CBHC / RCAHMW > Newyddion > Y dyfodol i addoldai
Dafydd Elis-Thomas, Deputy Minister for Culture, Sport and Tourism

Y dyfodol i addoldai

I’r rheiny ohonom y mae dyfodol addoldai Cymru yn agos at eu calonnau, mae’r awgrym y gallent agor eto ar gyfer ‘gweddïo a myfyrio preifat’ yn newyddion da iawn. Fe fyddai’n well byth pe bai pob eglwys a chapel yn codi baner fawr y tu allan yn cyhoeddi ‘Rydyn ni ar agor; dewch i mewn!’. Beth am i ni fanteisio ar y cyfle hwn i ddangos gwerth yr adeiladau cymunedol hyn ar adeg pan fo’r wlad gyfan yn rhoi ystyriaeth ddwys i’r gorffennol a’r dyfodol.

Mae postiadau ar y cyfryngau cymdeithasol yn awgrymu bod llawer o bobl wedi bod yn ailddarganfod pleserau’r dreftadaeth naturiol a diwylliannol yn eu milltir sgwâr, a gwelir negeseuon sy’n clodfori harddwch tirweddau trefol ac yn dathlu canu’r adar, clychau’r gog, parciau cyhoeddus, a gerddi preifat sy’n llawn o flodau.

Mae rhai addoldai wedi gwneud ymdrechion clodwiw i fod yn rhan o’r gweithgarwch hwn, drwy gynnig gwasanaethau ar-lein, ‘webinars’ a gwybodaeth gyffredinol am eu hadeiladau a’u cymunedau er mwyn rhoi cyfle i’w cynulleidfaoedd a phobl eraill gymryd rhan a theimlo eu bod yn cael eu cefnogi (gweler, er enghraifft, gwefan Capel Gellionnen https://gellionnen.com/ ac Eglwysi Llandaf @ChurchcareL ar Twitter). Hyd yn oed wedyn, roedd peidio â chael mynd i’w haddoldai i weddïo a myfyrio’n breifat yn golled fawr i lawer.

Yr her bellach yw sicrhau nad cau fydd yr arfer o hyn ymlaen. Rhagfynegwyd y gallai Cymru golli hyd at 70 y cant o’i haddoldai yn yr 20 mlynedd nesaf. Dyma’r senario waethaf bosibl, ond mae wedi’i seilio ar rai ffeithiau pendant am y gostyngiad cyson yn y niferoedd sy’n mynychu gwasanaethau crefyddol, ac yn y niferoedd sy’n hyfforddi ar gyfer y Weinidogaeth.

Yr addoldai sy’n fwyaf tebygol o gau yw’r capeli annibynnol bach yr adeiladwyd y rhan fwyaf ohonynt yn yr 20fed ganrif. Mae gan lawer o’r rhain gynulleidfaoedd oedrannus bach sy’n ei chael hi’n anodd cynnal yr adeiladau. Ni fydd llawer ohonynt yn ailagor ar ôl y cyfnod cloi. Mae cynulleidfaoedd yn uno â’i gilydd ac mae’r ymddiriedolwyr yn aml yn eu cysuro eu hunain pan werthir eu capeli fod modd defnyddio’r arian i hybu achosion da.

Capel y Ffin, Sir Frycheiniog: NPRN 308211. Mae tu mewn eglwys y Santes Fair, a godwyd ym 1762, yn llawn o gelfi syml – seddau, pulpud ac oriel – a luniwyd gan saer lleol yn yr arddull gwerinol. Ceir Capel y Bedyddwyr ar lan arall Afon Honddu, sy’n dyddio o 1737 ac sydd bron yr un fath yn union â Chapel y Ffin.
Capel y Ffin, Sir Frycheiniog: NPRN 308211. Mae tu mewn eglwys y Santes Fair, a godwyd ym 1762, yn llawn o gelfi syml – seddau, pulpud ac oriel – a luniwyd gan saer lleol yn yr arddull gwerinol. Ceir Capel y Bedyddwyr ar lan arall Afon Honddu, sy’n dyddio o 1737 ac sydd bron yr un fath yn union â Chapel y Ffin.

