Wythnos Llyfrgelloedd: Deg math o lyfr y byddwn yn eu defnyddio wrth ymateb i’ch ymholiadau

Bob dydd, bydd ein tîm Llyfrgell ac Ymholiadau yn ateb ystod eang o gwestiynau am hanes, adeiladau ac archaeoleg Cymru. P’un a ydych yn hanesydd lleol, yn gasglwr achau, yn syrfëwr proffesiynol neu’n rhywun sy’n chwilfrydig ynghylch hanes eich tŷ, byddwn yn ymchwilio ac yn darparu gwybodaeth a chyngor sy’n berthnasol i’ch ymchwil. Mae’r atebion y byddwn yn eu darparu yn seiliedig ar yr holl gofnodion sydd yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru – yn y gronfa ddata ar-lein, Coflein, ac yn yr archif ffisegol – ond rydym yn defnyddio ein harbenigedd ein hunain ac arbenigedd pobl eraill hefyd i’n helpu i ddeall cyd-destun a natur eich cwestiynau. Mae’r llyfrau a’r cyfnodolion sydd yn ein llyfrgell arbenigol yn gymorth i ni’n aml, ac mae modd i’r cyhoedd bori trwy’r rhain yn ein Hystafell Chwilio yn Aberystwyth. Er mwyn eich helpu gyda’ch ymchwil eich hun, dyma restr o’r deg llyfr y byddwn yn troi atynt yn aml wrth ateb cwestiynau am amgylchedd adeiledig hanesyddol Cymru.

1. The Buildings of Wales (Pevsners)

Bydd y gyfres hynod bwysig hon o ganllawiau’n gyfarwydd i unrhyw un sydd â diddordeb mewn pensaernïaeth neu mewn adeiladau hanesyddol. Mae’r llyfrau wedi’u trefnu yn ddaearyddol gyda mynegeion defnyddiol, ac maent yn cynnwys manylion hanesyddol a phensaernïol adeiladau nodedig ledled y wlad. Yn ogystal â’r set gyflawn sy’n berthnasol i Gymru (Clwyd, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion, Morgannwg, Gwent/Sir Fynwy, Gwynedd, Sir Benfro, a Phowys), mae yn ein harchif gasgliad o nodiadau hefyd sy’n berthnasol i’r cyhoeddiadau ynghylch Morgannwg a Gwent.

2. Rhestrau o Henebion Cymru a Sir Fynwy

Cawsom ein sefydlu yn 1908 i lunio rhestr o Henebion ac Adeiladau Hanesyddol a oedd yn gysylltiedig â diwylliant cyfoes, gwareiddiad ac amodau bywyd pobl Cymru a Sir Fynwy o’r cyfnodau cynharaf, neu a oedd yn darlunio’r pethau hynny, ac i nodi’r rhai a oedd fwyaf teilwng i’w cadw. Er mwyn gwneud hynny, gwnaethom dreulio llawer o’r ugeinfed ganrif yn cyhoeddi rhestrau o safleoedd hanesyddol a chynhanesyddol o bwys, fesul sir: ar gyfer Sir Drefaldwyn (1911), Sir y Fflint (1912), Sir Faesyfed (1913), Sir Ddinbych (1914), Sir Gaerfyrddin (1917), Sir Feirionnydd (1921), Sir Benfro (1925), Ynys Môn (1937), Sir Gaernarfon (1956–1964), Morgannwg (1976–1988), a Sir Frycheiniog (1986–1997). Cafodd rhai o’r rhain eu hysgrifennu dros ganrif yn ôl, felly mae’n bosibl y bydd peth o’r wybodaeth wedi’i disodli gan ein cofnodion cyfredol. Ond mewn llawer o achosion, mae’r cofnodion yn y llyfrau hyn yn llawnach na’r disgrifiadau cyfredol ar Coflein, ac yn cynnwys gwybodaeth neu gyfeiriadau nad ydynt i’w cael yn y cofnodion modern. At hynny, gan fod llawer o’n harchif wedi’i chasglu yn wreiddiol fel archif weithredol gan ymchwilwyr a oedd yn llunio’r cyfrolau hyn, maent yn ganllaw amhrisiadwy i ddeall ein casgliadau a’u rhoi mewn cyd-destun. Yn ogystal â’r copïau sydd yn ein llyfrgell, mae’r holl restrau hyn ar gael ar ffurf ELyfrau o’n siop ar-lein, ac mae llawer ohonynt ar gael yn rhad ac am ddim!

3. Llyfr Thomas Lloyd The Lost Houses of Wales: A Survey of Country Houses in Wales Demolished since 1900, 1986

Gyda dirywiad llawer o ystadau a theuluoedd tirfeddianwyr yn yr ugeinfed ganrif, cafodd llawer o faenordai a phlasau hanesyddol Cymru eu hesgeuluso neu’u difrodi drwy ddamwain, aethant yn adfail neu â’u pen iddynt, a chawsant eu dymchwel. Mae rhestr Lloyd o’r tai hyn a oedd mor ysblennydd ynghyd â’u hanes yn crynhoi gwybodaeth amhrisiadwy am leoedd coll, ac mewn rhai achosion mae’n cynnwys y disgrifiad llawnaf a mwyaf hygyrch sydd ar gael ohonynt a’u hanes. Fel mae’n digwydd, roedd Tom Lloyd yn un o’n comisiynwyr yn ddiweddar a chyfrannodd i’n harchifau yn ogystal ag i silffoedd ein llyfrgell!

