Y Daith o Lyfryddiaeth Archaeolegol Prydain ac Iwerddon (BIAB) i Lyfrgell y Gwasanaeth Data Archaeoleg (ADS)

Corff sy’n cefnogi ymchwil, dysgu ac addysgu ym maes archaeoleg drwy drefnu bod adnoddau digidol dibynadwy o safon uchel ar gael i bawb yw’r Gwasanaeth Data Archaeoleg. Bydd yn gwneud hyn drwy ddiogelu data digidol yn y tymor hir, a thrwy hyrwyddo a lledaenu’r amrywiaeth eang hon o ddata. Bydd y Gwasanaeth hefyd yn hybu arfer da mewn perthynas â gwarchod a defnyddio data digidol ym maes archaeoleg, yn darparu cyngor technegol, ac yn helpu i roi technolegau digidol ar waith.

Un o brosiectau diweddar y Gwasanaeth Data Archaeoleg fu cyfuno’r adnoddau testunol sydd eisoes yn ei archif â Llyfryddiaeth Archaeolegol Prydain ac Iwerddon i greu ‘Llyfrgell o Gyhoeddiadau’ newydd. Bydd Jo Gilham, Archifydd Gorffennol Digidol a rheolwr prosiect HERALD y Gwasanaeth, yng nghynhadledd Gorffennol Digidol 2017 i drafod y prosiect. Bydd hi’n sôn am broblemau uno dwy set ddata o’r fath yn ogystal â’r profiadau a chanlyniadau cadarnhaol a’r gwersi y gellir eu dysgu yn y tymor hir.

Archebwch eich tocyn Gorffennol Digidol yn awr

 

 

Cynhadledd Gorffennol Digidol | Lleoliad | Cofrestru | Sylwadau | Blogs | Arddangosfeydd | Ein Noddwyr 

12/15/2016

guest
0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x