
Ydych chi’n ymwneud â gwaith cysylltiedig â’r Amgylchedd Hanesyddol a Newid yn yr Hinsawdd yng Nghymru?
Cymerwch ran yn ein Harolwg Gweithgarwch o’r Amgylchedd Hanesyddol ac Addasu i Newid yn yr Hinsawdd ar gyfer 2021!
- Rydym yn awyddus i glywed enghreifftiau o weithgareddau perthnasol rydych yn ymwneud â hwy neu’n gwybod amdanynt.
- Mae hwn yn gyfle gwerthfawr i gyfrannu at reoli ein hamgylchedd hanesyddol yn y dyfodol.
- Bydd canlyniadau’r ymgynghoriad hwn yn ein helpu i baratoi adroddiad yn ystod Gwanwyn 2022 ar gyfer Llywodraeth Cymru a fydd yn cael ei ddosbarthu ar draws Sector yr Amgylchedd Hanesyddol yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
- Mae dogfennau’r ymgynghoriad a dolen i gyfrannu tystiolaeth o weithgareddau ar gael o https://cadw.llyw.cymru/cyngor-a-chymorth/newid-hinsawdd/harolwg-gweithgarwch-or-amgylchedd-hanesyddol-ac-addasu-i-newid-yn
- Bydd yr ymgynghoriad yn cau am 14:00 ar 18 Chwefror 2022.
Cefndir
Fis Chwefror 2020 cyhoeddodd Grŵp yr Amgylchedd Hanesyddol (HEG) Gynllun Addasu’r Sector (SAP, sydd ar gael yma) y sector Amgylchedd Hanesyddol a Newid Hinsawdd, er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth o’r risgiau a’r cyfleoedd y mae newid yn yr hinsawdd yn eu creu i’r amgylchedd hanesyddol yng Nghymru, a’r angen i addasu. Yn Adran 6 y Cynllun mae cyfres o brif gamau gweithredu gydag allbynnau a chanlyniadau a fwriedir ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol.
Rydym bellach yng ngham ‘adroddiad interim ar weithgarwch’ Blwyddyn 2 cylch Fframwaith Monitro a Gwerthuso 5 mlynedd Cynllun Addasu’r Sector (ar gael yma). Felly mae Is-grŵp Newid yn yr Hinsawdd HEG wedi lansio eu hymgynghoriad i gasglu tystiolaeth o weithgarwch addasu sy’n berthnasol i’r amgylchedd hanesyddol yng Nghymru, a gynhaliwyd yn ystod 2021. Bydd hyn yn ein helpu i werthuso cynnydd yn erbyn y camau gweithredu sydd wedi’u cyhoeddi ac i nodi bylchau a meysydd blaenoriaeth sydd angen sylw pellach.
Diolch i chi ar ran Is-grŵp Newid yn yr Hinsawdd HEG
01/25/2022