
Swydd Wag – Uwch Ymchwilydd (Arforol)

Mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn dymuno penodi Uwch Ymchwilydd (Arforol), swydd allweddol yn ei dîm Arolygu ac Ymchwilio.
Swydd barhaol yw hon. Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am gyfoethogi a chynnal Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru drwy arolygu ac ymchwilio i archaeoleg arforol ar hyd arfordir Cymru, ac am roi cyngor arbenigol i’r rheiny sy’n gwneud penderfyniadau ac i gynllunwyr yn y sector amgylchedd hanesyddol.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad uniongyrchol o arolygu arforol, gan gynnwys yn y parth rhynglanw, a phrofiad o synthesu a chyhoeddi yn y maes gwaith hwn ac o reoli a defnyddio data o arolygon arforol arbenigol. Rydym yn chwilio’n arbennig am rywun a all weithio’n effeithiol fel rhan o dîm i gwblhau prosiectau a chyflawni amcanion. Mae’r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg yn angenrheidiol ar gyfer y swydd hon. Sut bynnag, ystyrir ceisiadau gan ymgeiswyr sydd wedi ymrwymo i ddysgu Cymraeg a chyrraedd y lefel angenrheidiol. Caiff hyfforddiant ei ariannu.
- Swydd llawn amser parhaol yw hon.
- Graddfa gyflog: £29,850 i £36,500 y flwyddyn. Penodir ar waelod y raddfa fel rheol.
- Gellir cael manylion pellach a ffurflen gais yma: Swyddi sy’n Wag ar hyn o bryd
- Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau: 8 Mawrth 2020.
02/10/2020