4. A Corpus of Medieval Inscribed Stones and Stone Sculpture in Wales gan Mark Redknap a J. M. Lewis (Cyfrol I) a Nancy Edwards et. al. (Cyfrolau II a III), 2007

Mae’r corpws anferth hwn yn rhoi manylion am leoliad, hanes a chynnwys llawer o gerrig arysgrifedig canoloesol Cymru — o feini hirion i gerrig beddi a gweddillion eglwysig — ynghyd â thrawsgrifiadau a chyfieithiadau, yn ne-ddwyrain Cymru a’r gororau, de-orllewin Cymru, a gogledd Cymru. Mewn rhai achosion, mae’r corpws yn cynnwys cofebau sydd heb eu cofnodion eu hunain ar Coflein ac mae’n ychwanegiad rhagorol i’n cofnodion ein hunain, yn enwedig gan fod archif y cyhoeddiad ymysg ein casgliadau. Mae’n wych hefyd cael Nancy Edwards yn Gadeirydd presennol ar y Comisiwn Brenhinol, ac rydym yn ddiolchgar bob amser am ei harbenigedd!

5. Llyfrau Francis Jones – Historic Homes of Carmarthenshire (1987), Pembrokeshire (1996), and Cardiganshire (2000) and their Families

Roedd Francis Jones yn hanesydd nodedig ac yn arbenigwr ar herodraeth ac achyddiaeth, ac ef oedd y person cyntaf i gael ei benodi i swydd Herodr Arbennig Arfau Cymru wedi iddi gael ei hailsefydlu yn 1963. Mae ei weithiau ar dai a theuluoedd hanesyddol Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, a Sir Aberteifi – cafodd y ddau olaf eu cyhoeddi ar ôl ei farwolaeth – yn cynnwys cofnodion ar gyfer cannoedd o dai ac ystadau ar hyd a lled Dyfed, y mae llawer ohonynt yn gymharol fach neu wedi’u colli erbyn hyn.

6. Hanes siroedd

Nid dim ond y Comisiwn Brenhinol sydd o’r farn bod y tair ar ddeg o siroedd hanesyddol Cymru yn uned ddefnyddiol ar gyfer ymchwil hanesyddol. Ers diwedd y ddeunawfed ganrif a dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg mae hynafiaethwyr a haneswyr wedi bod yn archwilio hanes, hynafiaethau a thraddodiadau plwyfi a siroedd Cymru. Mae gennym gopïau o nifer o’r llyfrau pwysig hyn am hanes sirol, megis llyfr Theophilus Jones History of the County of Brecknock (a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 1805) a llyfr Samuel Rush Meyrick History and Antiquities of the County of Cardigan (1810), yn ogystal â chyhoeddiad aml-gyfrol Joseph Alfred Bradney History of Monmouthshire from the Coming of the Normans into Wales down to the Present Time (1904–1994). Er mor bwysig a defnyddiol yw’r gweithiau cynnar hyn, yn fwy diweddar mae cymdeithasau hanes sirol wedi cyhoeddi hanes sawl sir ar ffurf aml-gyfrol, o’r cyfnod cynhanesyddol i’r presennol, ar gyfer siroedd megis Morgannwg, Gwent, Sir Benfro, a Sir Aberteifi.

7. Teithiau hanesyddol drwy Gymru

Gan ddilyn diddordebau diwylliannol tebyg i’r llyfrau hanes lleol neu sirol, o ddiwedd y ddeunawfed ganrif ymlaen cafodd yr arfer o gyhoeddi teithiau a theithlyfrau ei gyfuno â’r diddordeb hynafiaethol boneddigaidd. Mae gweithiau tebyg i gyhoeddiadau Thomas Pennant Tour in Wales (1778), William Coxe Historical Tour of Monmouthshire (1801), a Richard Fenton Historical Tour Through Pembrokeshire (1811) yn cynnwys cofnodion a chyfeiriadau cynnar yn ymwneud â hynafiaethau Cymru, sydd bellach yn anenwog neu wedi’u colli. Roedd y ffynonellau hyn yn rhoi gwybodaeth i’r ymchwilwyr a fu’n gyfrifol am y Rhestrau a gyhoeddwyd gennym yn yr ugeinfed ganrif ac maent yn dal i gynnwys gwybodaeth sy’n ddefnyddiol i ni heddiw. Cafodd ein hargraffiad ni o daith Pennant ei olygu gan ein Cadeirydd cyntaf, Syr John Rhŷs. Mae llawer o’r gweithiau hyn wedi dod yn fwy hygyrch fyth, diolch i brosiectau tebyg i’r wefan Teithwyr Chwilfrydig a luniwyd gan Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru a chronfa ddata ar-lein Michael Freeman ynghylch twristiaid cynnar yng Nghymru.

