
Y Gofrestr o Barciau a Gerddi Hanesyddol yng Nghymru
Daeth y Gofrestr Statudol o Barciau a Gerddi yng Nghymru sydd o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig i rym ar 1 Chwefror 2022. Lluniwyd y gofrestr hon yn sgil pasio Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) yn 2016. Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i gydnabod y dylai parciau a gerddi hanesyddol gael eu diogelu yn yr un ffordd ag adeiladau rhestredig a henebion cofrestredig. Cyhoeddi’r rhestr oedd penllanw sawl blwyddyn o waith gan y Comisiwn Brenhinol a Cadw i ddiweddaru a gwella’r cofnodion ar gyfer y 400 o safleoedd ar hyd a lled y wlad sydd arni. Buont yn mapio’r ffiniau, yn ysgrifennu datganiadau o bwysigrwydd i gyfiawnhau eu cynnwys ar y gofrestr, ac yn cysylltu â’r perchnogion.
Mae’r gofrestr newydd yn cymryd lle’r un anstatudol a gyhoeddwyd gyntaf ym 1994 mewn ymateb i’r ymwybyddiaeth gynyddol o bwysigrwydd hanesyddol tirweddau cynlluniedig a’r pwysau sydd arnynt o ganlyniad i ddatblygiadau. Mae’r asedau hyn yn rhan o hunaniaeth genedlaethol Cymru. Maen nhw’n cyfoethogi gwead a phatrwm ein tirweddau ac yn gofnod gwerthfawr o newid cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd. Ceir amrywiaeth o nodweddion mewn parcdiroedd, megis coetiroedd a choed, rhodfeydd, prif lonydd, nodweddion dŵr, adeiladau, ac adeiladweithiau eraill. Mae, neu roedd, y rhan fwyaf o barciau’n amgylchynu plastai gwledig neu breswylfeydd castell. Roedd gan yr adeiladau hyn erddi hefyd. Lleoedd caeedig oeddynt lle tyfid ffrwythau a llysiau neu a gâi eu cynllunio i ddifyrru’r perchnogion. Mae eu gwahanol nodweddion a’r berthynas rhyngddynt yn cyfrannu at gymeriad unigryw parciau a gerddi unigol.
Mae cyfoeth o enghreifftiau rhagorol yng Nghymru, yn enwedig yn iseldiroedd y gogledd-ddwyrain a’r de-ddwyrain, yn ne Sir Benfro, ac ar hyd arfordir Môn a Gwynedd. Maen nhw’n amrywiol iawn: tiroedd tai hanesyddol, ysbytai, prifysgolion a rhai safleoedd diwydiannol; parciau cyhoeddus; mynwentydd, a hyd yn oed ambell ardd faestrefol breifat. Defnyddir llawer ohonynt gan gymunedau lleol ar gyfer gweithgareddau hamdden ac maen nhw’n bwysig ar gyfer bioamrywiaeth a chadwraeth bywyd gwyllt. Mae’r gofrestr yn olrhain datblygiad parciau a gerddi yng Nghymru o’r drydedd ganrif ar ddeg i’r ugeinfed ganrif. Ymhlith y safleoedd y mae rhai sydd wedi goroesi er gwaethaf popeth ac eraill sy’n ddarganfyddiadau hynod ddifyr.

Gwyddom am lawer o barciau ceirw o gwmpas preswylfeydd mawr yr Oesoedd Canol a gellir gweld olion rhai ohonynt o hyd. Roedd gerddi’n gyffredin ond daw ein gwybodaeth amdanynt fel rheol o ffynonellau dogfennol. Cafwyd tystiolaeth eithriadol o brin am ardd fynachaidd wrth gloddio ym Mhriordy Hwlffordd. Daethpwyd o hyd i ardd gloestr o’r drydedd ganrif ar ddeg (pedrongl gyda glaswellt neu lysiau yn y canol), a ailwampiwyd yn ddiweddarach, a chynllun ffurfiol o’r bedwaredd ganrif ar ddeg ar ffurf gwelyau uchel ar batrwm grid wedi’u gwahanu gan lwybrau cul. Ail-grëwyd y rhain i gyd (Ffig.1; NPRN 79037).

