
Y Daith Gerdded Fawr Gymreig – Comin Gelligaer: Trysordy Archaeolegol 14 Mai, 11am–3pm
Comin Gelligaer yw un o’r tirweddau archaeolegol mwyaf hynod yng Nghymru a rhoddir sylw iddo yn Archaeoleg Ucheldir Gwent/Archaeology of the Gwent Uplands gan Frank Olding, cyfrol ddwyieithog o eiddo’r Comisiwn Brenhinol a gyhoeddir eleni. Ar Ddydd Sadwrn, 14 Mai, bydd David Leighton, uwch archaeolegydd y Comisiwn, yn arwain taith dywys addysgiadol a diddorol drwy’r rhostir llwm ond prydferth hwn. Fel rhan o Daith Gerdded Fawr Gymreig Ramblers Cymru, a gynhelir bob blwyddyn drwy gydol mis Mai, bydd cerddwyr yn gallu mynd ar daith bum milltir o hyd i weld safleoedd sy’n dyddio o’r cyfnod cynhanesyddol hyd at yr Oesoedd Canol. Taith gerdded weddol hawdd yw hon a dylai gymryd tua phedair awr i’w chwblhau, gan gynnwys seibiant ar gyfer cinio. Mae’r comin yn ficrocosm o archaeoleg cymoedd de Cymru cyn y Chwyldro Diwydiannol.
Ar hyd y ffordd, un o’r safleoedd mwyaf diddorol a welwch fydd y Garreg Arysgrifedig Gristnogol Gynnar ar Gefn Gelligaer sy’n fwy na 2.5m o hyd. Ar un adeg yr oedd arysgrif ger gwaelod wyneb gogleddol y garreg a oedd yn darllen NEFROIHI – “carreg Nía-Froích” – a oedd, o bosibl, yn coffáu rhyfelwr o Wyddel, ac sy’n dyddio’n ôl i ddiwedd y chweched neu ddechrau’r seithfed ganrif. Y cyntaf i wneud cofnod o’r garreg hon oedd Edward Lhuyd ym 1693, ond ni ellir gweld yr arysgrif bellach. Byddwn wedyn yn symud ymlaen i weld yr anheddiad canoloesol a elwir yn Ddinas Noddfa. Cafodd y safle hwn ei gloddio yn y 1930au dan oruchwyliaeth y Foneddiges Aileen Fox. Byddwn hefyd yn ymweld â nifer o garneddau cylchog o’r Oes Efydd, gan gynnwys carnedd gylchog ysblennydd Carn y Bugail sy’n mesur 19.5m (o’r dwyrain i’r gorllewin) wrth 15.8m. Mae wedi’i gosod o fewn ymylfaen o slabiau enfawr sy’n gogwyddo tuag allan ac mae piler triongli Arolwg Ordnans wedi’i godi arni. Yn y ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg cafodd “esgyrn ac yrnau” a thair cistfaen gyfochrog eu darganfod yma.
Yng nghwmni staff eraill y Comisiwn Brenhinol, gan gynnwys Richard Suggett, ein hanesydd pensaernïol, bydd David Leighton yn cynnig ei arbenigedd hanesyddol ar hyd y ffordd ac yn rhannu’r cyfoeth o wybodaeth a gasglodd yn ystod y blynyddoedd lawer a dreuliodd fel cydlynydd prosiect llwyddiannus y Comisiwn ar uwchdiroedd Cymru. Mae’r daith yn argoeli bod yn brofiad difyr iawn i gerddwyr o bob oed ac yn gyfle prin i ddarganfod mwy am yr hanes sydd o’n cwmpas ymhob man!
Y man cyfarfod ar gyfer y daith yw maes parcio Canolfan Ymwelwyr Parc Cwm Darran: NGR SO11360345.
Bydd llawer o’r safleoedd a welir ar y daith yn cael sylw yn Archaeoleg Ucheldir Gwent/Archaeology of the Gwent Uplandsgan Frank Olding, cyfrol ddwyieithog a gyhoeddir gan y Comisiwn Brenhinol. Caiff ei lansio yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Fenni ar Ddydd Iau, 4 Awst, yn y Babell Lle Hanes am 2pm.
Mae ychydig o leoedd ar y daith yn dal ar gael. I gael manylion pellach ac i gadw’ch lle cysylltwch â nicola.roberts@cbhc.gov.uk.
13/04/2016