Ugain Adeilad o’r Ugeinfed Ganrif: rhagflas o sgwrs ar gyfer Eisteddfod AmGen eleni gan Dr Meilyr Powel

Pan fyddwn yn meddwl am dreftadaeth Cymru o ran adeiladau, efallai nad yr ugeinfed ganrif fyddai’n dod i’r meddwl gyntaf. Mewn blog blaenorol gan Susan Fielding (Uwch Ymchwilydd Adeiladau Hanesyddol), rhoddwyd amlinelliad o gyd-destun treftadaeth adeiledig yr ugeinfed ganrif yng Nghymru, a thynnwyd sylw at nifer o adeiladau sydd mewn perygl, neu eisoes wedi eu dymchwel, fel astudiaethau achos. Yn wir, mae adeiladau o’r cyfnod wedi’r rhyfel wedi eu clustnodi fwyfwy ar gyfer ailddatblygu sylweddol neu i gael eu dymchwel, fel mae cynlluniau ar gyfer moderneiddio – megis Rhaglen Ysgolion a Cholegau’r 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru – yn dod yn realiti.

Mae’r gwaith o gofnodi treftadaeth y Gymru fodern angen sylw manwl, a hynny ar fyrder, er mwyn cynyddu ein gwybodaeth gyfredol o’r cyfnod ac i gofnodi’r adeiladau hyn fel safleoedd treftadaeth o bwys i’r dyfodol. Wrth wneud hyn, byddai’n syndod i ni ganfod y cyfoeth a’r amrywiaeth sy’n bodoli o fewn adeiladau a godwyd yn yr ugeinfed ganrif yng Nghymru, ond mae’r casgliadau cyfredol yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru – sydd ar gael i bori drwyddynt ar-lein ar Coflein – yn dangos y cyfoeth a’r amrywiaeth hyn. Cyn fy sgwrs ar-lein ar dudalen Facebook Y Lle Hanes ar gyfer Eisteddfod AmGen ar ddydd Gwener Awst 6ed 2021, dyma chwech o safleoedd o’n casgliadau sy’n dyst i’r amrywiaeth yn nhreftadaeth yr ugeinfed ganrif yng Nghymru.

1. Yr Amgueddfa Genedlaethol, Caerdydd

Yn gyntaf, yr Amgueddfa Genedlaethol a sefydlwyd yn 1905 ac a dderbyniodd ei siarter brenhinol yn 1907. Yn 1910, ystyriwyd 130 o gynlluniau ar gyfer cartref newydd i’r Amgueddfa gan Gyngor yr Amgueddfa Genedlaethol, gyda deuddeg cynllun yn cyrraedd y rhestr fer. Yn y pen draw penodwyd Arnold Dunbar Smith a Cecil C. Brewer o Lundain yn benseiri ar gyfer yr

adeilad cenedlaethol newydd. Adeiladwyd yr amgueddfa mewn arddull glasurol mewn carreg Portland gyda grisiau dwbl ithfaen yn arwain at y fynedfa ar yr wyneb de-ddwyreiniol. Gosodwyd colofnau Dorig yn y portico, i greu mynedfa fawreddog i’r adeilad, gyda’r llawr marmor gwyn a’r ffenestri tal yn yr esgyll o bobtu’r portico. Fodd bynnag, roedd rhai aelodau o’r cyhoedd yn ymddangos yn anfodlon na ddefnyddiwyd carreg leol Gymreig ar gyfer y waliau!

Welsh Gazette and West Wales Advertiser, 7fed o Ebrill 1910, tud.8

Roedd y cyfnod hwn o droad y ganrif hyd at y Rhyfel Byd Cyntaf yn un o ymwybyddiaeth genedlaethol Gymreig gynyddol. Roedd deddfau penodol i Gymru ers yr 1880au, ynghyd â mudiad Cymru Fydd a datgysylltiad yr Eglwys yng Nghymru yn amlygu Cymru fwy a mwy fel gwlad ar wahân i Loegr. Erbyn hynny, gyda sefydliadau sifil fel y Llysoedd Barn, Neuadd y Ddinas a’r Amgueddfa Genedlaethol yn Cathays, ynghyd â’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, roedd arwyddion clir o gymdeithas hyderus yn datblygu yng Nghymru. Gweler gwybodaeth am yr Amgueddfa Genedlaethol ar Coflein yma.

