
Wythnos Gweithredu Dementia: Lansio ein hadnodd addysgu newydd Archif Cof a phosteri Coeden Gof a Llinell Amser Cof am ddim ar wefan CYW
Codi ymwybyddiaeth o ddementia ymhlith pobl ifanc
Pleser mawr gennym yw lansio’r adnodd addysgu Archif Cof newydd rydym wedi’i greu fel rhan o bartneriaeth Casgliad y Werin Cymru (CYW).
Mae’r adnodd ar gyfer disgyblion y Cyfnod Sylfaen a Chyfnodau Allweddol 2-4 a bydd:
- yn eich cyflwyno chi i’r Archif Cof ar wefan CYW, sef archif o ddelweddau y gallwch eu defnyddio wrth hel atgofion gyda phobl sy’n byw gyda dementia;
- yn eich cyflwyno chi i adnoddau addysg Cymdeithas Alzheimer’s i ysgolion sy’n gwneud addysgu a dysgu am ddementia yn hawdd; ac
- yn cynnig dau weithgaredd hel atgofion ymarferol y gall dysgwyr eu hymarfer yn yr ystafell ddosbarth neu o bell gan ddefnyddio’r Archif Cof: creu Coeden Gof neu Linell Amser Cof.
Mae codi ymwybyddiaeth o ddementia yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth disgyblion o’r cyflwr cyffredin hwn sy’n newid bywydau. Gall hefyd roi sgiliau bywyd gwerthfawr iddyn nhw, gan eu galluogi i gefnogi aelodau o’u teulu a’u cymuned sy’n byw gyda dementia.
Rhowch gynnig ar ein posteri newydd
Nid ar gyfer pobl ifanc yn unig y mae’r gweithgareddau hyn wrth gwrs. Fel rhan o’r adnodd addysgu, rydym wedi creu cyfres o bosteri Coeden Gof a Llinell Amser Cof sydd ar gael am ddim i unrhywun eu defnyddio.

Gallwch yn awr ddewis ac argraffu delweddau o’r Casgliadau Archif Cof a’u hychwanegu at y poster o’ch dewis. Mae’r Goeden Gof wedi’i strwythuro yn ôl thema, ond mae’r Llinell Amser Cof yn gronolegol. Gallwch ychwanegu delweddau at y canghennau neu ar hyd y llinell amser sy’n cynrychioli atgofion pwysig o fywyd yr unigolyn.
Gobeithiwn y bydd yr adnoddau hyn yn tanio atgofion ac yn ysgogi trafodaeth. Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych os ydynt – gadewch eich sylwadau isod!

Reina van der Wiel, Rheolwr Llywodraethu a Risg
Catalena Angele, Swyddog Addysg Casgliad y Werin Cymru
05/18/2021