
Y Tŷ Hynaf yng Nghymru

Hafodygarreg yw’r tŷ dyddiedig hynaf yng Nghymru. Mae samplau craidd a gymerwyd o’r cwpl nenfforch sydd wedi goroesi yn dangos i’r coed ddod o goeden a dorrwyd i lawr yn Haf 1402 yn ystod gwrthryfel Owain Glyndŵr. Comisiynwyd y gwaith dyddio blwyddgylch (dendrocronoleg) gan y Comisiwn Brenhinol yn 2005.
Ffrâm gyplau ganoloesol
Neuadd un adran oedd gan y ffrâm gyplau ganoloesol a ffurfiai’r tŷ neuadd. Mae gan y pared ffrâm-sbêr nenfforchog gleddau pigfain cywrain at y brenhinbost rhwng y goler gamdro a’r dynlath.
Neuadd agored ffrâm-nenfforch
Tŷ neuadd agored ffrâm-nenfforch oedd Hafodygarreg yn wreiddiol. Fe ddatblygodd yn ffermdy deulawr â muriau cerrig yn rhan olaf yr unfed ganrif ar bymtheg. Tŷ o’r math cyntedd-aelwyd (‘tŷ hir’) oedd ef, gyda lle tân wedi’i osod yn erbyn y nenfforch a oedd wedi goroesi a grisiau lle tân yn rhoi mynediad i lawr uchaf newydd.
▶️ Morgannwg: Ffermdai, Tai a Phlastai
Dyddio
Dangosodd dyddio blwyddgylch pellach i nenfwd a lle tân y neuadd gael eu hychwanegu’n ddiweddarach, ar ganol y 1570au. Cafodd y coed ar gyfer y rhain eu cwympo yng Ngaeaf 1574/5.
Techneg a ddefnyddir i ddyddio coed yn fanwl drwy ddadansoddi twf blynyddol y cylchoedd mewn coed yw dendrocronoleg (dyddio blwyddgylch). Os yw gwynnin cyflawn wedi goroesi, gellir dyddio’r coed i’r union flwyddyn (ac weithiau’r tymor) y cafodd y goeden ei chwympo. Os yw rhan o’r gwynnin wedi goroesi, neu’r ffin rhwng y rhuddin a’r gwynnin, gellir rhoi amrediad o ddyddiadau ar gyfer pryd y torrwyd y goeden i lawr. Mae’r Comisiwn Brenhinol wedi dyddio amrywiaeth o dai ac eglwysi fel rhan o’i Raglen Dyddio Blwyddgylch Genedlaethol.
Gellir gweld manylion safle Hafodygarreg, Powys ar Coflein, ein harchif arlein.
▶️ Ymchwilio i Hanes eich Tŷ09/19/2018