2. Stâd Dai Townhill, Abertawe

Anelwn nesaf i Abertawe lle cawn gip ar enghraifft gynnar o stâd dai cyngor. Wrth i boblogaeth Abertawe gynyddu yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, daeth tai yn bryder gyda llawer o drigolion yn byw mewn tai bychan o ansawdd gwael yng nghanol y dref. Roedd trefi a dinasoedd ledled Prydain yn wynebu’r un her, ac er mwyn ceisio gwella amodau byw a chael gwared â slymiau a thai bychain, creodd Syr Ebenezer Howard Fudiad yr Ardd-ddinas (The Garden City Movement), ffordd radical o gynllunio trefol a dyfodd o’r Mudiad Celf a Chrefft. Letchworth yn Swydd Hertford oedd yr ardd-ddinas gyntaf yn y DU, ond daeth syniadau Howard i Gymru yn ogystal.

Mynychodd Charles Ruthen a H. G. Solomon, cynghorwyr yn Abertawe, Gynhadledd Gwella Tai yn 1906 a chyfarfod Syr Raymond Unwin, cynllunydd trefol a oedd yn gyfrifol am gynllunio maestrefi yn seiliedig ar syniadau Howard. Cafwyd arddangosfa fythynnod yn fuan yn Mayhill, Abertawe, gyda gwahoddiad i benseiri i gynllunio ac adeiladu tai arddangos. Apwyntiwyd Ernest Morgan fel Pensaer Bwrdeistrefol gan Gyngor Abertawe yn 1911, ac yn 1912, cafwyd dyluniad o gynllun gan Unwin a’r Syrfëwr Bwrdeistrefol, George Bell, ar gyfer datblygiad tai yn ardal Townhill a Mayhill. Cyhoeddwyd y cynllun yn ddiweddarach gan Ewart Culpin yn The Garden City Movement Up-to-Date (1913). Adolygwyd y dyluniad yn 1913 gan Ernest Morgan i gynnwys 500 o dai.

Dyluniad Townhill yn The Garden City Movement Up-to-Date (1913) gan Ewart Culpin

Adeiladwyd chwech o dai (2–12 Ffordd Islwyn) yn 1914 ond bu’n rhaid gohirio’r gwaith adeiladu o ganlyniad i’r Rhyfel Byd Cyntaf. Daeth gorchymyn i awdurdodau lleol gyflwyno cynlluniau tai yn dilyn Deddf Tai 1919, a galluogodd hyn Abertawe i ailgydio ym mhrosiect Townhill a ddechreuwyd cyn y rhyfel, er mwyn clirio’r slymiau ynghanol y dref. Byddai tai Townhill yn dod yn ‘gartrefi addas i arwyr’ y bu i David Lloyd George sôn amdanynt unwaith, gan gyfeirio at y milwyr a oedd yn dychwelyd o’r rhyfel. Gweler y cofnod ar gyfer Townhill ar Coflein yma.

3. Ffatri Arfau Rhyfel, Hirwaun

Ar hyd a lled Cymru, codwyd ffatrïoedd arfau rhyfel. Adeiladwyd safle enfawr yn Nhredŵr a Bracla ger Pen-y-bont ar Ogwr, lle roedd dwy ffatri yn cyflogi tua 40,000 o weithwyr, y rhan fwyaf ohonynt yn ferched. Yng Nghaerwent, adeiladwyd Ffatri Ffrwydron y Llynges Frenhinol o 1939 i gynhyrchu cordeit ar gyfer y Llynges; yn safle 600 hectar, daeth yn un o’r safleoedd milwrol mwyaf o’i fath ym Mhrydain, ac mae’r rhan fwyaf o’r 400 o adeiladau i’w gweld heddiw fel rhan o ardal hyfforddi.

Yn Hirwaun, gellir gweld olion Ffatri Arfau Brenhinol Rhif 26, a adeiladwyd yn wreiddiol rhwng Mai 1941 a Chwefror 1942. Roedd y ffatri’n arbenigo mewn cynhyrchu arfau bach. Yn 1945, daeth y ffatri o dan reolaeth y Bwrdd Masnach ac fe’i defnyddiwyd fel rhan o ystâd ddiwydiannol. Mae peth tystiolaeth o’r ffatri yn dal ar ôl, megis trefn y ffyrdd, rhai adeiladau bach atodol, a darnau o draciau concrid segur. Gerllaw ym Mhyllau Hirwaun, mae cysgodfeydd cyrchoedd awyr ar gyfer gweithwyr y ffatri yn dal i sefyll.

Creodd y ffatrïoedd arfau yng Nghymru weithlu lle roedd y mwyafrif yn ferched. Yn ei llyfr The Forgotten Army, mae Mari Williams yn nodi bod 55% o’r gweithlu rhyfel yng Nghymru yn 1943 yn ferched. Roedd cyfleoedd economaidd yn ogystal gan fod gwaith ffatri yng nghyfnod y rhyfel yn talu’n dda, ac yn rhoi cyfle i ferched fynegi eu gwladgarwch drwy gyfrannu’n uniongyrchol at fuddugoliaeth. Roedd cyfraniad merched Cymru yn y ffatrïoedd arfau yn hanfodol ar gyfer yr ymdrech ryfel, ac yn y safleoedd hynny, ffurfiwyd cymdeithasau clos a chyfeillgarwch hirhoedlog mewn cyfnod o argyfwng cenedlaethol. Mae’r olion yn Hirwaun yn fodd i’n hatgoffa i feddwl am yr elfen ddynol a chymdeithasol sy’n gysylltiedig ag adeiladau wrth ystyried ein treftadaeth adeiledig. Gweler y cofnod am y Ffatri Arfau Brenhinol ar Coflein yma.

