
Y Ffordd Rithwir o Ail-greu Treftadaeth…
Fel cwmni sy’n arbenigo mewn arolygu a delweddu digidol, mae Luminous wedi meithrin enw arbennig o dda am ei ddatrysiadau parod-i’w-defnyddio arloesol ym meysydd arolygu, pensaernïaeth a Realiti Rhithwir.
Bydd Ben Bennett, Rheolwr Gyfarwyddwr Luminous, yn dod i gynhadledd Gorffennol Digidol i drafod y broses, o’r arolwg digidol cychwynnol hyd at brofiad y defnyddiwr. Gan ddefnyddio dwy enghraifft benodol, bydd Ben yn egluro sut y gall data cwmwl pwyntiau gael eu defnyddio i gynhyrchu ail-greadau hanesyddol manwl a gweledol gyffrous a all fod yn sylfaen wedyn ar gyfer profiadau ymgollol mewn oes pan fo pensetiau Realiti Rhithwir yn dod yn fwyfwy cyffredin a fforddiadwy.
Archebwch eich tocyn Gorffennol Digidol yn awr
Cynhadledd Gorffennol Digidol | Lleoliad | Cofrestru | Sylwadau | Blogs | Arddangosfeydd | Ein Noddwyr
17/01/2017