
Y Bwthyn Cymreig: Arferion adeiladu tlodion y Gymru wledig 1750-1900
Y Bwthyn Cymreig
Gan Eurwyn Wiliam, 2010
Er mai’r bwythyn traddodiadol yw o nodweddion mwyaf arbennig tirwedd Cymru, mae ef bellach yn adeilad eithaf prin am i filoedd o enghreifftiau ohono ddiflannu dros y can mlynedd diwethaf. Er hynny, dysgwyd llawer iawn amando drwy astudio’r adeiladau sydd wedi goroesi a thrwy gofnodi eraill yn ofalus cyn iddynt ddarfod o’r tir. Mae’r waliau o bridd neu goed, y lloriau cerrig a’r toeon o frwyn, tywyrch neu gerrig yn yr adeiladau diymhongar hynny, a’u nodweddion eraill, yn adrodd hanes eithriadol o ddiddorol am draddodiadau lleol arbennig, am y sgiliau a drosglwyddwyd o genhedlaeth i genhedlaeth, ac am ymdrech gwerin gwlad i oroesi.
Clawr: Caled
Maint: 280 x 220mm
Tudalennau: 288
Darluniau: 212
ISBN: 9781871184389
Pris: £29.95
Clundiant: £0.00
Gwerthu Llyfrau
CBHC
Ffordd Penglais
ABERYSTWYTH
Ceredigion
SY23 3BU
Ffôn: 01970 621200
Ffacs: 01970 6217701
04/20/2010
Leave a Reply