Does dim rhaid i chi fod yn grefyddol i boeni am hyn. Pan fydd addoldai’n cau, collwn fwy na’r adeilad. Collwn ganolbwynt bywyd cymunedol, y lle sy’n cynnal defodau newid byd – bedyddiadau, priodasau, angladdau a gwasanaethau coffa – a digwyddiadau coffáu cenedlaethol – y Cadoediad, Diwrnod VE, Diwrnod y Cofio. Collwn hefyd y gwyliau syncretig hynny y mae’n bosibl bod ganddynt wreiddiau paganaidd yn ogystal â rhai Cristnogol – y Nadolig a’r Pasg, Gŵyl yr Holl Eneidiau a Gŵyl Ddiolchgarwch. Collwn glychau, gwyliau blodau, corau a datganiadau cerddorol, mannau cyfarfod, a lleoedd cymdeithasol sy’n rhoi sicrwydd o gwmni cyfeillgar unwaith yr wythnos.

Pan werthir addoldai, collir yr archifau, dodrefn ac arteffactau’n aml hefyd. Cânt eu rhoi ar goelcerth neu mewn sgip pan ddaw’r datblygwyr i ddechrau troi’r adeilad yn lle preswyl. Cofnodion papur, ffotograffau a llyfrau yw’r pethau cyntaf i fynd, ynghyd â phob math o decstilau. Yna’r seddau, yr orielau a’r grisiau, ynghyd â’r organ a llofft yr organ, y sêt fawr, y pulpud, y desgiau darllen, placiau, byrddau a chofebau, drysau a phaneli – y mae llawer ohonynt yn enghreifftiau da o grefftwriaeth leol.

Llanegryn, Sir Feirionnydd. NPRN 43890. Rhoddwyd grant yn ddiweddar i ddyddio’r groglofft ganoloesol bwysig hon, sy’n tour-de-force o grefft y saer coed Cymreig.
Llanegryn, Sir Feirionnydd. NPRN 43890. Rhoddwyd grant yn ddiweddar i ddyddio’r groglofft ganoloesol bwysig hon, sy’n tour-de-force o grefft y saer coed Cymreig.

Ni fydd modd i’r cyhoedd wedyn werthfawrogi nodweddion celfyddydol, hanesyddol a phensaernïol yr adeilad, nac astudio’r hanes cymdeithasol sydd ynghlwm wrth y cofebau, na mynd i’r fynwent i archwilio’r cerrig beddau a mwynhau’r bywyd gwyllt. Os na allwch fynd i eglwysi, ni fyddwch yn gallu astudio’r casgliadau gorau o waith coed, cerflunwaith a gwydr lliw sydd ar gael y tu allan i amgueddfa. Yr adeiladau hyn, yn ôl unrhyw ddiffiniad o dreftadaeth, yw’r rhai pwysicaf yn ein cymunedau. Maen nhw’n ymgorffori gwerthoedd pensaernïol, hanesyddol, tystiolaethol, cysylltiadol a chymunedol.

A pheidiwch â meddwl bod yna gofnod cynhwysfawr i’n hatgoffa o’r hyn a gollwyd. Mae’r Gymdeithas Henebion yn amcangyfrif bod gan lai na 50 y cant o addoldai rhestredig gofnod cynhwysfawr. O ran addoldai anghydffurfiol, os na wnawn gofnod manwl o’r rhain, fe fydd gan haneswyr y dyfodol archif sy’n llawn o enghreifftiau o’r adeiladau eglwysig gorau (sef eglwysi Anglicanaidd canoloesol). Bach iawn fydd y wybodaeth am y mwyafrif llethol o addoldai yng Nghymru, sef capeli syml y werin a fu’n rhan annatod o fywydau cymaint o bobl am fwy na 200 o flynyddoedd.

Llaneleu, Sir Frycheiniog. NPRN 301745. Dyma du mewn eglwys Sant Ellyw sy’n dangos y tympanwm paentiedig canoloesol unigryw rhwng corff yr eglwys a’r gangell. Mae eglwys Sant Ellyw yn un o 27 eglwys yng Nghymru sydd yng ngofal Cyfeillion Eglwysi Digyfaill. Mae CBHC yn astudio murluniau yn eglwysi Cymru ar hyn o bryd.
Llaneleu, Sir Frycheiniog. NPRN 301745. Dyma du mewn eglwys Sant Ellyw sy’n dangos y tympanwm paentiedig canoloesol unigryw rhwng corff yr eglwys a’r gangell. Mae eglwys Sant Ellyw yn un o 27 eglwys yng Nghymru sydd yng ngofal Cyfeillion Eglwysi Digyfaill. Mae CBHC yn astudio murluniau yn eglwysi Cymru ar hyn o bryd.

