
Y Tu Mewn i Gartrefi Cymru ym Maenor Scolton

Ystyrir yn aml fod ein cartrefi yn adlewyrchu ein gwerthoedd, ein credoau a’n hagweddau. Roedd Isaac Haley yn byw yng Nglan-brân yn Sir Gâr oddeutu 1900 ac fel llawer o berchenogion tai cyfoethog yr adeg honno fe ddefnyddiodd y dechnoleg ffotograffig ddiweddaraf i gofnodi ystafelloedd ei gartref. Defnyddiodd Mr. Haley wardrob gyda drychau i adlewyrchu ei ddelwedd ei hun a chreu’r hunanbortread hwn. DI2012_0180, NPRN 96046
Ar ôl llwyddiant mawr ein harddangosfa ‘Y Tu Mewn i Gartrefi Cymru’ yn Amgueddfa Ceredigion, mae’n symud ymlaen i leoliad newydd. Bydd yn agor ym Maenor Scolton yn Sir Benfro ar Ddydd Gwener 24 Awst ac yn parhau yno hyd Ddydd Sadwrn 20 Hydref 2012. Ewch i wefan Maenor Scolton i gael gwybodaeth am fynediad ac amserau agor.
Cafodd Maenor Scolton, ger Hwlffordd, ei hadeiladu ym 1842 gan gwmni lleol o benseiri, William a James Owen. Mae’r tŷ Fictoraidd yn lle delfrydol ar gyfer ein harddangosfa gan fod llawer o’r dodrefn a gwrthrychau sy’n cael eu harddangos yn cydweddu â’n delweddau.
08/24/2012