4. Gorsaf Bŵer Trawsfynydd

Gan symud i’r 1960au, down at adeilad cyfarwydd iawn. Adeiladwyd Gorsaf Bŵer Trawsfynydd rhwng 1959 a 1963 i gynlluniau Syr Basil Spence, y pensaer o’r Alban sy’n fwyaf cyfarwydd mae’n debyg am gynllunio Cadeirlan Sant Mihangel yn Coventry ar ôl yr Ail Ryfel Byd.

Roedd yr orsaf yn Nhrawsfynydd yn ffurfio grŵp o bedwar adeilad, gyda phob un yn cwrdd ag un o swyddogaethau penodol yr orsaf – adeiladau’r adweithydd, neuadd dyrbin, ardaloedd gwaredu tanwydd ac is-orsaf drydan. Fe’u trefnwyd yn gryno a’u cysylltu gan lwybrau cerdded dan do. Roedd y ddau adweithydd Magnox yn weithredol erbyn 1965 gan barhau hyd ddiwedd eu hoes yn 1991. Roedd cyfanswm cost yr orsaf dros £100 miliwn. Caeodd yr orsaf yn 1993 ac mae ar hyn o bryd yng nghanol y broses ddatgomisiynu.

Efallai fod yr adeilad yn cael ei ystyried gan rai fel dolur i’r llygad ar y dirwedd, ond mae’n werth cofio bod yr adeiladau wedi eu lleoli o fewn safle a gerddi eang a gynlluniwyd gan y Fonesig Sylvia Crowe. Ymhellach, cynlluniodd Spence yr adeilad i ymdebygu i gastell canoloesol yn swatio yn nhirwedd Eryri, gyda’r bwriad i’r adeilad ddadfeilio ymhell i’r dyfodol yn yr un modd â chestyll hynafol yr ardal. Yr Orsaf Bŵer yn Nhrawsfynydd oedd yr unig orsaf bŵer niwclear sifil fewndirol, yn defnyddio dŵr croyw oedd yn cael ei dynnu o Lyn

Trawsfynydd i’w hoeri. Cafodd Llyn Trawsfynydd ei greu yn y 1920au ar gyfer prosiect trydan dŵr Maentwrog. Gweler y cofnod am Orsaf Bŵer Trawsfynydd ar Coflein yma.

5. Canolfan Chwaraeon Dŵr Cenedlaethol (Canolfan Awyr Agored Genedlaethol), Plas Menai

Ar lannau Afon Menai rhwng Bangor a Chaernarfon y mae ein henghraifft nesaf. Adeiladwyd Canolfan Awyr Agored Genedlaethol Plas Menai yn 1982, ac ar y pryd hwn oedd prosiect mwyaf cwmni pensaernïol Bowen Dann Davies.

Fel y gwelir yn y llun uchod, adeiladwyd y ganolfan yn sensitif iawn o fewn yr ardal leol, gydag amlinell y to yn cydweddu â thirwedd Eryri o’i amgylch, ac yn disgyn gydag amlinell y tir tuag at y môr. Tynnwyd sylw at y ganolfan yng nghyhoeddiad Monica Cherry, Building Wales, sy’n dadlau bod y math o ddeunyddiau o ffynonellau lleol a ddefnyddiwyd wrth adeiladu’r ganolfan gyda’i gilydd yn creu atgof pwerus o adeilad traddodiadol Cymreig. Mae’r rhain yn cynnwys coed â staen tywyll, waliau cerrig trwchus, pyst derw trwm, ymylon bondo o bren cedrwydd a llechi to. Mae dylanwad y pensaer Americanaidd, Frank Lloyd Wright, i’w weld y tu mewn a’r tu allan i’r adeilad yn ogystal. Enillodd yr adeilad Wobr y Civic Trust yn 1984 a’r Fedal Aur yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1985. Mae Plas Menai ar hyn o bryd ym mherchnogaeth ac o dan reolaeth Chwaraeon Cymru. Gweler ei dudalen ar Coflein yma.

