
Y Tu Ôl i’r Llenni yn Arddangosfa ‘Worktown’
Yn ystod yr wythnos ddiwethaf, mae ein tîm wedi bod yn paratoi rhai o luniadau gwreiddiol Falcon Hildred i’w harddangos yn Amgueddfa Ceunant Ironbridge ym mis Hydref.
Bydd dros 40 o luniadau gwreiddiol yr arlunydd yn cael eu harddangos, gan gynnwys nifer o luniadau sy’n cofnodi tirwedd a diwydiant llechi gogledd Cymru, lle bu’r arlunydd yn byw ers 1969.

Noson Serennog, 1977, Ffordd Manod, Blaenau Ffestiniog. FHA 01/049, NPRN 305760, © Y Goron: CBHC, Casgliad Falcon Hildred.
Cofnododd Falcon lawer o adeiladau yn nhref lechi ddiwydiannol Blaenau Ffestiniog a’r cyffiniau, gan gynnwys tai Ffordd Manod. Mae’r llun uchod yn dangos y stryd yn y nos, ac mae’n un o weithiau mwyaf atmosfferig yr arlunydd.

Rachael Barnwell, sydd wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â chydweithwyr yng Ngheunant Ironbridge, wrthi’n mesur y fframiau ar gyfer yr arddangosfa.
Mae mynediad i’r arddangosfa yn ddi-dâl a gellir ei gweld yn Oriel Coalbrookdale yn Amgueddfa Ceunant Ironbridge. Bydd ar agor rhwng 10am a 5pm, Dydd Llun i Ddydd Gwener, o 5 Hydref 2012 hyd 20 Ebrill 2013. Ffoniwch 01952 433424 neu ewch i www.ironbridge.org.uk i gael rhagor o fanylion.
09/20/2012