
Y Comisiwn Brenhinol – partner ym mhrosiect newydd Dyfroedd Dilwybr y DU
Mae’r Comisiwn Brenhinol ymhlith dau ar hugain o bartneriaid yn y DU sydd wedi derbyn cymorth ariannol gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) drwy ei raglen Towards a National Collection i ddatblygu technolegau newydd, gan gynnwys dysgu drwy beiriant ac archifo wedi’i arwain gan y dinesydd, er mwyn cysylltu arteffactau diwylliannol ac archifau hanesyddol y DU mewn ffyrdd newydd a thrawsnewidiol.
Dyfroedd Dilwybr (Unpath’d Waters): Casgliadau Morol ac Arforol yn y DU yw un o bum ‘Prosiect Darganfod’ newydd yn y rhaglen ac mae wedi derbyn £2.9 miliwn i wneud cofnodion arforol pedair cenedl y DU yn hygyrch i’r cyhoedd drwy un porthol. Arweinir y prosiect gan Historic England a bydd yn:
- dyfeisio ffyrdd newydd o chwilio ar draws casgliadau
- creu efelychiadau i ddelweddu llongddrylliadau a thirweddau
- datblygu ffyrdd newydd o adnabod llongddrylliadau a’r arteffactau a gwrthrychau a ddarganfyddir arnynt.
Bydd yn creu offer i warchod ein treftadaeth arforol bwysig ac fe wahoddir y cyhoedd i helpu i lunio ffyrdd newydd o ryngweithio â chasgliadau archifol er mwyn datgelu storïau sydd heb eu hadrodd o’r blaen a chymryd rhan mewn creu storïau newydd.
Mae’r Comisiwn Brenhinol yn cynnal Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru, sy’n cynnwys safleoedd arforol fel llongddrylliadau, harbyrau a thirweddau boddedig, ac mae’n Ganolfan Archifau Digidol achrededig ar gyfer data am dreftadaeth forol Cymru. Mae’r prosiect yn cynnig cyfle i sicrhau bod pawb yn gallu cyrchu data arforol Cymru a gweddill y DU yn ddirwystr.
Dywedodd Dr Julian Whitewright, Uwch Ymchwilydd Arforol y Comisiwn Brenhinol:
“Mae’r prosiect yma’n cynnig cyfle i ddwyn ynghyd setiau data morol y Deyrnas Unedig mewn ffordd hollol gynhwysol. Yn bwysicach na dim, mae natur gynhwysol y prosiect yn ymestyn y tu hwnt i’r data ei hun i’r sefydliadau sy’n cymryd rhan a, maes o law, i’r bobl fydd yn gallu ei gyrchu’.
Ychwanegodd Christopher Catling, Ysgrifennydd y Comisiwn Brenhinol:
‘Bu’r môr drwy gydol hanes yn briffordd ac yn gyfrwng ar gyfer hybu cysylltiadau diwylliannol rhwng cenhedloedd, ac mae’r prosiect hwn yn gyfan gwbl yn yr ysbryd hwnnw – uno cofnodion treftadaeth arforol pedair cenedl y DU i chwalu’r rhwystrau sy’n llesteirio dealltwriaeth lawn o’r rhan y mae’r môr wedi’i chwarae yn hanes dyn.’
Bydd y prosiect yn dechrau ym mis Tachwedd ac yn parhau am dair blynedd.
Map yn dangos cofnodion morol yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru. Ffotograff arosgo lliw CBHC o longddrylliad anhysbys ar Salmon Scar ger Llanismel, Sir Benfro.
10/19/2021