
Wythnos Gweithredu Dementia: Defnyddio adnoddau treftadaeth digidol i ysgogi atgofion
Mae’r Comisiwn Brenhinol yn parhau i hyrwyddo ei adnoddau i ysgogi atgofion. Mae’r gwaith hwn wedi datblygu o ddigwyddiad a gynhaliwyd yn 2017 yn y Comisiwn Brenhinol mewn partneriaeth ag Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth. Pwrpas y digwyddiad oedd ystyried sut y gallai archifau gael eu defnyddio’n ffynhonnell ar gyfer creu gweithgareddau, storïau a gweithiau celf a fyddai’n helpu i ysgogi atgofion ymhlith pobl sy’n byw gyda dementia.
Ein cofnodion

Ceir trysorau di-rif yn archif y Comisiwn, Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (CHCC). Gan fod ein harchif yn cynnwys llawer iawn o ddelweddau sy’n dangos ble mae pobl wedi byw, gweithio, chwarae, priodi neu addoli, mae’n hynod berthnasol i’r sawl sy’n dymuno hel atgofion. Rhaid cofio hefyd fod nifer mawr o’r ffotograffau sydd yn ein harchif yn dyddio’n ôl i’r 1950au, 60au, 70au ac 80au – hynny yw, y cyfnod o fewn cof pobl sy’n byw heddiw.
Gallwch ymgynghori â CHCC drwy’r gronfa ddata ar-lein, Coflein.
I weld detholiad bach o’r delweddau sydd ar gael ar Coflein, edrychwch ar ein horiel ‘Archif Cof’: https://coflein.gov.uk/cy/gallery/memoryarchive
Casgliad y Werin Cymru: ‘Archif Cof’
Menter o eiddo Casgliad y Werin Cymru sy’n cael ei harwain gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru yw ‘Archif Cof’. Cyfrif wedi’i guraduro yw hwn, sydd â’r nod o hwyluso gwaith hel atgofion gyda phobl sy’n byw gyda dementia. Mae’r casgliadau wedi’u rhannu’n themâu a degawdau (o fewn cof pobl fyw), ar sail adborth staff gofal iechyd proffesiynol.

Fel rhan o bartneriaeth Casgliad y Werin Cymru, byddwn yn gweithio’n agos â Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru i ddatblygu’r gwaith hwn yn y dyfodol.
Dewch o hyd i ni (https://www.casgliadywerin.cymru/users/29941) neu chwiliwch am ‘Archif Cof’ a defnyddiwch yr hidlydd ‘Casgliadau’.
05/23/2019