Thomas Pennant A Tour in Wales, Vol. II. London Henry Hughes (1st Edition, 1783)

Wythnos Llyfrgelloedd 5-10 Hydref 2020

Ar gyfer Wythnos Llyfrgelloedd eleni fe wahoddwyd ein staff a’n gwirfoddolwyr i ysgrifennu darn byr am lyfr neu gylchgrawn yn ein Llyfrgell sy’n arbennig o ddefnyddiol iddynt yn y gwaith, sydd wedi cael dylanwad arnynt mewn rhyw ffordd, neu sy’n rhoi pleser pur iddynt.

Roedd y canlyniadau’n ddiddorol iawn a gallwch eu gweld drwy gydol yr wythnos hon ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol. Yn ogystal â thynnu sylw at beth o’r deunydd gwych sydd gennym yn ein Llyfrgell, maen nhw’n taflu goleuni ar yr hyn sydd wedi’u hysbrydoli yn eu gyrfaoedd ac wedi ysgogi eu diddordebau.

Gan obeithio y byddwch chi’n mwynhau!

Penny Icke – Rheolwr Gwasanaethau Gwybodaeth

Thomas Pennant: A Tour in Wales, Cyfrol II. London: Henry Hughes (Argraffiad 1af, 1783) 

Thomas Pennant: A Tour in Wales, Cyfrol II. London: Henry Hughes (Argraffiad 1af, 1783)

Cyflwr: Gweddol.Cloriau mewn cyflwr gwael iawn: ôl rhwbio a tholcio, ymylon y cloriau yn y golwg lle mae’r lledr wedi’i rwygo neu wedi’i wisgo’n gyfan gwbl, yr offeru aur wedi’i golli neu’i ddifrodi. Cryn ddifrod i’r corneli. Y lledr ar y clawr blaen a’r clawr ôl wedi drygliwio a’r clawr blaen wedi dod i ffwrdd …

Am 12 mis, o Dachwedd 2018, cefais y fraint o helpu’r Comisiwn Brenhinol i gofnodi, disgrifio a phrisio ei gasgliad o 162 o lyfrau prin a hynafol a gedwir mewn blychau. Fel mae’n digwydd, bu hwn yn un o’r cyfnodau mwyaf difyr yn fy ngyrfa, ac fe’i gwnaed yn fwy pleserus byth gan gwmni fy nghydweithwyr, Penny, Lynne, Rhodri ac Ywain.

Mae rhan o un cofnod wedi’i nodi uchod (cyfieithiad). Ganwyd y polymath Thomas Pennant (1726-98) yng nghartref y teulu, Downing, yn Sir y Fflint a daeth yn adnabyddus fel naturiaethwr (bu’n gohebu â Gilbert White), hynafiaethydd, daearegwr a theithiwr brwd, yn enwedig yng Nghymru a’r Alban (cafodd ei ganmol gan Dr Johnson). Cyhoeddodd lyfrau niferus a chyflogodd Moses Griffith (1747-1819), yr arlunydd dyfrlliw enwog o Gymru a baentiodd fywyd gwyllt, tirluniau ac adeiladau, i greu’r darluniau. Ymddengys fod Pennant yn ddyn ‘hynaws’ gyda chylch eang o gyfeillion a gohebwyr.

Am wahanol resymau mae ‘Pennant’ wedi dod yn enw drwg-enwog yng Ngogledd Cymru ond rydw i wedi methu â dod o hyd i unrhyw gysylltiad agos rhwng Thomas a pherchnogion caethweision Castell Penrhyn.

Mae’r argraffiad cyntaf yng nghasgliad y Llyfrgell wedi’i rwymo’n gyfan gwbl mewn croen llo ac mae ganddo offeru aer ond, fel y nodir uchod, nid yw mewn cyflwr da. Mae’n un o’r cyfrolau yr argymhellwyd ei adfer.

Rob Anthony  – Gwirfoddolwr

Er bod y Llyfrgell ar gau ar hyn o bryd, gallwch fynd ar daith rithiol a phori’r silffoedd neu chwilio catalog ein Llyfrgell.

10/05/2020

guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x