6. Malator, Druidston

I gloi, cyrhaeddwn Druidston yn Sir Benfro lle yn 1998 adeiladwyd Malator gan Future Systems, o dan arweiniad Jan Kaplický. Kaplický oedd yn gyfrifol hefyd am Ganolfan y Cyfryngau ym Maes Criced Lord’s ac adeilad Selfridges yn Birmingham. Adeiladwyd Malator yn Druidston yn arbennig ar gyfer y cyn Aelod Seneddol Bob Marshall-Andrews a’i wraig, Gill, oedd yn gobeithio symud yno i ymddeol. Yn flaenorol, hen farics pren oedd ar y safle, lle’r arferai Marshall-Andrews ddod ar ei wyliau, ond y gobaith oedd cael adeilad mwy parhaol i’w alw’n gartref.

Y broblem oedd bod y safle yn Druidston mewn Parc Cenedlaethol gyda’r rheoliadau adeiladu yn llym iawn. Fel penseiri, nod Future Systems oedd lleihau effaith weledol y tŷ a gwneud iddo ymddangos fel rhan naturiol o’r dirwedd.

Gan ystyried hyn, cynlluniodd Future Systems dŷ pridd oedd yn cydweddu â’r dirwedd, heb amharu ar y bywyd gwyllt a’r natur o’i gwmpas. Cyfunwyd dulliau traddodiadol Scandinafaidd megis adeiladu’r waliau trwchus gyda haenau o bridd yn gorgyffwrdd i greu system inswleiddio effeithiol yn ogystal â chreu cuddliw. Mae wal eang o wydr yn rhoi golygfeydd anhygoel, fel llygad yn edrych dros Fae San Ffraid.

Oddi mewn, mae ystafell fyw ganolog gyda soffa sefydlog a simnai yn y canol, gwelyau, ystafell ymolchi a chegin o bobtu, a phodiau gyda waliau crwm yn adleisio’r dirwedd naturiol oddi allan. Gweler gwybodaeth am Malator ar Coflein yma.

Y Lle Hanes

Gobeithio bod y blog hwn wedi rhoi blas bychan iawn o dreftadaeth Cymru yn yr ugeinfed ganrif. Dechrau’r ganrif gyda’r adeilad cenedlaethol mawreddog yn y brif ddinas a chloi gyda thŷ pridd mewn safle diarffordd sydd â pherthynas agos â’r tir. Mae’r hanner dwsin o enghreifftiau hyn yn rhoi croestoriad bychan o’n treftadaeth o ran adeiladau a godwyd yng Nghymru yn yr ugeinfed ganrif. Bydd fy sgwrs, ‘Ugain Adeilad o’r Ugeinfed Ganrif’, ar dudalen Facebook Y Lle Hanes o 10am fore Gwener 6 Awst yn trafod ugain o adeiladau a safleoedd i gyd, yn eu gosod yn eu cyd-destun hanesyddol ac yn rhoi amlinelliad o rai elfennau pensaernïol allweddol. Dyma restr lawn o’r adeiladau a’r safleoedd:

1. Banc National Westminster, Aberystwyth (1903)

2. Capel Bedyddwyr Bethania, Maesteg (1908)

3. Yr Amgueddfa Genedlaethol, Caerdydd (1912)

4. Sinema’r Carlton, Abertawe (1913–14)

5. Stâd Dai Townhill, Abertawe (1920au)

6. Neuadd y Gweithwyr ac Institiwt Maerdy (1924)

7. Hafod, Llansanffraid Glan Conwy (1935)

8. Ysbyty Sili, Penarth (1932–36)

9. Ffatri Arfau Rhyfel, Hirwaun (1941–42)

10. Sied Awyrennau, Doc Penfro (1930–57)

11. Caffi Morannedd, Cricieth (1948–54)

12. Ysgol Rhos Helyg, Yr Wyddgrug (1953)

13. Gorsaf Bŵer Niwclear, Trawsfynydd (1958–63)

14. Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug (1966–67)

15. Pencadlys Heddlu Gogledd Cymru, Wrecsam (1973–75)

16. Ysgol Uwchradd Bettws, Casnewydd (1972)

17. Neuadd y Sir Gorllewin Morgannwg (Canolfan Ddinesig), Abertawe (1979–84)

18. Canolfan Awyr Agored Genedlaethol, Plas Menai (1982)

19. Malator, Druidston, Sir Benfro (1998)

20. Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd (1997–99)

Gan Meilyr Powel, Cyorthwyydd Gwella Data | Data Enhancement Assistant

***Noder, yn unol ag arferiad yr Eisteddfod, bydd y sgwrs hon yn cael ei chyflwyno yn Gymraeg (heb gyfieithu ar y pryd) ond bydd y testun yn cael ei drafod eto yn ddiweddarach yn y flwyddyn yn ystod ein cyfres boblogaidd o ddarlithoedd ar-lein.***

07/27/2021

guest
0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x