
Y mosg cyntaf i gael ei adeiladu yng Nghymru
Ar 12 Mai, bydd Moslemiaid ym mhobman yn dathlu Eid al-Fitr, y wledd i nodi diwedd ympryd Ramadan. Gan nad oedd yn gwybod fawr ddim am hanes Islam ym Mhrydain, yn enwedig yng Nghymru, aeth Christopher Catling (Ysgrifennydd/Prif Weithredwr y Comisiwn Brenhinol) ati i chwilio am wybodaeth, a dyma ei adroddiad ar yr hyn a ddarganfu.
Casgliad y Werin Cymru yw’r lle cyntaf i fynd bob amser wrth chwilio am wybodaeth am hanes cymunedol Cymru, ac ni chefais fy siomi pan deipiais ‘Islam’ yn y blwch chwilio a gwasgu ‘enter’. Ymhlith y 40 eitem y daethpwyd o hyd iddynt yr oedd ffotograffau o wahanol fosgiau yng Nghymru, gan gynnwys y cyntaf i gael ei sefydlu, sef Mosg Noor ul Islam yn Maria Street, Tre-biwt.
I gael mwy o wybodaeth, chwiliais am Fosg Noor ul Islam ar y we a chefais hyd i lun hyfryd a dynnwyd ym 1943 ar wefan Amgueddfa Ryfel yr Ymerodraeth yn dangos plant ac oedolion yn gorymdeithio gyda llumanau a baneri i ddathlu agor Mosg newydd, a oedd yn ôl y capsiwn yn Peel Street.
Roedd yn amlwg bod hwn yn fosg gwahanol, felly daliais ati i chwilio a chefais hyd i erthygl wych gan David Webb, gwirfoddolwr gydag Archifau Morgannwg, ar hanes cymuned Foslemaidd Tre-biwt, a sefydlwyd mor gynnar â chanol y 1800au gan longwyr o Somalia a Yemen. Cafodd y mosg a chanolfan ddiwylliannol yn Peel Street eu creu yn y 1930au drwy addasu tri thŷ, a rhoddwyd caniatâd cynllunio ar 11 Tachwedd 1938 i godi mosg pwrpasol cyntaf Cymru ar y tir y tu ôl i’r tai.
Cafodd y mosg ei gynllunio gan Osborne V Webb, pensaer o Gaerdydd, y mae ei gwmni, a sefydlwyd ym 1935, yn dal i ffynnu – y cwmni hwn a gynlluniodd y Stadiwm Cenedlaethol ym Mharc yr Arfau Caerdydd a agorwyd ym 1962, y cymerwyd ei le erbyn hyn gan Stadiwm y Mileniwm a gwblhawyd yn 2000. Ni pharhaodd mosg Webb yn hir iawn gan iddo gael ei daro gan fomiau mewn cyrch awyr ar 2 Ionawr 1941 a wnaeth ddifrod mawr i Eglwys Gadeiriol Llandaf hefyd. Cafodd 165 o bobl eu lladd a 427 eu hanafu, a dinistriwyd 300 o dai. Yn wyrthiol, dihangodd y 30 o addolwyr a oedd yn y mosg adeg y cyrch heb anaf difrifol.
Felly mae llun Amgueddfa Ryfel yr Ymerodraeth yn dangos y dathliadau adeg agor mosg dros dro ar 16 Gorffennaf 1943. Roedd yr addoldy ar ffurf cwt Tarran, un o’r gwahanol fathau o adeilad parod a gâi eu cynhyrchu yn ystod y rhyfel i ddarparu cartrefi ar gyfer pobl a oedd wedi colli popeth yn y cyrchoedd bomio. Tarran Industries o Hull oedd gwneuthurwr y cwt Tarran. Roedd ganddo broffil parabolig ac roedd wedi’i wneud o baneli o sment wedi’i gymysgu â llwch llif. Yn ôl eu hysbysebion, gallai’r cytiau gael eu codi’n hawdd mewn 5.5 awr gan weithwyr medrus, neu mewn 9 awr gan weithwyr lled-fedrus. Roedd y ganolfan ddiwylliannol mewn math gwahanol o adeilad parod, sef cwt Maycrete, a enwyd ar ôl Bernard Maybeck, y dyfeisydd, a’r paneli concrit wedi’u rhag-gastio a ddefnyddid i wneud y cytiau petryalog.
Ar ôl y rhyfel, ym 1946, cynlluniodd Osborne Webb fosg arall, gyda thyrau cromen-nionyn yn y corneli a minarét. Roedd yn adeilad deniadol iawn fel y mae’r braslun dyfrlliw hwn gan Mary Traynor, arlunydd o Gaerdydd, a’r ffotograff ar wefan Coflein y Comisiwn Brenhinol, yn ei ddangos.


Fel y noda’r disgrifiad ar Coflein, bu cryn dipyn o ailddatblygu yn ardal Tre-biwt a chafodd Mosg Noor ul Islam yn Peel Street ei ddymchwel ym 1988. Yn ei le fe godwyd adeilad deulawr o frics yn 17 Maria Street sy’n parhau i wasanaethu’r gymuned Foslemaidd leol. Dywed Jonathan Vining, un o’n Comisiynwyr: ‘Fy nghwmni i ar y pryd (Penseiri Forster Vining) a gynlluniodd y mosg newydd. Mae’n edrych fel blwch petryalog wedi’i alinio ar y grid strydoedd o’r tu allan ond mae ei geometreg a’i adeiladwaith mewnol yn edrych tuag at Mecca.’.

Mae mwy na 40 mosg yng Nghymru erbyn heddiw. Cafodd rhai eu hadeiladu’n bwrpasol, fel Canolfan Islamaidd De Cymru, Alice Street, Caerdydd a gynlluniwyd yn y 1970au yn yr arddull Arabaidd clasurol gan Bartneriaeth Davies Llewellyn. Mae ganddo gromen drawiadol o efydd ac 16 o ffenestri gwydr lliw o’i chwmpas wedi’u dylunio gan fyfyrwyr y Coleg Celf, Abertawe. Addaswyd adeiladau presennol i greu mosgiau eraill, er enghraifft, Mosg a Chanolfan Ddiwylliannol Islamaidd Shah Jalal, 19 Heol Crwys, Caerdydd, a adeiladwyd ym 1899-1900 gan y pensaer John Henry Philips o Gaerdydd fel eglwys Fethodistaidd ac sy’n adeilad rhestredig Gradd II oherwydd ei chynllun Eidalaidd gwych.
Os hoffech ddysgu mwy am dreftadaeth Foslemaidd gwledydd Prydain, byddwn yn argymell cyrchu dwy wefan y dois i o hyd iddyn nhw wrth gasglu gwybodaeth ar gyfer y blog hwn. Y gyntaf yw gwefan Al Jazeera lle mae erthygl am greu modiwl Hanes Moslemaidd ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol, a’r ail yw’r wefan Everyday Muslim a sefydlwyd gyda chymorth amryfal gyrff archifol yn y DU i greu archif genedlaethol o fywydau, celfyddydau, addysg a diwylliannau Moslemaidd, lle mae cyfoeth o ddeunydd i’w gael.
Gan Christopher Catling, Ysgrifennydd y Comisiwn Brenhinol (Prif Weithredwr)
05/12/2021