
Y Ffordd Hir Droellog i’r Llyfrgell Gyhoeddus Fodern yng Nghymru
Mae gan Gymru hanes llenyddol hir a diddorol. Fodd bynnag, cyn dyfodiad y llyfrgell gyhoeddus fodern, roedd llawysgrifau a llyfrau Cymru’n cael eu cadw mewn casgliadau preifat, eglwysig, addysgol neu sefydliadol mewn amrywiaeth eang o adeiladau. Drwy gydol y cyfnod modern cynnar, cafodd casgliadau hirsefydlog o destunau eu gwasgaru neu hyd yn oed eu dinistrio gan newidiadau gwleidyddol, cymdeithasol ac eglwysig. O ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg ymlaen yr oedd bywyd yn fwy sefydlog, gan greu amgylchiadau mwy ffafriol ar gyfer creu casgliadau llenyddol.
Yn sgil yr Adferiad, oherwydd pryderon am eneidiau’r Cymry, fe fu sawl ymdrech ddygn i gynyddu llythrennedd a dosbarthu testunau crefyddol. Roedd yr ymdrechion addysgol hyn yn cyd-fynd â chynnydd mawr mewn deunydd printiedig yn y Gymraeg, yn enwedig wrth i lyfrau Cymraeg ddechrau cael eu cyhoeddi yn nhrefi Cymru. O ddechrau’r ddeunawfed ganrif, sefydlodd y Gymdeithas er Hyrwyddo Gwybodaeth Gristnogol (S.P.C.K.) bedair llyfrgell esgobaethol ynghyd â llyfrgelloedd plwyf at ddefnydd clerigwyr lleol. Fe sefydlodd hefyd gyfundrefn o lyfrgelloedd benthyca a llyfrgelloedd plant, fel rheol mewn adeiladau a oedd yn ganolog i’r gymuned, fel eglwysi plwyf, a darparwyd llyfrau ar gyfer pob carchar yng Nghymru. Yn ogystal, fe gadwodd eglwysi cadeiriol Cymru, gan gynnwys Tyddewi, eu llyfrgelloedd ar ôl y Diwygiad. Nid esgeuluswyd anghenion llenyddol ac addysgol Anghydffurfwyr chwaith. Sefydlwyd casgliadau o lyfrau mewn academïau ymneilltuol ac mewn capeli a thai cwrdd.
Tryloywder lliw o eiddo CBHC yn dangos Eglwys Gadeiriol Tyddewi Ffotograff o’r cypyrddau llyfrgell yn Hen Gapel, Rhydowen
Yn y cyfamser, mewn ymateb i awch y cyhoedd am lyfrau, fe sefydlwyd cymdeithasau llenyddol, llyfrgelloedd cylchynol masnachol, a llyfrgelloedd tanysgrifio. Fe ffynnodd y rhain a byddai rhai ohonynt yn ffurfio’r casgliadau creiddiol ar gyfer llyfrgelloedd cyhoeddus yn y man. Roedd y bonedd hefyd yn awyddus i greu llyfrgelloedd. Yr enghraifft orau efallai oedd llyfrgell Thomas Johnes yn Hafod. Roedd gan ‘Merched Llangollen’, Eleanor Butler a Sarah Ponsonby, filoedd o lyfrau yn eu llyfrgell nhw ym Mhlas Newydd, a weddai i chwaeth ddiwylliedig y boneddigesau a’u hymwelwyr enwog.
Ffotograff o Blas Hafod Uchtryd yn dangos gweddillion y llyfrgell wythonglog Ffotograff o Blas Newydd, Llangollen, cartref Eleanor Butler a Sarah Ponsonby
O ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg, ac yn enwedig yn y ddeunawfed ganrif, arweiniodd y diddordeb cynyddol mewn hynafiaethau at gasglu llawysgrifau Cymreig unigryw yn ogystal â gweithiau printiedig. Mae’n bosibl mai’r casgliad unigol pwysicaf oedd hwnnw a heliwyd at ei gilydd gan Robert Vaughan yn Hengwrt. Ym 1849, aeth y rhain i feddiant yr hynafiaethydd W. W. E. Wynne a symudwyd y casgliad i Beniarth, lle yr arhosodd nes cael ei drosglwyddo i Lyfrgell Genedlaethol Cymru ym 1909.

Ym 1850 fe basiwyd deddf a oedd yn galluogi awdurdodau lleol i sefydlu llyfrgelloedd cyhoeddus, y telid amdanynt drwy drethi lleol, yn amodol ar gael cymeradwyaeth leol. Caerdydd oedd y dref gyntaf i fanteisio ar Ddeddf Llyfrgelloedd Cyhoeddus 1850, a hynny ym 1861, ond mewn ardaloedd eraill yng Nghymru roedd yr awdurdodau’n araf i weithredu o dan y Ddeddf. Dim ond deuddeg llyfrgell a gawsai eu mabwysiadu ganddynt erbyn 1894, ac roedd hanner y rhain yn ymgorffori casgliadau llyfrgell a oedd eisoes yn bodoli’n lleol.
Mae’r rhesymau am hyn yn adlewyrchu’r ddarpariaeth amrywiol a oedd ar gael i gymunedau yng Nghymru ar y pryd. Ym Merthyr Tudful, er enghraifft, roedd nifer o lyfrgelloedd ‘cyhoeddus’ eisoes wedi’u sefydlu cyn Deddf 1850. Cawsai llyfrgell i weithwyr ei sefydlu yn Nowlais fel rhan o gynlluniau addysgol y Foneddiges Charlotte a John Josiah Guest yng nghanol y 1840au, a sefydlwyd llyfrgell danysgrifio ac amgueddfa ‘gyhoeddus’ ym Merthyr ei hun ym 1848.

Cafodd y ddwy lyfrgell hyn eu sefydlu gyda’r nod o hybu hunan-ddysgu ymhlith y dosbarthiadau gweithiol, a’r enghraifft fwyaf trawiadol o hyn efallai oedd Llyfrgell Gladstone. Nid pryder y dosbarth canol dros addysg llafurwyr oedd yr unig ysgogiad yn yr ymgyrch i sefydlu llyfrgelloedd. O’r 1890au ymlaen, aeth y dosbarthiadau gweithiol ati i sefydlu eu casgliadau eu hunain mewn sefydliadau gweithwyr a gâi eu codi ganddynt ar eu cost eu hunain. Erbyn 1910 roedd gan y mwyafrif o gymunedau glofaol ym maes glo de Cymru sefydliad a llyfrgell.

The Scottish-American philanthropist, Andrew Carnegie, also contributed to the establishment of public libraries in Wales. Carnegie assisted in the building of thirty-five known public libraries in the first decades of the twentieth century throughout the nation, often to innovative designs.
Ffotograff o Lyfrgell Carnegie ym Mhont-y-pŵl Awyrlun o Lyfrgell Genedlaethol Cymru a dynnwyd ym mis Gorffennaf 1947. O Gasgliad Aerofilms
Dr Adam N. Coward, Cynorthwyydd Gwella Data

10/04/2021