
Y Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru – yn awr yn fyw
Gwefan arloesol sy’n cynnig cipolwg hynod ddiddorol ar ddefnydd tir, archaeoleg a hanes Cymru yw’r Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol sy’n cael ei lansio heddiw. Mae’r 300,000 a mwy o enwau lleoedd yn y Rhestr yn adlewyrchu’r amrywiol ffurfiau a sillafiadau sydd wedi cael eu defnyddio drwy hanes, ac yn cadw llawer o wybodaeth, a aeth yn angof yn aml, am adeiladau a phobl ac am nodweddion archaeolegol neu dopograffigol yn ein tirweddau.
Gan gydnabod pwysigrwydd enwau lleoedd hanesyddol i hanes a diwylliant Cymru, cynhwysodd Llywodraeth Cymru ddarpariaeth ar gyfer rhestr statudol o enwau lleoedd hanesyddol yn Neddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 a rhoddwyd y dasg o lunio a chynnal y Rhestr ar ran Gweinidogion Cymru i’r Comisiwn Brenhinol. Ers hynny bu’r Comisiwn yn gweithio gyda phartneriaid i greu gwefan lle bydd data o dair prif ffynhonnell ar gael yn barhaol. Y ffynonellau hyn yw:
- enwau a gasglwyd gan wirfoddolwyr ar-lein o fapiau Arolwg Ordnans hanesyddol drwy brosiect Cymru1900Wales;
- enwau a gasglwyd gan wirfoddolwyr ar-lein o raniadau degwm drwy brosiect Cynefin; ac
- enwau a gasglwyd gan Dr David Parsons yn ei ymchwil ar ran y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd i ‘Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru’.
Gydag amser, caiff llawer mwy o enwau eu hychwanegu wrth i waith ymchwil a phrosiectau pellach gael eu cwblhau – ewch i’r blog i ddarganfod mwy am y gwaith sy’n cael ei wneud i ddatblygu’r Rhestr.
Mae’r Rhestr ar gael am ddim ar-lein ac mae’n gofnod datblygol o wybodaeth awdurdodol am enwau lleoedd hanesyddol a all gael ei ddefnyddio i:
- helpu’r cyhoedd i ddysgu am hanes eu cymunedau;
- cynorthwyo ymchwil academaidd; a
- llywio penderfyniadau ar reoli’r amgylchedd hanesyddol.
Mae aelod amser-llawn o’r staff yn gyfrifol am guraduro’r Rhestr ac ateb ymholiadau.
Ewch yn awr i enwaulleoeddhanesyddol.cbhc.gov.uk i ddarganfod hanesion cudd enwau lleoedd wrth eich ymyl chi ac ar hyd a lled Cymru.

Map enghreifftiol o Ben-y-bont ar Ogwr yn dangos sut mae data am enwau lleoedd yn cael eu harddangos ar fapiau’r wefan
08/05/2017