Children from Tywyn and the resettlement camp bonded over their love of football.

Wythnos Ryng-ffydd 2022: ‘British Ugandan Asians at 50’

Hanner can mlynedd yn ôl, yn 1972, penderfynodd Idi Amin, Arlywydd Uganda, yrru allan yr holl ddinasyddion Asiaidd a oedd yn byw yn y wlad a chymryd eu holl eiddo oddi arnynt, a’u beio ar gam am broblemau economaidd Uganda. Cynigiodd Llywodraeth y DU gartref newydd iddynt gan agor nifer o wersylloedd ail-leoli ar hen safleoedd milwrol i gynnig cartref i’r sawl a oedd wedi’u gyrru allan o Uganda, nes y byddai modd dod o hyd i gartrefi parhaol newydd ar eu cyfer. Croesawodd Cymru tua 1,700 o’r ffoaduriaid hyn, gan ddefnyddio hen wersyll hyfforddi’r fyddin yn Nhonfannau, ychydig i’r gogledd o Dywyn, fel canolfan dderbyn ac ail-leoli.

Asiaid Ugandaidd yn eu harddegau yng ngwersyll Tonfannau; soniodd rhai o’r bobl sydd yn y llun hwn am hanes eu bywyd yn y dderbynwest yn Llyfrgell Tywyn ar 10 Hydref 2022. Nid oedd gan lawer ohonynt ddillad a oedd yn addas i hinsawdd Cymru, ac maent yn gwisgo dillad a roddwyd iddynt gan bobl Tywyn, sy’n adlewyrchu ffasiwn y ’70au.

Cyrhaeddodd tua 700 o ffoaduriaid orsaf Tonfannau yn y glaw, yn hwyr yn y nos, ar 13 Hydref 1972 ar ôl taith hir mewn awyren a thaith 8 awr arall o ganolfan ddal yn Llundain. Cyrhaeddodd 800 o Asiaid Ugandaidd eraill ar y trên yn ystod mis Tachwedd a chyrhaeddodd niferoedd llai yn ystod y misoedd wedyn.

Daeth plant o Dywyn a’r gwersyll ail-leoli yn ffrindiau drwy eu hoffter o bêl-droed.
Daeth plant o Dywyn a’r gwersyll ail-leoli yn ffrindiau drwy eu hoffter o bêl-droed.

Ar 10 Hydref 2022 cynhaliodd Llyfrgell Tywyn arddangosfa i goffáu digwyddiadau hanner can mlynedd yn ôl, a chynhaliodd aduniad a fynychwyd gan nifer o bobl a oedd wedi cyrraedd y DU heb arian a heb ddim ond y dillad a oedd amdanynt ar y daith o Uganda i Gymru. Wrth siarad yn y dderbynwest, rhoesant deyrnged i’r croeso cynnes a gawsant ar ôl cyrraedd Tonfannau. Yno hefyd yr oedd rhai o’r gwirfoddolwyr o Dywyn a oedd wedi helpu i sicrhau bod y gwersyll yn Nhonfannau yn lle addas i fyw ynddo ac a oedd wedi helpu i gasglu dillad ar gyfer y ffoaduriaid a darparu bwyd, ac roeddent yn cynnwys yr athrawon a oedd wedi gwirfoddoli i helpu’r plant i baratoi ar gyfer eu harholiadau lefel O. Mae’r ffaith bod y ffoaduriaid i gyd wedi pasio eu harholiadau, a bod llawer ohonynt wedi cael y graddau uchaf, yn glod i’w gwytnwch.

Gwahoddedigion yn y dderbynwest yn Llyfrgell Tywyn.
Gwahoddedigion yn y dderbynwest yn Llyfrgell Tywyn.

Y gwytnwch hwnnw a’u penderfynoldeb i greu bywyd newydd llwyddiannus oedd thema’r dderbynwest yn Llyfrgell Tywyn, wrth i’r naill siaradwr ar ôl y llall sôn am eu profiadau. Yn eu plith yr oedd Cadeirydd y Comisiwn Brenhinol, Nancy Edwards, a soniodd am ei gwaith fel Gwirfoddolwr Gwasanaethau Cymunedol yng Ngwersyll Stradishall yn Suffolk yn 1972–3.

Cadeirydd y Comisiwn, Nancy Edwards, yn sôn am ei gwaith fel gwirfoddolwr yng Ngwersyll Stradishall yn Suffolk yn 1972–3.
Cadeirydd y Comisiwn, Nancy Edwards, yn sôn am ei gwaith fel gwirfoddolwr yng Ngwersyll Stradishall yn Suffolk yn 1972–3.

Cafodd yr arddangosfa ‘British Ugandan Asians at 50’ yn Llyfrgell Tywyn ei hariannu’n rhannol gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol a bydd yn mynd ar daith o gwmpas y DU yn awr (gweler www.bua50.org). Mae’r Comisiwn Brenhinol wedi bod yn gweithio gyda’r prosiect BUA 50 ac wedi cael grant ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i weithio gyda chymunedau Asiaidd yng Nghymru i fapio lleoedd sy’n bwysig i’w hanes a chofnodi’r modd y mae diwylliant Asiaidd a diwylliant Cymru wedi’u cyfoethogi ac yn cael eu hadlewyrchu yng nghartrefi pobl, eu mannau addoli a’u safleoedd busnes.

Cyrhaeddodd Chandrika Keshavlal Joshi wersyll Tonfannau fel merch yn ei harddegau, ac ers hynny mae wedi dilyn gyrfa lwyddiannus ym maes deintyddiaeth. Mae Chandrika wedi bod yn offeiriades Hindŵaidd ers 2002. Mae hefyd yn storïwraig broffesiynol (fel ei mam a’i nain), ac mae stori pob un ohonynt yn plethu’r ddrama go iawn o orfod dianc o Uganda â chwedlau Hindŵaidd a Chymreig i gyflwyno hanes am golled, gwytnwch, cymathu diwylliannol a dod o hyd i gartref (www.walesartsreview.orgchandrika-joshi-on-spirited-storytelling).

Ar ôl y dderbynwest yn Llyfrgell Tywyn, cafodd coeden griafol ei phlannu ar safle gwersyll ail-leoli Tonfannau i goffáu digwyddiadau hanner can mlynedd yn ôl.
Ar ôl y dderbynwest yn Llyfrgell Tywyn, cafodd coeden griafol ei phlannu ar safle gwersyll ail-leoli Tonfannau i goffáu digwyddiadau hanner can mlynedd yn ôl.

Christopher Catling, Yr Ysgrifennydd (Prif Weithredwr)

11/15/2022

guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x