
Un Mis Ar Ôl: Cofrestrwch Eich Lle Yng Nghynhadledd Gorffennol Digidol 2017 Nawr…
Mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn eich gwahodd i fynychu:
Gorffennol Digidol 2017:
Technolegau newydd ym meysydd treftadaeth, dehongli ac estyn-allan
15 a 16 Chwefror 2017, Glan yr Afon, Casnewydd
Mae’r rhaglen o siaradwyr ar gyfer Gorffennol Digidol yn gyflawn!
Ewch i dudalen siaradwyr y Gynhadledd i weld yr amrywiaeth wych o siaradwyr. Mae eu harbenigedd yn amrywio o fethodoleg arolygu digidol uwchdechnolegol i’r offer ymgysylltu diweddaraf, ac yn ymestyn i gymhlethdodau data agored a rheoli data. Weld y Rhaglen lawn.
Gallwch gofrestru ar gyfer y ddau ddiwrnod am £89 yn unig, ac mae hyn yn cynnwys cinio a lluniaeth. Gan fod nifer cyfyngedig o leoedd, bwciwch yn awr i sicrhau eich lle.
Mae’r stondinau’n gwerthu’n gyflym, felly os hoffech arddangos eich prosiect, gwasanaethau neu gynhyrchion i’n hamrywiaeth eang o gynadleddwyr, ewch i’n tudalen arddangosfeydd i gael manylion y cyfleusterau ac i archebu’ch stondin chi.
Edrychwn ymlaen at eich croesawu chi i gynhadledd Gorffennol Digidol 2017.
Cynhadledd Gorffennol Digidol | Lleoliad | Cofrestru | Sylwadau | Blogs | Arddangosfeydd | Ein Noddwyr
01/19/2017