Beth y gallwn ei wneud felly? Yn gyntaf oll, rhaid i ni gynyddu’r nifer o bobl yn ein cymunedau sy’n teimlo’n gryf dros eu heglwysi neu gapeli lleol ac sy’n awyddus i’w cadw’n adnodd i’r gymuned. Mae hyn yn golygu agor y drysau a gwahodd pobl i ddysgu am yr adeilad. Mae Croeso Cymru wedi cyhoeddi pecyn offer i helpu pobl gyda hyn ac mae Tîm Twristiaeth yr Ymddiriedolaeth Eglwysi Genedlaethol yn cynnig pedair sesiwn hyfforddi fach am ddim sy’n seiliedig ar y pecyn, a gynhelir ym mis Mehefin drwy Zoom. Bydd y sesiynau hyn yn egluro sut y gallwch roi croeso i ymwelwyr, dehongli’r adeilad, rhoi cyhoeddusrwydd i’ch gwaith, a chodi incwm o ymweliadau (https://www.explorechurches.org/cy/node/4829).

Cyhoeddodd Cadw Gynllun Gweithredu ar gyfer Addoldai yng Nghymru ym 2015. Sefydlwyd corff o’r enw Y Fforwm Addoldai Hanesyddol er mwyn dwyn ynghyd reolwyr eiddo y gwahanol grefyddau ac enwadau i rannu arfer gorau. Mae’n parhau i wneud gwaith da iawn, yn enwedig o ran dangos sut y gellir defnyddio addoldai ar gyfer mentrau cymunedol.

Maes-yr-onnen, Sir Faesyfed. NPRN 8238. Tu mewn syml ond ysblennydd un o gapeli cynharaf Cymru, a gofrestrwyd wedi’r Ddeddf Goddefiad (1689). Ceir disgrifiad yng nghyfrol CBHC, Houses and History in the March of Wales: Radnorshire 1400-1800 (2005), tt. 212-3, sydd ar gael fel eLyfr.
Maes-yr-onnen, Sir Faesyfed. NPRN 8238. Tu mewn syml ond ysblennydd un o gapeli cynharaf Cymru, a gofrestrwyd wedi’r Ddeddf Goddefiad (1689). Ceir disgrifiad yng nghyfrol CBHC, Houses and History in the March of Wales: Radnorshire 1400-1800 (2005), tt. 212-3, sydd ar gael fel eLyfr.

Mae ymchwil a wnaed gan Sefydliad Plunkett yn dangos mai anaml y bydd cynulleidfaoedd yr eglwysi neu’r capeli eu hun yn cynnig syniadau ar gyfer gwneud defnydd ychwanegol o’u haddoldai – daw’r syniadau bron yn ddieithriad o’r gymuned ehangach. Mae angen i’r agwedd fewnblyg hon newid a bydd Sefydliad Plunkett yn lansio ymgyrch cyhoeddusrwydd yn ddiweddarach eleni i annog pobl sy’n gyfrifol am ofalu am addoldai i geisio ysbrydoliaeth gan bobl sydd wedi llwyddo i gynnwys siopau a swyddfeydd post, ysgolion meithrin, dosbarthiadau ioga, caffis, mannau cyfarfod, clybiau ar ôl ysgol, egin fusnesau a busnesau bach yn eu haddoldai heb amharu ar eu swyddogaeth grefyddol.