8. Cyfnodolion

Yn ogystal â llyfrau, mae gan ein llyfrgell gasgliad eang iawn o gyfnodolion sy’n ymwneud â hanes, archaeoleg, hynafiaetheg, diwydiant, treftadaeth a llawer mwy. Mae’r rhain yn amrywio o gylchgronau poblogaidd, megis ein casgliad helaeth o Railway Magazine, i gyfnodolion am hanes siroedd; prif gyhoeddiadau ymchwil ynghylch hanes ac archaeoleg Cymru, megis Cylchgrawn Hanes Cymru/Welsh History Review ac Archaeologia Cambrensis; a theitlau annisgwyl megis Shropshire Caving and Mining Club Annual Journal. Mae’r casgliad o gyfnodolion yn ein Llyfrgell a’n Hystafell Chwilio yn ategu’r rhai sydd i’w cael drws nesaf yn ystafell ddarllen y Llyfrgell Genedlaethol, ac maent yn adnodd gwerthfawr i ymchwilwyr.

9. Ein cyhoeddiadau ni ein hunain

Ers ein sefydlu, rydym wedi cyhoeddi mwy na dim ond Rhestrau, felly pan fydd angen i ni ddeall pwnc ehangach sy’n gysylltiedig â threftadaeth adeiledig, archaeoleg neu hanes pensaernïol Cymru, byddwn yn estyn yn aml am ein cyhoeddiadau ni ein hunain. P’un a oes angen i ni ddysgu am bensaernïaeth y pensaer Celfyddyd a Chrefft, Herbert Luck North, archwilio archaeoleg ucheldiroedd Cymru, taflu goleuni ar oleudai Cymru, cael cipolwg ar du mewn cartrefi Cymru, neu ddarganfod tai hanesyddol Eryri, mae’r atebion i’w cael ar silffoedd ein llyfrgell. Mae rhai o’r llyfrau hyn, gan gynnwys y ddau a gyhoeddwyd gennym yn fwyaf diweddar, sef Cymru a’r Môr a Temlau peintiedig: murluniau a chroglenni yn eglwysi Cymru, ar gael i’w prynu neu’u lawrlwytho o’n siop, ond ein Llyfrgell a’n Hystafell Chwilio yw’r lle gorau i bori drwy’r casgliad cyflawn a’i fwynhau. Mae’r llyfrau hyn yn bwysig hefyd er mwyn deall ein harchif, oherwydd mae gan y rhan fwyaf ohonynt berthynas ddwy ffordd â’n casgliadau archif. Maent yn elwa o’r casgliadau hynny ac maent hefyd yn cyfrannu lluniau a nodiadau i’n daliadau.

10. Popeth arall!

Hwyrach bod y categori olaf hwn yn ymddangos braidd yn gyffredinol, a dweud y lleiaf, ond mae’r ystod eang o ymholiadau a gawn yn golygu bod angen i’n llyfrgell gynnwys gweithiau arbenigol am ystod yr un mor eang o bynciau, cyfnodau a mathau o safleoedd. Gall ein llyfrgell wneud y cyfan, p’un a fyddwn yn pori drwy gyhoeddiad G. R. Orrin Medieval Churches in the Vale of Glamorgan (1988) pan ddaw ymholiad am eglwysi, cyhoeddiad Beth Thomas Fleapits and Picture Palaces (1997) wrth ymchwilio i sinemâu, cyhoeddiad Angela Gaffney Aftermath: Remembering the Great War in Wales (1998) wrth adolygu cofebau rhyfel, llyfr Edward Doylerush No Landing Place (1985) wrth chwilio am safleoedd lle cwympodd awyrennau o’r awyr, neu lyfr Charles Hadfield Canals of South Wales and the Border (1960) wrth olrhain hanes isadeiledd. Ni fyddem yn dweud o reidrwydd bod yna lyfr ar gael ar gyfer pob pwnc posibl (ddim eto, o leiaf!) ond gyda’n casgliadau amrywiol a’r broses barhaus o gaffael rhai newydd, mae gennym ni — a chithau’n awr — ystod o adnoddau i allu ymchwilio i unrhyw ymholiad (cyhyd â’i fod yn ymwneud ag amgylchedd adeiledig Cymru, wrth gwrs).

Mae ein Llyfrgell a’n Hystafell Chwilio ar agor bob dydd Llun, dydd Mawrth a dydd Iau o 9:30 a.m. i 4:30 p.m., ac ar ddydd Mercher o 10:30 a.m. i 4:30 p.m., i unrhyw un sydd am ddefnyddio’r llyfrgell, gweld deunydd o’r archif, cael arweiniad ar ddefnyddio ein cofnodion i ymchwilio, neu wneud pob un o’r uchod. Rydym yn cynnig sesiynau tawel preifat hefyd i’r sawl y gallai fod arnynt eu hangen, a gellir eu trefnu trwy gysylltu â’n Tîm Llyfrgell ac Ymholiadau (ebost: chc.cymru@cbhc.gov.uk neu ffôn 01970 621 200). Rydym yn gobeithio eich gweld cyn bo hir!

10/03/2022

guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x