
Y Comisiwn Brenhinol yn derbyn cynlluniau hanesyddol yn rhodd
Yn sgil symudiad llwyddiannus y Comisiwn Brenhinol i Lyfrgell Genedlaethol Cymru mae wedi derbyn rhodd hael o gynlluniau hanesyddol gan gefnogwyr Caru Fy Nghymru, Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladau. Casgliad o luniadau atgofus o Blas Gwynfryn, Llanystumdwy, plasty castellog mawreddog o oes Fictoria, yw’r rhodd. Cafodd y plasty ei ddinistrio gan dân yn y 1980au. Mae’r lluniadau’n gofnod gwerthfawr o’r adeilad hanesyddol hwn, a fu unwaith yn gartref i Syr Hugh Ellis-Nanney AS a gafodd ei drechu o 18 pleidlais gan Lloyd George yn isetholiad enwog bwrdeistref Caernarfon.

Ysblander dadfeiliedig Plas Gwynfryn, Llanystumdwy, a gwblhawyd ym 1878.
© Mark Baker: Casgliad ‘Cartrefi Anghofiedig yng Nghymru’

Toriad hydredol drwy Blas Gwynfryn, wedi’i ddiogelu bellach yn archif cyhoeddus y Comisiwn Brenhinol.
© Hawlfraint y Goron: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
Mae Mark Baker o Garu Fy Nghymru yn egluro:
‘Mae’r casgliad o luniadau o Blas Gwynfryn yn enghraifft brin o set gyflawn bron o gynlluniau pensaernïol ar gyfer un o dai hanesyddol pwysicaf Cymru. Mae’r lluniadau’n rhoi syniad manwl i ni o ddulliau adeiladu a chynllunio yng Ngwynedd yn y 1870au ac maen nhw’n gofnod hynod o ystafelloedd a gollwyd. Roedd Caru Fy Nghymru yn ddiolchgar iawn am yr holl gefnogaeth a gafodd gan y cyhoedd yn ystod yr ymgyrch codi arian i achub y casgliad – fe gawsom roddion hael gan hanner cant o unigolion tuag at ei brynu a’i achub i’r genedl. Rhoddodd Caru Fy Nghymru y lluniadau i’r Comisiwn Brenhinol i ddathlu ei symudiad hanesyddol i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.’
Dywedodd Christopher Catling, Ysgrifennydd a Phrif Weithredwr y Comisiwn Brenhinol:
‘Rydym yn croesawu’n fawr iawn yr ychwanegiad gwerthfawr yma at archif cyhoeddus y Comisiwn Brenhinol, sydd bellach yn cynnwys mwy na miliwn o gynlluniau, lluniadau a ffotograffau. Fe fu cefnogaeth Caru Fy Nghymru a grwpiau gwirfoddol a chymdeithasau eraill yn wirioneddol galonogol. Mae treftadaeth yn rhan anhepgor o ddiwylliant Cymru.’
11/23/2016