Yn rhan olaf y bymthegfed ganrif fe ddechreuodd syniadau’r Dadeni am gynlluniau gardd addurnol ennill tir, ac yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg fe gafodd y syniadau hyn eu mabwysiadu gan y bonedd yr oedd eu cyfoeth yn cynyddu yn sgil Diddymu’r Mynachlogydd. Arweiniodd hyn at greu rhai gerddi ysblennydd iawn a oedd yn cynnwys terasau ffurfiol cymhleth, llecynnau addurnol caeedig, rhodfeydd, a nodweddion dŵr fel sianeli a llynnoedd. Ychydig iawn o erddi o’r cyfnod hwn sydd wedi goroesi gan iddynt gael eu dinistrio pan benderfynwyd defnyddio’r tir at bwrpas arall, neu eu chwalu a’u creu o’r newydd yn unol â’r ffasiwn ddiweddaraf. Yn Landshipping, ger Hwlffordd, gellir gweld ‘sgerbwd’ gardd o’r ail ganrif ar bymtheg y rhoddwyd y gorau i’w chynnal ond na chafodd ei hysgubo i ffwrdd gan amaethu wedyn. O ganlyniad mae’r cynllun gwreiddiol wedi’i gadw a gwyddom fod yno derasau a llecynnau caeedig, gan gynnwys gerddi muriog, ynghyd â nodweddion dŵr (Ffig.2; NPRN 95608).
Yn sgil yr Adferiad Stiwartaidd ym 1660 fe gafodd rhai ystadau eu hehangu drwy eu cyfuno ag ystadau eraill a chafodd eu gerddi ffurfiol eu helaethu, gan ddilyn yr arddull baróc, drwy ychwanegu parterres (gwelyau caeedig o blanhigion mewn patrymau cymhleth, wedi’u gwahanu gan raean), ffowntenni a cherfluniau. Gosodwyd rhodfeydd a llwybrau i uno’r plastai â’u gerddi a’r dirwedd y tu hwnt iddynt. Cafodd llawer o erddi mawr yr ail ganrif ar bymtheg eu gweddnewid yn llwyr wrth i ffasiwn newid ond fe oroesodd rhai ohonynt o ganlyniad i esgeulustod neu oherwydd amharodrwydd eu perchnogion i ildio i syniadau cyfoes. Un enghraifft o’r ail yw Erddig, ger Wrecsam (NPRN 86570). Ac enghraifft nodedig o’r cyntaf yw Castell Powis, ger y Trallwng, a’i derasau Eidalaidd enwog (Ffig.3; NPRN 29858).

Fe gafodd y terasau hyn ddihangfa gyfyng tua diwedd y ddeunawfed ganrif. Yn dilyn cyfnod pan adawyd iddynt fynd yn wyllt, cynigiwyd y dylid eu chwythu i fyny a chreu lawnt hir ar lethr yn eu lle. Ond ni weithredwyd y cynllun a chafodd y terasau eu hadfer yn rhan olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg, er i’r parterres ffurfiol a’r ardd ddŵr Iseldiraidd ddiflannu.

Prif ysgogydd ailgynllunio radicalaidd y ddeunawfed ganrif a dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd y mudiad tirwedd y mae gwaith Lancelot ‘Capability’ Brown ymhlith eraill yn nodweddiadol ohono. Arweiniodd hyn at chwalu gerddi ffurfiol ym mhob rhan o Brydain a datblygu yn eu lle dirweddau mwy naturiol ar ffurf parciau gyda golygfeydd agored, llynnoedd, coed a llecynnau gwyrdd hyd at ddrws y plasty. Roedd tirwedd goediog donnog iseldiroedd Cymru yn ymdebygu i barcdir tirluniedig mewn llawer ffordd ac felly ni chafodd y ffasiwn newydd gymaint o effaith yma. Un enghraifft arbennig yw’r parc o amgylch Castell y Waun, hen barc ceirw a sefydlwyd yn y bedwaredd ganrif ar ddeg. Cafodd llawer o’r cynllun presennol ei greu gan William Emes, gan ddechrau ym 1764. Plannodd nifer fawr o goed, adeiladodd ffyrdd crwm, a symudodd dipyn o bridd hyd yn oed, ond mae cynllun baróc crand y gerddi a’r rhodfeydd ffurfiol wedi mynd, ynghyd â llawer o’r coed hynafol (Fig. 4; NPRN 145757 & 86629).

Gwnaed newidiadau mawr i Barc Tredegar yn rhan olaf y ddeunawfed ganrif pan ailwampiwyd y parc o’r ail ganrif ar bymtheg drwy gael gwared â’r rhan fwyaf o’r rhodfeydd echelinol mawr, ailosod ffyrdd a lonydd, a chreu llyn troellog (y Great Pool) a mwy o goetiroedd. Ni weithredwyd y cynllun i chwalu’r gerddi muriog ond cafodd llaid o garthu’r llyn ei ddefnyddio i orchuddio’r ardd wrth ymyl orendy cynnar, gan gladdu parterre anorganig prin a ddarganfuwyd wedyn yn ystod ymchwiliad archaeolegol. Darnau o’r parc yn unig sydd wedi goroesi, yn bennaf oherwydd i briffyrdd gael eu gyrru drwyddo a swyddfeydd eu codi arno yn yr ugeinfed ganrif (Ffig. 5; NPRN 266066).
Mae hanes y parciau a gerddi hyn, sy’n sampl bach o’r rhai ar y rhestr, yn dangos na fuont erioed yn safleoedd digyfnewid, ond iddynt ddatblygu mewn ymateb i ffasiwn a syniadau newydd. Ond mae’r bygythiad iddynt heddiw yn llawer mwy nag yn y gorffennol. Gall newidiadau pellgyrhaeddol mewn defnydd tir effeithio ar eu cymeriad hanesyddol. Gall datblygiadau amaethyddol a threfol eu newid y tu hwnt i adnabyddiaeth neu ddinistrio nodweddion hanesyddol hyd yn oed. Mae effeithiau newid hinsawdd yn fygythiad newydd a chynyddol iddynt. Drwy eu cynnwys ar y gofrestr statudol fe gynyddir ymwybyddiaeth o’u gwerth fel asedau treftadaeth a chodir eu proffil yn sylweddol yn y broses gynllunio. O ganlyniad gall newidiadau gael eu rheoli mewn ffyrdd sy’n diogelu ac yn gwella eu nodweddion arbennig.
David Leighton, Uwch Ymchwilydd (Archaeoleg)
22/02/2022