Mae gan lawer o addoldai y potensial i ennill incwm o dwristiaeth, ac mae yna ddigon o fentrau yng Nghymru sy’n annog hyn, o lwybrau pererinion i ysguboriau gwersylla, o deithiau tywys i wyliau cerddorol ac arddangosfeydd celf a chrefft, a hyd yn oed gwyliau cwrw, gwin a jin. Mae twristiaeth ffydd yn werth £14 biliwn drwy’r byd ac mae’r potensial ar gyfer ei chynyddu yng Nghymru yn enfawr. Mewn symposiwm mawr, a gynlluniwyd ar gyfer mis Ebrill ond a ohiriwyd hyd fis Medi, fe ystyrir sut y gall pawb sy’n gysylltiedig â thwristiaeth ffydd yng Nghymru weithio’n well â’i gilydd i gydlynu eu gweithgareddau a rhoi cyhoeddusrwydd iddynt. Yn y cyfamser, mae trefnwyr y symposiwm wedi sefydlu blog i helpu i hyrwyddo prosiectau treftadaeth a thwristiaeth ffydd yng Nghymru (https://faithtourismwales.wordpress.com/), ac mae gwefan Explore Churches (https://www.explorechurches.org/cy), a reolir gan yr Ymddiriedolaeth Eglwysi Genedlaethol, yn drysorfa o wybodaeth am addoldai y mae’n werth eu cynnwys yn eich cynlluniau teithio – ar droed, beic neu gefn ceffyl os oes modd: cododd y digwyddiad ‘Ride + Stride’ blynyddol ym mis Medi y llynedd £1.5m i eglwysi, capeli a thai cwrdd ar hyd a lled Prydain (https://www.nationalchurchestrust.org/how-we-help/ridestride).

Pennant Melangell, Sir Drefaldwyn. NPRN 160381. Eglwys wedi’i hadfer yw hon. Mae’n gartref i gysegr o’r 12fed ganrif ac mae’n gyrchfan i bererinion yr 21ain ganrif.
Pennant Melangell, Sir Drefaldwyn. NPRN 160381. Eglwys wedi’i hadfer yw hon. Mae’n gartref i gysegr o’r 12fed ganrif ac mae’n gyrchfan i bererinion yr 21ain ganrif.

Yn olaf, beth am y Comisiwn Brenhinol? Mae gennym nifer fawr o gynlluniau a ffotograffau o gapeli ac eglwysi yn ein harchif ac ar Coflein (https://www.coflein.gov.uk/cy/). Gan weithio mewn partneriaeth ag Addoldai Cymru (The Welsh Religious Buildings Trust) rydym ni wedi creu ‘rhith amgueddfa’ sy’n adrodd hanes capeli Cymru o safbwynt crefydd, pensaernïaeth, diwylliant a chymdeithas. Enw’r prosiect yw Anghydffurfio Digidol: Hanes Capeli Cymru (https://cbhc.gov.uk/darganfod/capeli/) ac mae’n cael ei ariannu gan Croeso Cymru fel rhan o’r Rhaglen Fframwaith Twristiaeth Ddigidol. Mae’r prosiect yn manteisio ar ymdrechion parhaus y Comisiwn i dynnu sylw at bwysigrwydd capeli fel math nodedig ac eiconig o adeilad sy’n gwneud cyfraniad sylweddol i’n tirweddau trefol a gwledig. Mae’r holl wybodaeth yng Nghronfa Ddata Capeli’r Comisiwn – cyfanswm o 6,430 o safleoedd – ar gael ar-lein ar wefan y prosiect, ac mae’r Comisiwn wedi darparu rhith fynediad i’r capeli sy’n eiddo i Addoldai Cymru drwy greu teithiau ffotograffig Gigapicsel a hediadau-drwodd wedi’u laser-sganio, fel bod modd i bobl o bedwar ban byd archwilio’r adeiladau o bell.

Bydd y wefan yn parhau i dyfu a datblygu wrth i ni a sefydliadau eraill wneud mwy o waith maes ar yr adeiladau hyn, sy’n rhan mor anhraethol bwysig o gymeriad a threftadaeth Cymru. Ein nod yw cofnodi’r adeiladau hyn fel y maent cyn iddynt gael eu diberfeddu a’u newid at ddefnydd arall – ond nid yw cofnod mewn archif yn gallu cymryd lle’r adeilad ei hun, a dyfodol gwell o lawer fyddai cadw addoldai’n lleoedd at ddefnydd crefyddol a chymunedol.

Christopher Catling, Ysgrifennydd y Comisiwn Brenhinol

09/06/2020

Subscribe
Notify of
guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x