Y Sinclair C5 a Merthyr Tudful

Yr wythnos ddiwethaf fe ddaeth y newyddion bod Syr Clive Sinclair (1940–2021), y dyfeisydd, wedi marw. Rydym ni i gyd wedi clywed am y Sinclair C5, beic pedalu wedi’i gynorthwyo gan drydan, a gafodd ei ddylunio a’i ddatblygu ganddo. Rhagflaenydd ceir a cherbydau modur trydan heddiw oedd y Sinclair C5. Câi ei gydosod yng Nghymru gan Gwmni Hoover yn ei ffatri cynhyrchu peiriannau golchi ym Merthyr Tudful.

Dechreuwyd y gwaith dylunio a chynllunio ar gyfer y Sinclair C5 ym 1979, a chyda diddymu treth ffordd ar gyfer cerbydau trydan ym 1980, roedd Syr Clive Sinclair yn meddwl y byddai’r C5 yn hebrwng oes newydd o gerbydau personol wedi’u gyrru gan drydan. Mae’r C5 hwn yn cael ei arddangos yn Amgueddfa’r Glannau, Abertawe.

Awdurdod Datblygu Cymru (WDA)

Cysylltodd Awdurdod Datblygu Cymru (WDA) â Chwmni Hoover yng Ngwanwyn 1983 i weld a oedd ganddynt ddiddordeb mewn cydosod yr C5. Daeth Hoover yn brif is-gontractwr i Sinclair. Roedd Sinclair wedi bod yn gweithio ar gar trydan ac roedd wedi dylunio beic wedi’i gynorthwyo gan drydan, sef y Sinclair C5 fel y’i gelwir heddiw, fel rhan o’r ymchwil hwnnw.

Ar 10 Ionawr 1985, fe lansiwyd yr C5 gyda chyhoeddusrwydd mawr. Ond er bod Lotus wedi chwarae rhan mewn dylunio’r beic, ac er gwaethaf ei fanteision economaidd ac amgylcheddol, ni fu erioed yn boblogaidd gan fodurwyr na beicwyr a rhoddwyd iddo’r llysenwau Doodle-buggy, Hoover Hedgehog, Skinny Mini a Voltswagen. Cwta saith mis yn ddiweddarach, ym mis Awst 1985, rhoddwyd y gorau i gynhyrchu’r C5. Erbyn hynny roedd 12,000 o’r cerbydau wedi cael eu cydosod ar y safle ac roedd ar gwmni Sinclair Vehicles, a oedd bellach yn fethdalwr, £1.5m i Hoover.

Ffatri Hoover a adeiladwyd ar hen safle Gwaith Haearn Plymouth, Merthyr Tudful. Tynnwyd y llun ar 30 Gorffennaf 2007. NPRN 407006.

Ffatri Hoover

Adeiladwyd Ffatri Hoover ar safle Gwaith Haearn Plymouth gynt, a oedd wedi cau ym 1882. Dyma ddiwydiant a oedd yn nodweddiadol o’r ardal yn y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif. Fel rhan o’r ymgyrch i ehangu diwydiant ar ôl y rhyfel, cafodd Ffatri Hoover ei sefydlu yn yr ardal.

Dechreuwyd adeiladu Ffatri Hoover, ym Mhentre-bach, Merthyr Tudful, ym mis Mehefin 1946. Cafodd ei gynllunio gan yr un penseiri a oedd wedi cynllunio ffatri Hoover yn Perivale (Wallis and Gibert), a thorwyd y dywarchen gyntaf gan Gadeirydd a Rheolwr Gyfarwyddwr Hoover Ltd., C.B. Colston.

Agorodd y ffatri cynhyrchu peiriannau golchi ar 19 Hydref 1948. Roedd yn cyflogi 350 o weithwyr. Bu twf sylweddol yn y 1960au a’r 1970au a chynyddodd y gweithlu i 5,000. Roedd yn un o’r cyflogwyr mwyaf mewn unrhyw dref ar y pryd a châi Merthyr ei galw’n Hooverville gan lawer.

Daeth cynhyrchu peiriannau golchi a sugnyddion llwch i ben ar y safle yn 2009 pan gaeodd y ffatri ei drysau am y tro olaf ar ôl 61 o flynyddoedd.

Charles Green, Swyddog Ymgysylltu â’r Cyhoedd (Graffigwaith).

09/24/2021

guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x