
Y Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru
Ym mis Mai eleni lansiodd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru wasanaeth newydd ar y we sydd â’r nod o ddiogelu enwau lleoedd hanesyddol Cymru a thynnu sylw at eu pwysigrwydd.
Gwefan arloesol sy’n unigryw i Gymru yw’r Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru (https://enwaulleoeddhanesyddol.cbhc.gov.uk). Ceir yn y Rhestr fwy na chwarter miliwn o enwau lleoedd hanesyddol, wedi’u casglu o amrywiaeth o ffynonellau, sy’n cynnig cipolwg hynod ddiddorol ar ddefnydd tir, archaeoleg a hanes Cymru. Mae’r enwau lleoedd yn y Rhestr yn adlewyrchu’r amrywiol ffurfiau a sillafiadau sydd wedi cael eu defnyddio o’r Oesoedd Canol hyd heddiw, ac yn aml yn cynnwys elfennau sy’n cyfeirio at adeiladau, pobl a nodweddion archaeolegol neu dopograffigol.
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru sy’n llunio ac yn cynnal y Rhestr ar ran Gweinidogion Cymru ar ôl i ddarpariaeth ar gyfer rhestr statudol o enwau lleoedd hanesyddol gael ei chynnwys yn Neddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016. Un o brif nodau’r Ddeddf hon yw gwella rheolaeth gynaliadwy ar yr amgylchedd hanesyddol, ac mae datblygu rhestr statudol o enwau lleoedd hanesyddol yn agwedd bwysig ar y polisi hwn.

Manylyn o Fap Prawf Saxton o Gymru (1580) – Darluniadol
Drwy gynhyrchu’r Rhestr hon, a threfnu iddi fod ar gael ar-lein, yn ogystal â thrwy’r pedwar Cofnod Amgylchedd Hanesyddol rhanbarthol, bydd y cyhoedd, ymchwilwyr a’r rheiny sy’n gwneud penderfyniadau ar faterion sy’n effeithio ar amgylchedd hanesyddol Cymru yn gallu cyfeirio’n hawdd am y tro cyntaf at gofnod cenedlaethol, awdurdodol, geo-leoledig o enwau lleoedd hanesyddol.

Ken Skates (de), Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, a Tom Pert (chwith), Rheolwr Datblygu Ar-lein Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, adeg lansio’r Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru ym mis Mai 2017.
Beth yw pwrpas y Rhestr?
Pwrpas y Rhestr yw codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o dreftadaeth gyfoethog Cymru o ran ei henwau lleoedd ac annog pobl i barhau i’w defnyddio oherwydd eu pwysigrwydd hanesyddol.
Mae’r Rhestr ar gael am ddim ar-lein a thrwy’r Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol, ac yn gofnod datblygol o wybodaeth awdurdodol am enwau lleoedd hanesyddol a all gael ei ddefnyddio i:
- helpu’r cyhoedd i ddysgu am hanes eu cymunedau;
- cynorthwyo ymchwil academaidd; a
- llywio penderfyniadau ar reoli’r amgylchedd hanesyddol.
Disgwylir y bydd Awdurdodau Lleol, Awdurdodau Parc Cenedlaethol a Chyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio’r Rhestr wrth wneud penderfyniadau ar enwi neu ailenwi strydoedd ac adeiladau.
Defnyddio’r Rhestr
Ffordd syml o ddechrau yw defnyddio’r Map i chwyddo i mewn i’ch lleoliad, ac yna archwilio’r enwau lleoedd sydd wedi’u cofnodi yn y dirwedd o’ch cwmpas. Fel arall, gallwch ddefnyddio’r Eirfa ryngweithiol sy’n cynnwys oddeutu 600 o’r elfennau mwyaf cyffredin mewn enwau lleoedd Cymraeg. Felly, os ydych am ddod o hyd i’r holl enwau lleoedd “bwbach” yng Nghymru, cliciwch ar “bwbach” yn yr Eirfa a bydd map dosbarthiad yn agor sy’n dangos yr holl enwau lleoedd “bwbach” sydd yn y Rhestr ar hyn o bryd. Gallwch astudio’r rhain ar fapiau Arolwg Ordnans modern a hanesyddol.
Gwella’r Rhestr
Bydd y cyhoedd yn gallu helpu’r Comisiwn Brenhinol i wella’r Rhestr drwy ddefnyddio system sylwadau’r wefan i ddarparu gwybodaeth ychwanegol neu gywiriadau. Yn ogystal, mae’r Comisiwn yn gobeithio gweithio gyda grwpiau hanes lleol i ymgorffori unrhyw gofnodion y maen nhw eisoes wedi’u creu drwy brosiectau enwau lleoedd lleol.
Cynlluniau at y dyfodol:
Bydd y Comisiwn Brenhinol yn cynnal ac yn gwella’r Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru drwy:
- creu cofnodion enwau lleoedd hanesyddol newydd o ddata a gesglir o amryw ffynonellau;
- adolygu a newid y cofnodion presennol i gywiro gwallau trawsysgrifol a gwallau eraill;
- cydlynu cyfnewid data am enwau lleoedd rhwng sefydliadau;
- ymateb i ymholiadau am gofnodion ar y Rhestr; a
- chynhyrchu erthyglau a threfnu gweithgareddau estyn-allan sy’n hyrwyddo’r Rhestr ac yn cynyddu dealltwriaeth o werth enwau lleoedd hanesyddol Cymru.
Os hoffech ddysgu mwy am y Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru, ewch i https://enwaulleoeddhanesyddol.cbhc.gov.uk a defnyddio’r ffurflen Cysylltu i ddod i gysylltiad.

Mynegbost – Darluniadol © Hawlfraint y Goron: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.
06/28/2017