CBHC / RCAHMW > Newyddion > Ydych chi’n ymwneud â gwaith cysylltiedig â’r Amgylchedd Hanesyddol a Newid yn yr Hinsawdd yng Nghymru?
Trefrane Cliff Colliery, Pembrokeshire, following wildfire in August 2022.

Ydych chi’n ymwneud â gwaith cysylltiedig â’r Amgylchedd Hanesyddol a Newid yn yr Hinsawdd yng Nghymru?

Cymerwch ran yn ein Harolwg Gweithgarwch o’r Amgylchedd Hanesyddol ac Addasu i Newid yn yr Hinsawdd ar gyfer 2022

  • Rydym yn awyddus i glywed enghreifftiau o weithgareddau perthnasol rydych yn ymwneud â hwy neu’n gwybod amdanynt.
  • Rydym yn awyddus i glywed gennych hefyd os nad oes gennych weithgareddau perthnasol i adrodd amdanynt. A oes yna reswm am hynny?
  • Mae hwn yn gyfle gwerthfawr i gyfrannu at reoli ein hamgylchedd hanesyddol yn y dyfodol.
  • Bydd yr ymgynghoriad yn cau am 14:00 ar 10 Chwefror 2023.
Pwll Glo Clogwyn Trefran, Sir Benfro, yn dilyn tân gwyllt ym mis Awst 2022. Datgelodd y tân nodweddion archaeolegol o amgylch y simnai frics sy’n adeilad rhestredig Gradd II. Cafodd y safle ei gofnodi gan CBHC drwy dynnu lluniau o’r awyr a chynnal arolwg â cherbyd awyr di-griw.
Pwll Glo Clogwyn Trefran, Sir Benfro, yn dilyn tân gwyllt ym mis Awst 2022. Datgelodd y tân nodweddion archaeolegol o amgylch y simnai frics sy’n adeilad rhestredig Gradd II. Cafodd y safle ei gofnodi gan CBHC drwy dynnu lluniau o’r awyr a chynnal arolwg â cherbyd awyr di-griw (© Hawlfraint y Goron. CBHC).

Cefndir

Fis Chwefror 2020 cyhoeddodd Grŵp yr Amgylchedd Hanesyddol (HEG) Gynllun Addasu’r Sector (SAP, sydd ar gael yma) y sector Amgylchedd Hanesyddol a Newid Hinsawdd, er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth o’r risgiau a’r cyfleoedd y mae newid yn yr hinsawdd yn eu creu i’r amgylchedd hanesyddol yng Nghymru, a’r angen i addasu. Yn Adran 6 y Cynllun mae cyfres o brif gamau gweithredu gydag allbynnau a chanlyniadau a fwriedir ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol.

Rydym bellach yng ngham ‘adroddiad interim ar weithgarwch’ Blwyddyn 3 cylch Fframwaith Monitro a Gwerthuso 5 mlynedd Cynllun Addasu’r Sector (ar gael yma). Felly mae Is-grŵp Newid yn yr Hinsawdd HEG wedi lansio eu hymgynghoriad i gasglu tystiolaeth o weithgarwch addasu sy’n berthnasol i’r amgylchedd hanesyddol yng Nghymru, a gynhaliwyd yn ystod 2022. Bydd hyn yn ein helpu i werthuso cynnydd yn erbyn y camau gweithredu sydd wedi’u cyhoeddi ac i nodi bylchau a meysydd blaenoriaeth sydd angen sylw pellach.

Diolch i chi ar ran Is-grŵp Newid yn yr Hinsawdd HEG

24/01/2023

Subscribe
Notify of
guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x