CBHC / RCAHMW > Newyddion > Y fila Rufeinig a wnaeth hanes: Fila Abermagwr, Ceredigion
Dangosodd arolwg geoffisegol yn 2009 gan Dave Hopewell fod adeilad adeiniog o gerrig yma.

Y fila Rufeinig a wnaeth hanes: Fila Abermagwr, Ceredigion

Darganfyddiad!

Y mis hwn, ddeng mlynedd yn ôl, wrth wneud cloddiadau cychwynnol dan gyfarwyddyd Dr Jeffrey Davies a Dr Toby Driver, cadarnhawyd mai Abermagwr oedd safle’r unig fila Rufeinig i gael ei chofnodi yng Ngheredigion hyd yn hyn, ac mai hon oedd y fila fwyaf anghysbell yng Nghymru.

Nid yw filâu Rhufeinig yn gyffredin yng Nghymru. Mae llai na 40 o filâu hysbys neu bosibl wedi’u cofnodi ac mae’r rhan fwyaf o’r rhain yn y de a’r dwyrain. Darganfuwyd Fila Abermagwr fel ôl cnwd trawiadol wrth dynnu lluniau o’r awyr yn ystod sychder mawr 2006, llai na milltir o’r gaer Rufeinig yn Nhrawsgoed. Roedd rhannau o’r ôl cnwd i’w gweld ers y 1970au ond nid oeddynt erioed wedi ennyn diddordeb.

Dangosodd arolwg geoffisegol a wnaed fel rhan o raglen deledu yn 2009 fod adeilad 20m o hyd gyda dwy adain yma, sef cynllun clasurol fila Rufeinig. Er ei fod yn edrych fel adeilad Rhufeinig, roedd hyn mor annhebygol yn y rhan hon o Gymru fel y bu’n rhaid trefnu cloddiad ar y safle i fod yn siŵr.

Cloddiad cymunedol i ddarganfod ein gorffennol Rhufeinig

Yn 2010 cafwyd arian gan Gymdeithas Hynafiaethau Cymru ac eraill i alluogi Dr Toby Driver a Dr Jeffrey Davies i wneud cloddiad cychwynnol y flwyddyn honno. Benthycwyd cyfarpar gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed. Cadarnhaodd y gwaith cloddio mai hon oedd yr unig fila Rufeinig i gael ei chofnodi yng Ngheredigion hyd yma, a’i bod hefyd y fila fwyaf anghysbell yng Nghymru. Bu cloddio pellach ar safle’r fila yn 2011 ac yn 2015, fel rhan o fenter gymunedol fywiog gyda gwirfoddolwyr lleol, na fyddem wedi gallu gwneud y gwaith hebddynt. Croesawyd mwy na 300 o ymwelwyr i ddiwrnod agored yn 2011 a threfnwyd ymweliadau â nifer o ysgolion cynradd lleol i ddangos y darganfyddiadau Rhufeinig i’r disgyblion cyn eu gwahodd i’r safle i weld yr archaeolegwyr wrth eu gwaith. Roedd gennym ‘ffos i’r plant’ hyd yn oed lle gallai’r ymwelwyr ifanc roi cynnig ar gloddio.

Ffordd Rufeinig o fyw a ddaeth i ben mewn fflamau

Er bod y fila yn dŷ cymharol ddinod o ddiwedd y drydedd ganrif i ddechrau’r bedwaredd ganrif OC, darganfuwyd ynddi amrywiaeth o dystiolaeth nas gwelwyd yn unman arall. Newidiodd y darganfyddiad hwn ein dealltwriaeth o fywyd yng nghanolbarth a gorllewin Cymru o dan y Rhufeinwyr. Y farn cyn y darganfyddiad oedd bod yr ardal hon yn ‘barth milwrol’ lle nad oedd fawr ddim cysylltiad rhwng y goresgynwyr a’r poblogaethau lleol a lle nad oedd y ffordd Rufeinig o fyw wedi’i mabwysiadu gan y brodorion.

Sefydlwyd y fila oddeutu OC 230, ganrif o leiaf ar ôl i’r milwyr adael y gaer Rufeinig gerllaw. Mae’n debyg iddi gael ei hadeiladu o flociau carreg nadd o faddondy’r gaer a oedd wedi’i ddymchwel. Safai o fewn iard fawr â dwy ffos o’i chwmpas a ddefnyddid ar gyfer corlannu defaid a gwartheg mae’n debyg. Roedd gan y tŷ lawr clai, aelwyd agored ganolog a phopty bara yn erbyn y mur.

