
Y Goedwig Hynafol yn Llanrhystud
Pan es i am dro gyda’r teulu ar 29 Awst 2020 wedi Storm Francis, fe ddaethom ar draws bonion coed yn codi o’r cerigos ar ran uchaf traeth Llanrhystud. Doeddwn i erioed wedi gweld yr olygfa anarferol hon o’r blaen, felly fe estynnais am fy nghamera.

Bonion coed ar draeth Llanrhystud
Roedd y bonion coed yn codi o’r is-bridd a gellid gweld eu systemau gwreiddiau cnotiog yn glir. Roedd canghennau i’w gweld yn y pridd hefyd. Roedd yn olygfa anarferol, ond rydw i’n deall bod y bonion yn dod i’r golwg o bryd i’w gilydd yn ystod stormydd. Cafodd y cyfan ei orchuddio’n fuan wedyn wrth i’r llanwau symud cerigos a graean i fyny’r traeth.
Ymchwil Coflein

Wrth ymchwilio ymhellach i’r hyn a welais, cefais fy arwain at archif ar-lein ddi-dâl y Comisiwn Brenhinol lle mae cyfoeth o wybodaeth am ein hamgylchedd hanesyddol. A fyddai cofnod am yr amgylchedd coll hwn yn y gronfa ddata? Ni chefais fy siomi: yn ogystal â chofnod yr oedd ffotograffau gwych, wedi’u tynnu gan Deanna Groom, cyn Swyddog Arforol y Comisiwn. Mae’r disgrifiad o’r safle’n manylu ar ei darganfyddiadau ar 21 Awst 2012.
Dyma bwt:
Yn gorwedd o dan y cerigos a graean presennol ar draeth Llanrhystud, a gynhelir drwy ddulliau artiffisial, y mae dinoethiad o arwyneb tir ôl-rewlifol. Nid yw’n ymddangos bod y dinoethiad yn ddyfnach na 0.40m, ond mae’n bosibl ei fod yn fwy na 400m o ran hyd ac yn ymestyn o’r gogledd-ogledd-orllewin i’r de-dde-ddwyrain gan ddilyn ymyl y lan. Adeg yr ymweliad (21 Awst 2012), rhyw 3-4m oedd y lled mwyaf o goedwig a oedd yn y golwg. Mae gorchudd o fawn, tua 0.15m o ddyfnder ar gyfartaledd, ar ben y dinoethiad. Gellir gweld systemau gwreiddiau, brigau/canghennau, macroffosiliau planhigion, a rhai bonion coed hyd yn oed. […]
Mae erydiad yn effeithio ar y dinoethiad hwn ar benllanw. Mae’r mawn yn sychu ar ddistyll, yn crebachu ac yn darnio. Dywedir hefyd fod y dyddodion clai o dan y mawn yn sychu ac yn mynd yn wyn, gan edrych fel caolin, ac yn troi’n bowdrog. Mae darnau sylweddol o goed wedi dod i’r golwg ac wedi cael eu colli ar hyd y blynyddoedd. Mewn gwirionedd, mae angen gwneud dadansoddiadau paill a gwaddod pellach i gadarnhau natur a dyddiad yr amgylchedd mawn/coetir.
Darllenwch y cofnod llawn yma:
https://coflein.gov.uk/cy/site/417481/details/submerged-forest-llanrhystyd
Y Prosiect CHERISH
Prosiect partneriaeth cyffrous chwe-blynedd o hyd a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd yw CHERISH. Y partneriaid yw’r Comisiwn Brenhinol, Prifysgol Aberystwyth: Yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, y Rhaglen Ddarganfod: Canolfan Archaeoleg ac Arloesedd Iwerddon, ac Arolwg Daearegol Iwerddon. Nod CHERISH yw codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o effeithiau newid hinsawdd, stormydd a thywydd garw ar dreftadaeth ddiwylliannol gyfoethog moroedd rhanbarthol ac arfordiroedd Iwerddon a Chymru yn y gorffennol, y presennol a’r dyfodol agos.
Byddaf yn sicr yn cadw fy llygaid ar agor yn y dyfodol wrth gerdded ar hyd arfordir Cymru ac yn rhoi fy ffotograffau i’r Comisiwn Brenhinol i’w cynnwys yn ei gronfa ddata ar-lein, Coflein, at ddefnydd y cenedlaethau a ddaw.
Mae coedwig foddedig Y Borth (a ddyddiwyd i oddeutu 4000 CC drwy ddadansoddiad gwyddonol) yn adnabyddus ond ychydig sy’n wybyddus am goed hynafol Llanrhystud ac ni phennwyd dyddiad ar eu cyfer eto.
Gadewch eich sylwadau isod i roi gwybod i ni beth rydych chi’n ei feddwl.
I gael gwybodaeth am y goedwig foddedig yn Y Borth ac agweddau eraill ar y dirwedd arforol newidiol, gweler ein cyhoeddiad diweddaraf, Cymru a’r Môr. 10,000 o flynyddoedd o Hanes y Môr.
Charles Green, Swyddog Ymgysylltu â’r Cyhoedd
17/09/2020