
Y Cofnod Adeiladau Cenedlaethol: gwaddol o’r Ail Ryfel Byd
Mae’n 75 mlynedd ers Diwrnod VE ac mae llawer ohonom yn meddwl unwaith eto am yr Ail Ryfel Byd. Roedd effeithiau’r Rhyfel ar y byd mor bellgyrhaeddol fel ein bod ni’n parhau i’w profi heddiw, ym mhob maes o ddiwylliant poblogaidd i gyfundrefnau diplomyddol a gwleidyddol. Nid yw’r Comisiwn Brenhinol yn eithriad, ac fe gafodd un prosiect yn arbennig yn ystod y Rhyfel ddylanwad mawr ar ei waith, er y byddai blynyddoedd lawer yn mynd heibio ar ôl Diwrnod VE cyn teimlo’i heffeithiau’n llawn.
Cadwraeth yn wyneb dinistr
Ym 1940 fe ddechreuodd y Luftwaffe fomio trefi a dinasoedd Prydain, yn ystod yr ymgyrch o’r awyr a elwid y ‘Blitz’. Ym mis Tachwedd yr un flwyddyn fe gynhaliwyd cyfarfod yn Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain yn Llundain i drafod yr hyn y gellid ei wneud i greu cofnod o’r bensaernïaeth hanesyddol yr oedd y cyrchoedd bomio bellach yn bygwth ei dinistrio. Y canlyniad oedd sefydlu’r Cofnod Adeiladau Cenedlaethol (NBR) yn gynnar ym 1941 – corff ar wahân gyda nifer bach o staff ymroddgar. Ei bwrpas oedd casglu a chreu arolygon ffotograffig ac wedi’u lluniadu o adeiladau hanesyddol neu bwysig yr ystyrid bod y bomio’n fygythiad iddynt, fel bod cofnod ohonynt ar gael pe caent eu dinistrio. Oherwydd maint enfawr y gwaith, cafodd rhai adeiladau eu difrodi cyn gallu eu cofnodi. Daeth y gwaith hwn yn bwysicach byth ym 1942 pan gychwynnodd y Luftwaffe ei gyrchoedd ‘Baedeker’ (wedi’u henwi ar ôl y tywyslyfrau Almaenig poblogaidd) a dargedai’n fwriadol ardaloedd ac adeiladau o werth diwylliannol.

Y gwaith yn parhau wedi’r Rhyfel
Daeth y Rhyfel yn Ewrop i ben ar Ddiwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop, 8 Mai 1945, ond parhaodd gwaith yr NBR ymhell ar ôl hynny. Byddai’n brysur am flynyddoedd wedyn yn gwneud gwaith cofnodi hollbwysig wrth i lawer o blastai gwledig ddirywio a chael eu dymchwel ac i ardaloedd trefol a ddinistriwyd gan y bomiau gael eu hailddatblygu. Gwnaeth y gwaith hwn gyfraniad allweddol wrth i Ddeddfau Cynllunio Gwlad a Thref 1944 i 1947 gael eu llunio. Pwrpas y deddfau hyn oedd rheoli ailddatblygu ar ôl y Rhyfel a sefydlu’r broses fodern o restru adeiladau o bwys hanesyddol neu bensaernïol sy’n parhau hyd heddiw.
Cadw sy’n gyfrifol am restru adeiladau yng Nghymru bellach. I gael mwy o wybodaeth, darllenwch y llyfryn defnyddiol: Deall Rhestru yng Nghymru
G. B. Mason
Un o aelodau mwyaf cynhyrchiol yr NBR oedd y ffotograffydd George Bernard Mason. O’r Ail Ryfel Byd hyd at y 1960au fe dynnodd oddeutu 11,000 o luniau o safleoedd ar hyd a lled Prydain. Gwnaeth lawer o’i waith yng Nghymru, lle bu’n byw ar ôl y Rhyfel. Ymddangosodd ddetholiad o’i luniau o Gymru yn Y Tu Mewn i Gartrefi Cymru / Inside Welsh Homes gan y Comisiwn Brenhinol (sydd ar gael yn awr fel eLyfr) a gellir eu gweld hefyd drwy gyrchu cronfa ddata Casgliad y Werin Cymru, yma.

Y Cofnod Adeiladau Cenedlaethol a CBHC
Cawsai Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru (a’i chwaer Gomisiynau yn yr Alban a Lloegr) ei sefydlu ymhell cyn y Rhyfel, ym 1908. Nid yw’n syndod efallai, o ystyried bod ganddynt arbenigedd a chylchoedd gwaith cyffelyb, i’r NBR fwynhau perthynas agos â CBHC o’r cychwyn cyntaf. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, er enghraifft, fe gafodd Leonard Monroe, un o ymchwilwyr CBHC, ei secondio i’r NBR i weithio yn ne Cymru.
Ym 1963 fe gafodd cyfrifoldeb dros y Cofnod Adeiladau Cenedlaethol ei drosglwyddo’n ffurfiol i’r tri Chomisiwn Brenhinol. Cafodd yr archifau’n ymwneud â Chymru eu rhoi yng ngofal CBHC a’u cyfuno â chofnodion y Comisiwn ei hun a deunydd yn gysylltiedig â chynhyrchu’r Rhestri sirol o henebion. Ailenwyd yr archif newydd hon yn Gofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (CHCC/NMRW).
Gall llawer o Restri cynnar CBHC gael eu llwytho i lawr am ddim fel eLyfrau o’n siop lyfrau.
Ynghyd â chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru, daeth CHCC yn drydydd casgliad cenedlaethol Cymru. Teitl yr oedd yn ei lawn haeddu oherwydd, gyda’r Cofnod Adeiladau Cenedlaethol yn gnewyllyn iddi, gallai’r archif newydd frolio’r casgliad mwyaf o ddeunydd ffotograffig yng Nghymru.
I weld mwy o luniau’r NBR ewch i’n horiel o luniau o du mewn eglwysi adeg y rhyfel a dynnwyd oddeutu 1941-1942.
CHCC heddiw
Pwrpas Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru oedd darparu mynegai o’n holl henebion fel bod modd cyfeirio ymholwyr yn syth at y wybodaeth orau am unrhyw adeiladwaith – a llenwi’r bylchau yn y wybodaeth honno hefyd. Mae’r rôl hon yn parhau hyd heddiw, er bod y ‘mynegai’ wedi symud o gardiau mynegai papur i’n cronfa ddata ar-lein, Coflein. Ac mae ein tîm ymholiadau yn brysurach nag erioed.
Er nad oedd cynnal archif yn rhan o gylch gwaith y Comisiwn Brenhinol am 55 mlynedd gyntaf ei bodolaeth, mae CHCC wedi dod yn rhan annatod o waith CBHC. Yn gadwrfa ar gyfer gwaith y Comisiwn a chofnodion eraill, yn gartref i filiynau o ffotograffau, ac yn ffynhonnell heb ei hail o wybodaeth am amgylchedd hanesyddol Cymru. Yn waddol cadarnhaol a bythol yn deillio o ddinistr rhyfel a’r ewyllys i gadw’r hyn a fu.
Rhodri Lewis
11/05/2020