
Y Tu Mewn i Gartrefi Cymru: Inside Welsh Homes

Clawr llyfr: Y Tu Mewn i Gartrefi Cymru: Inside Welsh Homes.
Ar Ddydd Mercher y 5ed o Ragfyr bydd y Comisiwn Brenhinol yn lansio ei gyhoeddiad diweddaraf, Y Tu Mewn i Gartrefi Cymru: Inside Welsh Homes, am 6pm yn adeilad y Comisiwn yn Aberystwyth. Ar y noson fe fydd yr awduron – Richard Suggett a Rachael Barnwell – yn rhoi sgyrsiau ac yn llofnodi copïau o’u llyfr, a byddwch chi’n gallu gweld deunydd archifol yn y llyfrgell a mwynhau lluniaeth tymhorol – mins-peis a diod dwym ddi-alcohol.
Mae’r noson yn argoeli bod yn ddechreuad addas iawn i dymor yr Ŵyl a bydd yn gyfle da i brynu llyfrau llawn lluniau wedi’u hysgrifennu gan arbenigwyr yn anrhegion Nadolig. Bydd gostyngiad o 10% ar bob cyhoeddiad i Gyfeillion. I gael gwybodaeth bellach, cysylltwch â nicola.roberts@cbhc.gov.uk, ffôn: 01970 621248.
Lleoliad:
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru,
Plas Crug,
Aberystwyth,
SY23 1NJ
11/27/2012