Meddiannwyd y fila hyd OC 330 yn fras pan gafodd ei dinistrio gan dân ffyrnig. Cafodd llestr coginio ei ollwng ar lawr y gegin ac mae’r ffaith ei fod yn dal yno yn dangos bod y trigolion wedi gorfod gadael ar frys. Llosgodd y to llechi a thrawstiau derw trwm gan ddisgyn ar y llawr. Mae tystiolaeth i adfeilion y fila gael eu hailfeddiannu’n rhannol rywbryd yn ystod y cyfnod Rhufeinig diweddar neu ôl-Rufeinig, ond yn y canrifoedd dilynol fe gafodd y cerrig eu dwyn a diflannodd yr adeilad i’r dirwedd.

Powlen wydr-nadd Rufeinig unigryw o adfeilion y fila

Y darganfyddiad pwysicaf oedd darnau o lestr gwydr-nadd o’r cyfnod Rhufeinig diweddar – powlen fach mae’n debyg – a wnaed yn y Rheindir yn yr Almaen. Roedd y llestr wedi’i ollwng mewn ystafell fach yng nghefn y fila, adeg y tân o bosibl. Nid yw powlenni o’r fath yn gyffredin ym Mhrydain, a chafodd ei disgrifio gan yr Athro Jennifer Price o Brifysgol Durham fel un o’r enghreifftiau gwychaf o waith gwydr o’r cyfnod Rhufeinig diweddar i gael ei ddarganfod yng Nghymru.

Ysgrifennodd: ‘Its quality is vastly superior to the rest of the glass vessels found at the villa, and indeed to virtually all the late Roman tablewares known in Wales…’

Ni ddaethpwyd o hyd i gynllun addurnol yn union yr un fath yn unman arall ym Mhrydain Rufeinig, er bod rhai o’r patrymau addurnol i’w gweld ar bowlenni eraill. Roedd yn eitem eithriadol o foethus ar gyfer fila gymharol ddinod fel hon, a ddefnyddid mae’n debyg ar gyfer cymysgu gwin a dŵr mewn ciniawau a dathliadau. Ar ôl i’r cadwraethwyr gwblhau eu gwaith, fe gaiff ei harddangos yn Amgueddfa Ceredigion, Aberystwyth.

To llechi cynharaf Ceredigion

Bu to llechi’r fila yn destun un o’r astudiaethau modern trylwyraf o waith y töwr Rhufeinig. Arweiniwyd yr astudiaeth gan Bill Jones, arbenigwr ar y grefft hanesyddol.

Gan fod y llechi siâl lleol a ddefnyddiwyd i doi’r fila yn gymharol feddal, mae amrywiaeth o linellau marcio – neu farciau töwr – wedi’u cadw yma nad ydynt wedi goroesi mewn filâu eraill. Mae’r marciau’n dangos parhad o ran sgiliau, arferion ac offer y töwr o’r cyfnod Rhufeinig hyd at y gorffennol diwydiannol diweddar, a bod arbenigwr ar y safle wrth i’r to gael ei godi.

Byddai’r to gorffenedig o lechi pigfain pumochrog wedi bod yn hynod o addurnol. Mae Bill Jones wedi amcangyfrif bod angen tua 6,600 o lechi ar gyfer to prif floc y fila, a thua 2,475 o lechi ar gyfer toeon llai yr adenydd. Byddai’r to cyfan wedi pwyso rhwng 18 a 23 tunnell fetrig, gan ddibynnu ar feintiau’r llechi a ddefnyddiwyd. Roedd angen trawstiau derw sylweddol i gynnal y pwysau anferthol!

Mae sgwrs fer am Fila Rufeinig Abermagwr a recordiwyd gan Dr Toby Driver ar gael yma:

Gwybodaeth bellach

Cyhoeddwyd yr adroddiad terfynol yn y cylchgrawn Archaeologia Cambrensis, Cyfrol 167 (2018): Davies, J.L. a Driver, T. ‘The Romano-British villa at Abermagwr, Ceredigion: excavations 2010-15’. Gellir darllen yr adroddiad yma: http://orapweb.rcahms.gov.uk/coflein/6/647060.PDF

Rhoddwyd yr holl ddarganfyddiadau o’r fila i’w cadw yn Amgueddfa Ceredigion, Aberystwyth, ac mae’r rhai gorau’n cael eu harddangos. http://www.ceredigionmuseum.wales/

Mae’r archif lawn yn cael ei chadw yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru, Aberystwyth. Os ewch i’r cofnod ar-lein, byddwch chi’n gallu gweld 100 o ddelweddau a lawrlwytho sawl dogfen PDF, gan gynnwys paneli arddangos: www.coflein.gov.uk/en/site/405315/details/abermagwr-roman-villaabermagwr-romano-british-villa

Gan Dr Toby Driver

24/07/2020

Subscribe
Notify of
guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x