
Y Tu Mewn i’ch Cartref Cymreig
Er eu bod yn llawn o wybodaeth ddifyr am newidiadau mewn amodau byw, ffasiynau, mynegiant unigol a bywydau pobl yn gyffredinol, nid tu mewn cartrefi cyffredin yw prif bwnc ffotograffau yn aml: yn hytrach maent hwy fel rheol yn gefndir i olygfeydd megis prydau bwyd teuluol a phartïon plant. Gyda hyn mewn golwg, ac wedi ein hysbrydoli gan yr arddangosfa Y Tu Mewn i Gartrefi Cymru a gynhelir mewn sawl lle yng Nghymru yn ystod y misoedd nesaf, rydym ni wedi creu nifer o gasgliadau ar wefan Casgliad y Werin: http://www.peoplescollectionwales.co.uk
Mae’r casgliadau’n ymwneud ag ystafelloedd unigol mewn cartrefi Cymreig (ceginau, ystafelloedd byw, ac ati) a’r bwriad yw annog pobl i roi atgofion a ffotograffau o’u cartrefi eu hunain ar y wefan. Y nod yw cynnwys stori pawb yn yr adnodd datblygol hwn ar gyfer hanes Cymru. Edrychwch ar beth mae pobl wedi’i roi ar y wefan eisoes! A oes gennych chi luniau neu atgofion i’w hychwanegu?
Casgliad y Werin Cymru
25/09/2012