
Y Gofod Ymchwil ac Addysg – Cysylltu Casgliadau ac Archifau Cyhoeddus i Ysbrydoli Ffyrdd Newydd o Ddysgu
Partneriaeth rhwng y BBC, JISC a Learning on Screen sydd â’r nod o wella’r adnoddau digidol sydd ar gael ar bob lefel o addysg yw’r prosiect Gofod Ymchwil ac Addysg (RES). Mae casgliadau digidol sefydliadau fel Yr Amgueddfa Brydeinig, Y Llyfrgell Brydeinig, Yr Archifau Cenedlaethol, Europeana, Ymddiriedolaeth Wellcome a’r BBC yn cael eu dwyn ynghyd, eu mynegeio a’u trefnu er mwyn eu gwneud yn haws eu cyrchu a’u defnyddio gan bobl ar draws y sectorau addysg ac ymchwil.
Rydym yn falch iawn y bydd Jake Berger, Rheolwr Cynnyrch RES, yn cymryd rhan yn ein sesiwn Data Agored yng nghynhadledd Gorffennol Digidol 2017, i egluro ethos a datblygiad RES yn ogystal â manteision defnyddio’r platfform hwn i gyhoeddi cyfryngau ar-lein. Bydd Jake hefyd yn esbonio’r cyfleoedd sydd ar gael i sefydliadau eraill wneud eu deunyddiau hwythau yn hygyrch, ac i ddatblygwyr cynhyrchion ddefnyddio’r cyfryngau hyn ym mhob agwedd ar addysg treftadaeth.
Archebwch eich tocyn Gorffennol Digidol yn awr
Cynhadledd Gorffennol Digidol | Lleoliad | Cofrestru | Sylwadau | Blogs | Arddangosfeydd | Ein Noddwyr
09/02/2017