefyd, yn cynnal cyflwyniadau ar fwydo’r teulu yng nghefn gwlad ac arddangos amrywiaeth eang o brydau. Hefyd fe gynhaliodd Bwrdd Nwy Cymru arddangosiadau coginio, gan ddefnyddio’r poptai nwy diweddaraf.

Dangosodd yr Aluminium Corporation Ltd o Ddolgarrog gerllaw, a oedd wedi gwneud rhannau i awyrennau yn ystod y rhyfel, sut y gallai alwminiwm gael ei ddefnyddio i wneud toeau, sosbenni ac offer amaethyddol.

Yn yr adran arddwriaethol yr oedd Corfforaeth Bae Colwyn wedi creu arddangosiad amryliw enfawr o flodau, ac roedd plant Abergele yn llwyddiannus yn y categorïau ‘casgliad blodeuol’.

Arddangosiad gwych March-heddlu Lerpwl

Mae’n bosibl mai’r digwyddiad mwyaf diddorol oedd arddangosiad gan Farch-heddlu Lerpwl a oedd bryd hynny’r heddlu marchogol mwyaf ym Mhrydain. Byddent yn patrolio’r dociau’n rheolaidd ac yn gwasanaethu mewn gemau pêl-droed a chyfarfodydd rasio, gan gynnwys y Grand National. Yn Abergele roeddynt i gyd yn gwisgo eu lifrai llawn a helmedau pluog ac yn cario gwaywffyn, ac roedd gan yr arolygydd gleddyf yn ei law. Roedd band y March-heddlu yno hefyd a mwynhaodd y dorf arddangosiad ysblennydd o farchogwriaeth hynod fedrus.

“For the grand finale they all rode down to the far end of the arena, formed a line side by side behind the inspector, he drew his sword, the riders lowered their lances and the inspector shouted ‘Charge’. They were galloping hard towards the far end of the arena and towards a long line of terrified visitors, some of whom had broken and started to run for their lives. With perfect timing the Inspector raised his sword upright and the charge stopped only inches from the flimsy rope fence”. [Abergele Field Club & Historical Society Review, Rhif 19 (2000), tudalen 26]

Os oes gennych unrhyw atgofion am sioe Abergele 1950, neu unrhyw Sioe Frenhinol arall, mae croeso i chi eu rhoi nhw yn y blwch sylwadau isod.

Mae’r Comisiwn Brenhinol yn gobeithio cael ei stondin arferol yn y Sioe Frenhinol y flwyddyn nesaf, ac rydym yn edrych ymlaen at weld tyrfaoedd enfawr eto wrth i’r cyfyngiadau gael eu codi, fel ym 1950!

Helen Rowe (Swyddog Gwybodaeth).

Cyfeiriad: Daw peth o’r wybodaeth yn y blog hwn o erthygl ardderchog gan Vernon Hughes yn yr Abergele Field Club & Historical Society Review, Rhif 19 (2000), tt. 19–26.

Gallwch gael manylion digwyddiadau ar-lein Sioe Frenhinol Cymru eleni, a gynhelir yn rhithiol ar 19-22 Gorffennaf, drwy fynd i: https://cafc.cymru/sioe-frenhinol-cymru/

I weld ein cofnod ar gyfer Abergele sy’n cynnwys y ffotograffau Aerofilms o Sioe Frenhinol 1950 ewch i: https://coflein.gov.uk/cy/safle/410566/delweddau/

I weld y rhestr lawn o enillwyr cystadlaethau merlod a chobiau Cymreig Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru rhwng 1904 a 1950 ewch i: http://www.ceulan.welshpony.co.uk/wp-content/uploads/2020/05/RWAS-MASTER.pdf

07/19/2021

guest
0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x