CBHC / RCAHMW > Newyddion > Y Croeshoelio fel y caiff ei ddarlunio gan docwaith yng Nglyn Aur, Caerfyrddin
Topiary depiction of The Cruxifixion

Y Croeshoelio fel y caiff ei ddarlunio gan docwaith yng Nglyn Aur, Caerfyrddin

Heddiw, ar Ddydd Gwener y Groglith, rydym yn coffáu’r Croeshoelio. Mae’r Croeshoelio wedi’i ddarlunio mewn llawer o wahanol gyfryngau, o baentiadau i dapestri. Fodd bynnag, roedd un o’r ffyrdd mwyaf hynod ac eithaf anghyfarwydd o ddarlunio’r Croeshoelio i’w gweld ar ffurf tocwaith mewn gardd fila fach o oes Fictoria yn Abergwili, Sir Gâr.

Mae’r ardd hon â thocwaith wedi diflannu erbyn hyn, yn anffodus, ond rydym yn gwybod amdani oherwydd cyfres o ddeuddeg cerdyn post (pedwar mewn lliw ac wyth mewn sepia neu ddu a gwyn) a gyhoeddwyd gan Mr Glyn Davies, Glyn Aur. Maent yn dangos o leiaf un ar ddeg o olygfeydd Beiblaidd gwahanol, a chawsant eu hailddarganfod gyntaf gan ein cyn-Gomisiynydd ni, Tom Lloyd, yn 1995 a’u cyhoeddi yn Llythyr Newyddion Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru (Welsh Historic Gardens Trust Newsletter), rhif 8, 1995, ‘The Garden of Eden at Abergwili’.  

Roedd y golygfeydd Beiblaidd eraill yn cynnwys Y Swper Olaf, Y Ffoi i’r Aifft, Gwledd y Brenin Herod a Phen Ioan Fedyddiwr ar Blât, Gardd Eden, Yr Angel Gwarcheidiol a’r Orymdaith i Arch Noa.

Caiff tocwaith mewn gerddi ar gardiau post o Gymru ei drafod yn llawn mewn erthygl hyfryd gan C. Stephen Briggs a Peter E. Davis yn Gerddi: The Journal of the Welsh Historic Gardens Trust, cyfrol 5 (2008–9). Mae’r erthygl yn dangos nad oedd tocwaith wedi’i gyfyngu i erddi plastai mawr a’i fod i’w weld hefyd mewn gerddi bythynnod a filas ar droad yr ugeinfed ganrif.

https://coflein.gov.uk/cy/safle/494/delweddau/?term=glyn%20aur

15/04/2022

Subscribe
Notify of
guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x